Jump to content
Sesiwn i gyflogwyr am ein Codau Ymarfer Proffesiynol newydd
Digwyddiad

Sesiwn i gyflogwyr am ein Codau Ymarfer Proffesiynol newydd

Dyddiad
25 Mawrth 2026, 11am i 12pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymunwch â ni yn ein sesiwn ar-lein i gyflogwyr glywed mwy am ein codau newydd.

Rydym wedi diweddaru ein Codau Ymarfer Proffesiynol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr yng Nghymru i'w gwneud yn gliriach ac yn haws i'w dilyn.

O 1 Gorffennaf 2026, bydd angen i bawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru ddilyn y codau newydd.

Beth fydd y sesiwn ei gynnwys

Byddwn yn dweud wrthych am y codau wedi'u diweddaru a'n canllawiau ymarfer newydd ar gyfer gweithwyr a rheolwyr gofal cymdeithasol, a gweithwyr cymdeithasol.

Byddwn yn rhoi cyngor ymarferol i chi ynghylch sut y gallwch chi gefnogi eich staff i ddefnyddio'r codau a'r canllawiau yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Bydd cyfle hefyd i chi ofyn cwestiynau.