Jump to content
Gweithdy cyflogwyr gofal cymdeithasol: cefnogi gweithwyr i ennill eu cymwysterau yn eich gweithle
Digwyddiad

Gweithdy cyflogwyr gofal cymdeithasol: cefnogi gweithwyr i ennill eu cymwysterau yn eich gweithle

Dyddiad
21 Tachwedd 2024, 1.30pm i 4.30pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni'n cynnal gweithdy ar gyfer rheolwyr a chyflogwyr sefydliadau gofal cymdeithasol sy’n cefnogi gweithwyr i ennill eu cymwysterau.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwch yn:

  • edrych ar daith gweithwyr o ddechrau eu cyflogaeth, cwblhau eu sefydlu, cefnogi eu cofrestriad a mynd ar y cymwysterau Craidd ac Ymarfer
  • meddwl am y dystiolaeth y gellir ei defnyddio i gefnogi sefydlu a sut y gellir defnyddio'r un dystiolaeth ar gyfer y Llwybr Asesu Cyflogwyr i gofrestru
  • esbonio beth sydd angen gan reolwyr a chyflogwyr i gefnogi gweithwyr i ennill eu cymwysterau ar lefelau 2 a 3
  • rhannu esiamplau o ymarfer da wrth gefnogi gweithwyr i ennill eu cymwysterau yn mynd hyd yn hyn
  • archwilio a thrafod sefydlu a chymwysterau ymhellach gyda rheolwyr a chyflogwyr eraill
  • cyflwyno’r Canllaw ymarfer da ar gyfer dysgwyr, cyflogwyr a rheolwyr
  • rhwydweithio gyda rheolwyr a chyflogwyr eraill, trafod heriau a rhannu atebion.