Jump to content
Wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant - Ymgyrch symudiad
Digwyddiad

Wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant - Ymgyrch symudiad

Dyddiad
10 Tachwedd 2025 i 11 Tachwedd 2025, 10am i 11am
Lleoliad
Ar-lein, Microsoft Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Rhwng 10 a 14 Tachwedd byddwn ni'n cynnal digwyddiadau ar-lein a'n rhannu arfer da i ddathlu ein hwythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant cyntaf erioed. Mae'r digwyddiad yma'n ran o'r wythnos ddysgu.

Gallwch weld y rhaglen lawn yma.

Ymunwch â Leo Holmes wrth iddo gyflwyno ymgyrch 'hyrwyddwr symudiad' Blynyddoedd Cynnar Cymru. Byddwn yn clywed sut mae'n helpu plant ledled Cymru i gael manteision datblygiadol o symud yn rheolaidd.

Bydd y cyflwyniad yn ymdrin â realiti sut, fel cymdeithas, rydyn ni'n dod yn fwy segur ac yn dibynnu mwy ar dechnoleg ddigidol. Mae hyn yn cael effaith negyddol sylweddol ar ddatblygiad plant, gan gyfrannu at bryderon iechyd corfforol a meddwl cynyddol, megis cynnydd sylweddol mewn plant sy'n cael diagnosis o myopia ac yn cyflwyno fel plentyn di-eiriau mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.

Bydd y sesiwn yn trafod sut y gall oedolion ddod yn fodelau rôl symudiad i'r plant yn eu gofal. Mae hyn yn golygu symud yn fwy rheolaidd yn eu bywydau eu hunain a rhoi cyfle i blant symud a chwarae yn ystod y dydd.

Siaradwr

Leo Holmes, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth Blynyddoedd Cynnar Cymru

Mae gan Leo gefndir o weithio yn y sector elusennol a gwleidyddiaeth, a'n angerddol am bwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal. Mae gan Leo radd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd, ac ar ôl gyrfa fer mewn gwleidyddiaeth, trosglwyddodd i'r trydydd sector, lle dilynodd ei angerdd am waith elusennol.

Mae cysylltiad Leo â'r blynyddoedd cynnar yn deillio o'i dad, a oedd yn rhedeg canolfan plant yn ei dref enedigol. Cafodd Leo ei ysbrydoli gan y gefnogaeth a'r ymdeimlad o gymuned sy'n gysylltiedig â gwaith ei dad. Roedd e'n siomedig tu hwnt pan dorrwyd cyllid y ganolfan.