Canllawiau i reolwyr, cyflogwyr, a'r rhai sy'n gyfrifol am gefnogi sefydlu ar gyfer gweithwyr a dysgwyr. Yma fe welwch wybodaeth am beth yw'r AWIF a pham ei fod yn bwysig i weithwyr a chyflogwyr newydd.
Cyflwyniad
Uchelgais Llywodraeth Cymru yw datblygu gweithlu medrus ar gyfer y maes gofal plant a chwarae plant, a sicrhau ei fod yn broffesiwn uchel ei barch ac yn yrfa o ddewis, a bod y sector yn cael ei gydnabod am ei rôl bwysig wrth gynorthwyo gyda datblygiad ein plant.
Fel rhan o'r cymorth ehangach ar gyfer hyfforddiant, mae Cynllun Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar – Rhagfyr 2017 Llywodraeth Cymru yn disgwyl i;
‘bob lleoliad blynyddoedd cynnar ddarparu rhaglen sefydlu i bob gweithiwr newydd i’w helpu i ddeall pwysigrwydd ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn a’r gwerthoedd sy’n ategu gwaith yn y blynyddoedd cynnar’.
MaeSafonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i Blant hyd at 12 oed Llywodraeth Cymru, Ebrill 2016 yn disgwyl bod;
‘pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant sefydlu, sy'n cynnwys polisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant ac iechyd a diogelwch, yn ystod eu hwythnos gyntaf yn y gwaith'
Ni ddylech ddiystyru pwysigrwydd cyfnod sefydlu sydd wedi’i gynllunio’n dda a’i ystyried yn ofalus, a’r effaith gadarnhaol a gaiff ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir. Mae cyfnod sefydlu da a chadarn yn sicrhau bod gweithwyr yn deall pwysigrwydd ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn a’r gwerthoedd sy’n sylfaen i waith ym maes y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Hefyd, bydd yn helpu gweithwyr i ymgyfarwyddo a chyflawni eu gwaith yn fwy effeithiol. Bydd yn sicrhau eu bod yn gwybod beth yw eu rôl yn ogystal â therfynau'r rôl. Gall wella ymroddiad gweithwyr a boddhad mewn swydd, a chael effaith gadarnhaol ar leihau trosiant staff.
At ddibenion y ddogfen hon, defnyddir y termau "gweithiwr" a "rheolwr" er mwyn sicrhau cysondeb a hwylustod.
Os nad ydych mewn rôl gyflogedig (er enghraifft, os ydych yn warchodwr plant cofrestredig), mae'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) yn ddefnyddiol ar gyfer datblygu hunanfyfyrio wrth ymuno â'r sector neu ar ôl newid swydd. Ar gyfer gwarchodwr plant cofrestredig, gall y canllawiau ar gyfer y gweithiwr a'r rheolwr fod yn berthnasol gan ddibynnu ar eu rôl yn y sector.
Os ydych yn rheoli gweithwyr ac yn cael eich rheoli gan reolwr arall hefyd, bydd y canllawiau ar gyfer gweithwyr a rheolwyr yn berthnasol i chi.
Beth yw fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant (AWIF)?
Mae fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant (AWIF) yn adnodd i reolwyr asesu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad staff newydd, a bydd yn eich helpu i nodi, cofnodi a chynllunio ar gyfer eu hanghenion datblygu.
Gellir defnyddio'r AWIF fel sylfaen i ddatblygu neu wella'r broses sefydlu yn eich gweithle.
Mae'r AWIF yn eich helpu chi fel rheolwr i ddarparu proses sefydlu effeithiol drwy:
- ddarparu fframwaith y gallwch ei ddefnyddio fel sail i’r broses sefydlu neu er mwyn llywio rhaglen sefydlu eich lleoliad
- darparu proses glir ac adnodd i asesu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad eich gweithwyr, a nodi eu cryfderau a’u hanghenion datblygu
- eich helpu i nodi a darparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu er mwyn galluogi eich gweithwyr i wneud eu swydd yn effeithiol a diogel
- sicrhau bod pob proses sefydlu ar draws y sector yn debyg o ran natur, gan ddarparu meincnod.
Mae'r AWIF yn helpu gweithwyr newydd trwy:
- nodi’n glir yr hyn sydd i’w ddisgwyl ganddynt
- rhoi cyfle i ddatblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer ymarfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant; yn benodol, yr egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n sail i unrhyw ofal a chymorth
- darparu cymorth ar gyfer rolau a chyfrifoldebau newydd sy'n newid drwy'r amser
- creu tystiolaeth y gellir ei defnyddio tuag at ennill y cymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer ymarfer
- darparu tystiolaeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy ar draws y sector.
