Dysgwch sut i godi pryder ac am y broses addasrwydd i ymarfer
I bwy mae’r sesiwn hon
Rheolwyr gofal cymdeithasol, Unigolion Cyfrifol ac unrhyw un arall sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a all wneud atgyfeiriadau i’n tîm addasrwydd i ymarfer.
Yn ystod y sesiwn hon, byddwn yn bwrw golwg ar:
- wahanol fathau o amhariadau ac enghreifftiau o amhariadau posibl ar ymarfer gweithiwr
 - y Codau Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol
 - pam y dylid gyfeirio atom
 - sut i godi pryder am unigolyn a chyfeirio i’r gwasanaeth
 - pryd i gyfeirio
 - beth i’w gyfeirio neu ddim
 - y broses ymchwilio
 - y cymorth sydd ar gael i weithwyr, tystion a’r bobl sy’n codi pryder gyda ni
 
Sylwch: ni fyddwn yn gallu trafod unrhyw achosion cyfredol gyda chi nac unrhyw bryderon penodol sydd gennych, ond byddwn yn rhannu manylion cyswllt y tîm addasrwydd i ymarfer am gymorth pellach.
Dyddiadau
- Dydd Mawrth 16 Rhagfyr, 10am i 12.30pm
 - Dydd Mawrth 24 Mawrth, 1pm i 3pm.