Jump to content
Wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant: "Pan nad yw'n teimlo'n iawn": deall anaf moesol yn y blynyddoedd cynnar
Digwyddiad

Wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant: "Pan nad yw'n teimlo'n iawn": deall anaf moesol yn y blynyddoedd cynnar

Dyddiad
13 Tachwedd 2025, 10am i 11am
Lleoliad
Ar-lein, Microsoft Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Rhwng 10 a 14 Tachwedd byddwn ni'n cynnal digwyddiadau ar-lein a'n rhannu arfer da i ddathlu ein hwythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant cyntaf erioed. Mae'r digwyddiad yma'n ran o'r wythnos ddysgu.

Gallwch weld y rhaglen lawn yma.

Ydych chi erioed wedi mynd adref o'r gwaith gyda theimlad trwm yn eich brest, nid oherwydd yr hyn a ddigwyddodd, ond oherwydd yr hyn a ddylai fod wedi digwydd, ac na wnaeth? Efallai eich bod wedi dilyn y rheolau, ond nid oedd yn teimlo'n iawn. Mae gan y teimlad tawel, ansefydlog hwnnw enw - anaf moesol.

Yn y sesiwn ddifyr a myfyriol hon, byddwn yn archwilio beth yw anaf moesol a pham bod ei gydnabod yn bwysig i bawb sy'n gweithio yn y blynyddoedd cynnar. P'un a ydych chi'n fyfyriwr sy'n paratoi ar gyfer eich lleoliad cyntaf, yn ymarferydd sy'n jyglo heriau bywyd go iawn, neu'n arweinydd sy'n gyfrifol am lesiant tîm, mae'r sesiwn hon yn cynnig rhywbeth i chi.

Byddwn ni'n edrych ar sut mae anaf moesol yn ymddangos yn ymarferol a pham y gall amharu ar ein gwytnwch, tosturi a chysylltiad os caiff ei adael yn dawel. Yn bwysicaf oll, byddwn ni'n rhannu ffyrdd o sylwi arno'n gynnar, siarad amdano yn ddiogel, a'ch cefnogi chi ac eraill drwyddo. Byddwn ni hefyd yn archwilio pam mae ymgorffori'r arferion hyn yn floc adeiladu pwysig ar gyfer cryfhau llesiant a gwytnwch yn ein sector.

Byddwn ni'n gadael gyda mwy o eglurder, tosturi, ac offer ymarferol i chi'ch hun, eich tîm, a'r teuluoedd rydych chi'n eu gwasanaethu.

Siaradwr

Kat Applewhite, Prif Swyddog Gweithredol Here2There

Gyda gyrfa sy'n ymroddedig i ddatblygu pobl a chefnogi ymarfer sy'n cael ei yrru gan werthoedd, mae Kat yn Hyfforddwr Gweithredol Lefel 7 a'n ymgynghorydd profiadol sy'n arbenigo mewn datblygu'r gweithlu, hyfforddi ac ymarfer myfyriol. Mae ei gwaith mewn gwasanaethau blynyddoedd cynnar yng Nghymru wedi canolbwyntio ar rymuso gweithwyr proffesiynol i ymdrin â heriau emosiynol a moesegol anodd yn eu rolau.

Fel Prif Swyddog Gweithredol Here2There (H2T), mae'n arwain sefydliad sy'n dylunio technoleg sy'n canolbwyntio ar bobl a'n rhoi ymgynghoriaeth arbenigol i helpu pobl a sefydliadau i gysylltu, symud ymlaen a ffynnu. Wrth wraidd ei gwaith mae ymrwymiad dwfn i lesiant, cysylltiad dilys a dangos lleisiau'r rhai sy'n aml heb eu clywed.

Mae hi hefyd yn sylfaenydd WellNuts Parents, cymuned sy'n cefnogi teuluoedd a gweithwyr proffesiynol trwy ddealltwriaeth a rhannu ac adeiladu gwytnwch. Mae ei dull yn cyfuno mewnwelediad, empathi ac arloesedd, gan wneud lle i fyfyrio gonest am yr hyn y mae'n ei olygu i garu, gofalu, addysgu a chadw'n iach wrth gefnogi plant ag anghenion ychwanegol a chefndir trawma.