Jump to content
Wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant - O werthoedd i effaith: Ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant
Digwyddiad

Wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant - O werthoedd i effaith: Ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant

Dyddiad
11 Tachwedd 2025, 10am i 11am
Lleoliad
Ar-lein, Microsoft Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Rhwng 10 a 14 Tachwedd byddwn ni'n cynnal digwyddiadau ar-lein a'n rhannu arfer da i ddathlu ein hwythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant cyntaf erioed. Mae'r digwyddiad yma'n ran o'r wythnos ddysgu.

Gallwch weld y rhaglen lawn yma.

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar sut mae dulliau sy'n seiliedig ar werthoedd a chryfderau yn siapio ein harfer bob dydd yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Trwy fyfyrio a thrafodaeth, byddwn ni'n edrych ar sut mae gwerthoedd personol a sefydliadol yn dylanwadu ar ein gwaith, beth yw 'sgiliau meddal', a sut y gall y mewnwelediadau hyn gefnogi hunanwerthuso ystyrlon - yn enwedig wrth baratoi ar gyfer adolygiad Ansawdd Gofal Arolygiaeth Gofal Cymru yn 2026.

Siaradwr

Jay Goulding, Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Jay yn swyddog ymgysylltu a datblygu yng Ngofal Cymdeithasol Cymru, lle mae'n helpu sefydliadau i fabwysiadu ac ymgorffori arferion sy'n seiliedig ar gryfderau, gan gynnwys y rhaglen cyfathrebu cydweithredol.

Ers cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol yn 2003 a hyfforddiant diweddarach mewn therapi teulu systemig, mae Jay wedi dal rolau fel gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol a rheolwr perfformiad a datblygu ar gyfer timau amlddisgyblaethol, gan gynnwys tîm cymorth teulu integredig.

Yn ei rôl bresennol, mae Jay yn hyrwyddo gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd ymarfer tosturiol, cydweithredol, gan sicrhau bod gan ddinasyddion "llais, dewis a rheolaeth." Trwy hyrwyddo dulliau sy'n seiliedig ar gryfderau ac arweinyddiaeth dosturiol, mae'n cefnogi sefydliadau i feithrin diwylliannau cadarnhaol sy'n gwella lles y gweithlu ac yn gwella canlyniadau i bawb.