Jump to content
Wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant: Adnodd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella
Digwyddiad

Wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant: Adnodd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella

Dyddiad
14 Tachwedd 2025, 10am i 11am
Lleoliad
Ar-lein, Microsoft Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Rhwng 10 a 14 Tachwedd byddwn ni'n cynnal digwyddiadau ar-lein a'n rhannu arfer da i ddathlu ein hwythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant cyntaf erioed. Mae'r digwyddiad yma'n ran o'r wythnos ddysgu.

Gallwch weld y rhaglen lawn yma.

Mae'r sesiwn hon yn cyflwyno gwefan Y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, gan ganolbwyntio ar yr Adnodd Sgiliau Ymchwil, Arloesi a Gwella (RII). Wedi'i gynllunio i gefnogi datblygiad sgiliau RII ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol, mae'r adnodd yn helpu i leihau rhwystrau cyffredin fel amser, cyllid, a llywio tirwedd gymhleth.

Bydd mynychwyr yn archwilio sut y gellir cymhwyso'r adnodd sgiliau RII i'w hymarfer eu hunain, gydag enghreifftiau ymarferol ac arweiniad.

Siaradwyr

Dr Kate Howson, Rheolwr Partneriaethau Ymchwil, Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Kate yn arwain ymdrechion i gryfhau'r defnydd o ymchwil mewn ymarfer a pholisi gofal cymdeithasol. Gyda chefndir mewn ymchwil gymdeithasol a PhD sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd rhwng cenedlaethau mewn cartrefi gofal, mae Kate yn dod â dealltwriaeth ddofn o sut y gall cysylltiadau ystyrlon a dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth wella canlyniadau ar draws oedrannau.

Mae Kate yn gweithio'n agos gydag ymchwilwyr, sefydliadau ac ymarferwyr ledled Cymru i gefnogi'r defnydd o ymchwil, nodi cyfleoedd i weithio gyda'i gilydd, a meithrin sgiliau ymchwil yn y gweithlu. Mae ei gwaith yn sicrhau bod ymchwil yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion y rhai sy'n darparu ac yn derbyn gofal.

Mae Kate yn angerddol am gysylltu pobl o bob oed a'n credu bod perthnasoedd cryf yn allweddol i ddysgu a gwella. Y tu allan i'r gwaith, mae hi'n mwynhau'r awyr agored, cerddoriaeth, ymarfer corff, a threulio amser gyda ffrindiau a theulu.

Alison Kulkowski, Rheolwr Partneriaethau Arloesi, Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Alison yn arwain mentrau i gefnogi arloesedd mewn ymarfer a pholisi gofal cymdeithasol yng Ngofal Cymdeithasol Cymru. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad ar draws gofal cymdeithasol ac addysg uwch, mae Alison wedi arwain yn llwyddiannus i ddatblygu a chyflwyno strategaethau, polisïau a phrosiectau sy'n cefnogi gwelliant ac arloesi.

Mae Alison yn angerddol am weithio ar y cyd i greu newid cadarnhaol ac yn credu bod perthnasoedd cryf, ymddiriedol wrth wraidd timau a phrosiectau llwyddiannus.