Jump to content
Wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant: Caniatâd i flaenoriaethu eich hun – pecyn cymorth iechyd meddwl i bobl sy'n gweithio mewn blynyddoedd cynnar a gofal plant
Digwyddiad

Wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant: Caniatâd i flaenoriaethu eich hun – pecyn cymorth iechyd meddwl i bobl sy'n gweithio mewn blynyddoedd cynnar a gofal plant

Dyddiad
13 Tachwedd 2025, 2pm i 3pm
Lleoliad
Ar-lein, Microsoft Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Rhwng 10 a 14 Tachwedd byddwn ni'n cynnal digwyddiadau ar-lein a'n rhannu arfer da i ddathlu ein hwythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant cyntaf erioed. Mae'r digwyddiad yma'n ran o'r wythnos ddysgu.

Gallwch weld y rhaglen lawn yma.

'Mae eich llesiant yn bwysig' - Caniatâd i flaenoriaethu eich hun.

Dyma gyflwyniad i'r syniad o flaenoriaethu ein hunain fel y gallwn fod yn effeithiol yn ein rolau gwaith. Byddwch chi'n clywed am ymchwil a wnaed yn 2025 sy'n denu sylw at gyflwr iechyd meddwl pobl sy'n gweithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Yn y sesiwn byddwn yn rhoi 'pecyn cymorth' o dechnegau i chi sy'n canolbwyntio ar leihau straen a phryder, codi eich hwyliau a chynyddu eich gwytnwch, ymdopi a llesiant. Bydd cyfle i rannu eich profiadau a'ch syniadau eich hun gydag eraill.

Siaradwyr

Kate Newman, Rheolwr Llesiant y Gweithlu, Gofal Cymdeithasol Cymru

Kate yw Rheolwr Datblygu Iechyd a Llesiant Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae rôl Kate yn cynnwys rhannu gwybodaeth am beth mae llesiant yn y gwaith yn ei olygu, pam ei fod yn bwysig a sut y gallwn wneud gwahaniaeth i gefnogi llesiant yn y gwaith.

Cyn gweithio i Gofal Cymdeithasol Cymru, gweithiodd Kate ar draws y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector mewn rolau sy'n cwmpasu datblygu iechyd cymunedol, comisiynu iechyd cyhoeddus, partneriaethau a pherthnasoedd.

Leo Holmes, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth Blynyddoedd Cynnar Cymru

Mae gan Leo gefndir o weithio yn y sector elusennol a gwleidyddiaeth, a'n angerddol am bwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal. Mae gan Leo radd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd, ac ar ôl gyrfa fer mewn gwleidyddiaeth, trosglwyddodd i'r trydydd sector, lle dilynodd ei angerdd am waith elusennol.

Mae cysylltiad Leo â'r blynyddoedd cynnar yn deillio o'i dad, a oedd yn rhedeg canolfan plant yn ei dref enedigol. Cafodd Leo ei ysbrydoli gan y gefnogaeth a'r ymdeimlad o gymuned sy'n gysylltiedig â gwaith ei dad. Roedd e'n siomedig tu hwnt pan dorrwyd cyllid y ganolfan.