Sut i gwblhau'r fframwaith
Mae pum adran yn yr AWIF sy'n cyd-fynd â Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2: Craidd ac mae angen cwblhau pob adran:
- Adran 1 – Egwyddorion a gwerthoedd
- Adran 2 – Iechyd, llesiant, dysgu a datblygiad
- Adran 3 – Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr y blynyddoedd cynnar a gofal plant
- Adran 4 – Diogelu plant
- Adran 5 – Iechyd a diogelwch ym maes gofal, dysgu, datblygiad a chwarae plant.
Mae pob adran:
- yn nodi'r egwyddorion a'r gwerthoedd ym maes y blynyddoedd cynnar a gofal plant y mae angen i weithwyr eu harddangos
- yn nodi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu hamlygu yn ystod eu cyfnod sefydlu
- yn cynnwys cofnod cynnydd i gofnodi'r dystiolaeth a gasglwyd gan y gweithiwr.
Pwy ddylai gwblhau'r fframwaith?
Waeth a yw unigolion yn cael eu cyflogi'n llawn amser, yn rhan-amser, ar sail sesiynol neu fel gwirfoddolwr, dylai'r fframwaith gael ei gwblhau gan y canlynol:
Gweithwyr sy'n ymuno â sector y blynyddoedd cynnar o'r newydd
Dylai pob gweithiwr newydd gwblhau pob un o'r deilliannau dysgu gwybodaeth graidd, ond mae’r elfennau ymarfer yn benodol i swydd y gweithiwr.
Gweithwyr sy'n ymuno â sefydliad o'r newydd
Os yw gweithwyr yn ymuno â sefydliad o'r newydd, ond eu bod yn gallu dangos eu bod eisoes wedi ennill cymhwyster perthnasol a/neu wedi cwblhau fframwaith sefydlu, ni fydd angen iddynt gwblhau'r fframwaith cyfan.
Gall tystiolaeth achrededig (e.e. o gymhwyster) weithredu fel 'pasbort' a rhoi hyder i chi bod y meysydd dysgu craidd eisoes wedi'u cwmpasu.
Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn gallu cyflawni'r deilliannau, efallai y byddwch am gael trafodaethau pellach gyda nhw. Fel rhan o'r broses sefydlu, dylid arsylwi ar weithwyr i weld sut maent yn cymhwyso eu dysgu yn ymarferol.
Mae'n rhaid i chi hysbysu gweithwyr newydd am bolisïau a gweithdrefnau'r sefydliad yn ymwneud â'ch gweithle neu eu rôl.
Gweithwyr sy'n ymgymryd â rôl newydd neu sydd â phrofiad blaenorol mewn sector gwahanol
Dylech ddarganfod pa agweddau ar ddysgu y mae gweithwyr newydd sydd â phrofiad blaenorol mewn sector gwahanol neu weithwyr sy'n ymgymryd â rôl newydd eisoes wedi'u cwblhau fel rhan o'u cymhwyster neu fframwaith sefydlu blaenorol.
Yna, dylid mapio'r dysgu yn erbyn gofynion eu swydd newydd er mwyn nodi unrhyw fylchau. Mae angen cyflwyno cynllun gweithredu yn ymwneud â sut a phryd y mae angen datblygu unrhyw ddysgu newydd i lenwi'r bylchau a nodwyd.
E.e. os yw gweithiwr yn symud o weithio mewn clwb ar ôl ysgol i glwb cyn-ysgol.
Gweithwyr sy'n dychwelyd ar ôl seibiant gyrfa
Mae'n bwysig bod gweithwyr sy'n dychwelyd i'r sector yn dilyn seibiant gyrfa, megis absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb salwch hirdymor, yn cael cyfle i fyfyrio ac ailedrych ar unrhyw ddeilliannau dysgu, gan nodi unrhyw fylchau mewn gwybodaeth.
Aelod presennol o staff fel ffordd o gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
Gall fod yn fanteisiol defnyddio'r Fframwaith Sefydlu fel adnodd ar gyfer staff presennol mewn perthynas â'u DPP.
Gweithiwr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Cymhwyster craidd cyn cyflogaeth
Gallech gyflogi gweithwyr newydd sydd eisoes wedi cwblhau'r cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Cymhwyster craidd cyn eu cyflogaeth. Mae cynnwys y Fframwaith Sefydlu yn adlewyrchu cynnwys y cymhwyster craidd, a gallwch ddefnyddio'r dystiolaeth achrededig o'r cymhwyster fel 'pasbort' i roi hyder i chi fod y meysydd dysgu craidd eisoes wedi'u cwmpasu.
Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn gallu cyflawni'r deilliannau, efallai y byddwch am gael trafodaethau pellach gyda nhw. Fel rhan o'r broses sefydlu, dylid arsylwi ar weithwyr i weld sut maent yn cymhwyso eu dysgu yn ymarferol.
Sut i gefnogi gweithwyr
Dylech gwblhau'r cofnodion cynnydd ar gyfer pob adran gyda'r gweithiwr, gan sicrhau bod tystiolaeth i ategu gwybodaeth, dealltwriaeth neu ddeilliannau ymarferol y gweithiwr.
Argymhellir y dylai'r rhan fwyaf o weithwyr allu cwblhau'r AWIF o fewn chwe mis cyntaf eu cyflogaeth. Fodd bynnag, efallai y bydd angen amser ychwanegol mewn amgylchiadau eithriadol. Mae angen i unrhyw amgylchiadau eithriadol eraill, megis gweithwyr rhan-amser, gael eu hystyried ar y cyd gan gyflogwyr a rheoleiddwyr gwasanaethau.
Dim ond ar ôl i'r holl ddeilliannau gael eu cyflawni y dylai'r AWIF gael ei gymeradwyo gan y rheolwr.
Gellir casglu tystiolaeth i gwblhau'r cofnodion cynnydd trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu er mwyn penderfynu bod gweithiwr yn deall ei rôl a'i gyfrifoldebau, a'i ymarfer.
Y mathau o dystiolaeth y gellir eu defnyddio i gefnogi'r AWIF
• cwblhau'r gweithlyfrau
• cwestiynau dilynol
• cwestiynau ysgrifenedig neu lafar
• goruchwylio
• cyfarfodydd tîm
• aseiniadau
• astudiaethau achos gyda chwestiynau
• cyflwyniadau
• profion
• arsylwi’n uniongyrchol ar ymarfer
• adborth gan eraill – er enghraifft, unigolion, teuluoedd/gofalwyr, gweithwyr eraill
• cofnodion hunanasesu / myfyriol
• cwblhau'r cyfnod prawf
• cwblhau gweithdrefnau sefydlu'r sefydliad
• cyfraniadau gan ddarparwyr dysgu
• myfyrio ar bresenoldeb tystiolaeth hyfforddi o ddysgu / cymwysterau cymwysterau achrededig.
Gall eich gweithwyr ddod o hyd i gymorth a chyngor ar sut i gwblhau'r fframwaith asesu yn y canllawiau i weithwyr.
Manylir ar rai o’r dulliau hyn isod:
Cwestiynau dilynol: Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio cwestiynau ‘dilynol’ i brofi dealltwriaeth gweithwyr newydd yn fanylach. Yn ddelfrydol, dylid gwneud hyn mewn ffordd sy’n dangos sut maent yn meddwl ac yn eu helpu i drafod eu meddyliau. Gellir gwneud hyn wrth oruchwylio gweithiwr er enghraifft.
Arsylwi'n uniongyrchol ar ymarfer: Bydd yr agwedd hon ar asesu yn darparu tystiolaeth o sut y mae gweithwyr newydd yn perfformio yn eu swydd a sut y maent yn defnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth wrth ymarfer. Bydd adborth adeiladol am eu hymarfer yn helpu gweithwyr newydd i wybod sut maen nhw'n dod ymlaen a deall pa feysydd sydd angen eu gwella mewn ffordd gefnogol. Gall hyn fod yn ffordd o ddatblygu tystiolaeth lle nad oes angen i'r gweithiwr gael ei 'dynnu oddi wrth ei waith.’
Adborth gan eraill: Gall adborth gan deuluoedd / gofalwyr a gweithwyr eraill fod yn bwysig wrth bwyso a mesur sut mae’r gweithiwr newydd yn datblygu. Mae’n bwysig gwneud hyn mewn ffordd sy’n agored ac yn gefnogol i ddysgu.
Myfyrio: Gellir gofyn i’r gweithiwr newydd gyflwyno enghraifft o rywbeth maen nhw wedi’i wneud sy'n gysylltiedig â gwaith, gan ystyried a oedd yn llwyddiant neu beidio, beth oedd y canlyniadau a'r gwersi a ddysgwyd. Mae’n ffordd dda o benderfynu a yw gweithiwr yn gallu pwyso a mesur tasgau a dysgu drwy fyfyrio a dadansoddi.
Cwblhau'r gweithlyfrau: Byddwch yn gallu defnyddio ymatebion y gweithwyr i gwestiynau a gweithgareddau yn y gweithlyfrau i benderfynu a ydynt wedi dangos eu bod yn gwybod am bynciau penodol neu'n eu deall.
