Jump to content
Wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant: Ymddygiadau craidd – arweinyddiaeth dosturiol
Digwyddiad

Wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant: Ymddygiadau craidd – arweinyddiaeth dosturiol

Dyddiad
11 Tachwedd 2025, 2pm i 3pm
Lleoliad
Ar-lein, Microsoft Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Rhwng 10 a 14 Tachwedd byddwn ni'n cynnal digwyddiadau ar-lein a'n rhannu arfer da i ddathlu ein hwythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant cyntaf erioed. Mae'r digwyddiad yma'n ran o'r wythnos ddysgu.

Gallwch weld y rhaglen lawn yma.

Bydd y sesiwn hon yn edrych ar bwysigrwydd tosturi i wella canlyniadau, llesiant staff a diwylliant sefydliadol.

Beth fyddwn ni'n ei drafod?

Yn y sesiwn byddwn ni'n:

  • dysgu am y pedwar ymddygiad o arweinyddiaeth dosturiol
  • deall y gwahaniaeth y gall arweinyddiaeth dosturiol ei wneud
  • trafod ffyrdd ymarferol y gallwch ddefnyddio egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol i chi'ch hun.

Siaradwr

Bex Steen, Swyddog Datblygu Arweinyddiaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru

Gyda dros 22 mlynedd o brofiad arweinyddiaeth rheng flaen mewn gofal cymdeithasol, mae Bex yn dod ag arbenigedd ac angerdd i'w rôl. Yng Ngofal Cymdeithasol Cymru, mae'n arwain mentrau i ymgorffori arweinyddiaeth dosturiol ar draws y sector.

Bex yw'r grym y tu ôl i raglen sydd wedi'i chynllunio i feithrin diwylliant o dosturi; helpu gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol i deimlo'n effeithiol, yn cael eu gwerthfawrogi a'u cymell yn effeithiol. Mae ei gwaith nid yn unig yn cryfhau'r gweithlu ond hefyd yn gwella ansawdd gofal i'r rhai maen nhw'n eu cefnogi.

Y tu allan i'w chyflawniadau proffesiynol, mae Bex yn adnabyddus am ei hymrwymiad gwirioneddol i wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau pobl.