Goruchwyliaeth: Gall sesiwn oruchwylio fod yn ffordd dda o bwyso a mesur cynnydd gweithwyr newydd. Dylid cynnwys eitem safonol ar yr agenda ar gyfer sefydlu fel rhan o'r broses oruchwylio, a dylech ddefnyddio nodiadau fel tystiolaeth neu gwblhau rhannau o'r cofnod cynnydd yn ystod y cyfnod hwn.
Defnyddio darparwyr dysgu allanol: Efallai y byddwch am ddefnyddio darparwr dysgu allanol i gyflwyno elfennau o wybodaeth yn y Fframwaith Sefydlu sy'n anodd eu cyflawni'n fewnol. Yna, gallwch sicrhau bod gweithwyr yn gwybod neu'n deall beth maen nhw wedi'i ddysgu drwy drafodaethau. Bydd angen i chi gefnogi'r gweithiwr o hyd i gwblhau'r deilliannau dysgu ymarferol gan nad oes modd i'r rhain gael eu cwmpasu gan ddarparwyr dysgu allanol.
Cwblhau hyfforddiant gorfodol / mewnol: Gellir croesgyfeirio hyfforddiant gorfodol, hyfforddiant mewnol neu allanol a gwblheir gan y gweithiwr â rhai o'r deilliannau dysgu o fewn y Fframwaith Sefydlu e.e. diogelu. Dylid cynorthwyo gweithwyr i fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd o hyfforddiant er mwyn sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth glir o sut mae’n berthnasol i'w rôl.
Cwblhau prosesau sefydlu / cyfnod prawf y sefydliad: Gall prosesau sefydlu eich sefydliad neu gyfnod prawf gweithwyr fod yn ffynhonnell dystiolaeth dda y gellir ei defnyddio tuag at gwblhau elfennau o'r Fframwaith Sefydlu. Dylid croesgyfeirio'r deilliannau hyn er mwyn lleihau'r angen i'r gweithiwr ailadrodd dysgu.
Cyfarfodydd tîm: Gall cyfarfodydd tîm fod yn ffordd dda o drafod rhai o'r pynciau sy'n cael eu cynnwys yn y Fframwaith Sefydlu. Mae hyn yn ffordd dda hefyd o gyflwyno pynciau i'r tîm staff cyfan ar yr un pryd a dechrau trafodaethau (e.e. defnydd derbyniol o'r cyfryngau cymdeithasol). Efallai y byddwch am gynnwys pynciau sefydlu fel eitem safonol ar yr agenda.
Pwy sy'n gallu cefnogi gweithwyr?
Mae amrywiaeth o bobl yn gallu cyfrannu at y gwaith o asesu'r wybodaeth graidd a'r deilliannau dysgu ymarfer yn y Fframwaith Sefydlu, gan gynnwys:
- rheolwr llinell uniongyrchol
- dirprwy reolwr
- goruchwyliwr
- arweinydd tîm
- mentor
- asesydd cymwysterau.
Adnoddau i'ch cynorthwyo
Llyfrau gwaith
Mae llyfrau gwaith wedi'u datblygu ar gyfer pob adran er mwyn helpu i gyflwyno'r Fframwaith Sefydlu a chynorthwyo gweithwyr newydd i ddarparu rhywfaint o'r dystiolaeth sydd ei hangen i gyflawni'r deilliannau dysgu ar gyfer gwybodaeth graidd yn y logiau cynnydd.
Adnoddau dysgu
Mae set o adnoddau dysgu cynhwysfawr wedi'u datblygu gan CBAC a City and Guilds a allai fod yn ddefnyddiol fel adnodd ychwanegol.
Geirfa
Mae geirfa ar gael sy’n cwmpasu’r Fframwaith Sefydlu ac yn darparu diffiniadau o’r termau a ddefnyddir. Bydd unrhyw beth sydd wedi'i farcio mewn print trwm yn y cofnodion cynnydd yn cael ei gynnwys.
Cysylltiadau â'r cymwysterau ymarfer
Mae deilliannau ymarfer y Fframwaith Sefydlu yn adlewyrchu cynnwys unedau gorfodol y Cymwysterau Ymarfer (Lefel 2/3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer)
Gellir defnyddio cofnodion o arsylwadau, nodiadau goruchwylio ac ati a ddefnyddiwyd ar gyfer y Fframwaith Sefydlu'n ddiweddarach fel tystiolaeth tuag at gwblhau'r Cymhwyster Ymarfer. Bydd asesydd cymwysedig yn rhoi cyngor ar yr hyn y gellir ei ddefnyddio.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.
Cynnwys cysylltiedig
- Fframwaith sefydlu ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant
- Canllawiau i weithwyr
- Logiau cynnydd
- Llyfrau gwaith
- Geirfa