Rhwng 10 a 14 Tachwedd byddwn ni'n cynnal digwyddiadau ar-lein a'n rhannu arfer da i ddathlu ein hwythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant cyntaf erioed. Mae'r digwyddiad yma'n ran o'r wythnos ddysgu.
Gallwch weld y rhaglen lawn yma.
Rhwng 10 a 14 Tachwedd byddwn ni'n cynnal digwyddiadau ar-lein a'n rhannu arfer da i ddathlu ein hwythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant cyntaf erioed. Mae'r digwyddiad yma'n ran o'r wythnos ddysgu.
Gallwch weld y rhaglen lawn yma.
Bydd y sesiwn yn edrych ar yrfaoedd yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Byddwn ni'n edrych ar y llwybrau presennol sydd ar gael i'r gweithlu, gan ganolbwyntio ar gyfleoedd dilyniant a datblygiad proffesiynol parhaus. Byddwn ni'n clywed straeon am ddilyniant ac yn rhoi blas o'r amrywiaeth o rolau sydd ar gael yn y sector.
Siaradwyr
Sam Greatbanks, Swyddog Ymgysylltu a Datblygu, Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae Sam yn swyddog ymgysylltu a datblygu yng Ngofal Cymdeithasol Cymru. Mae ei rôl yn cynnwys y rhaglen Llwybrau i ofal plant, rhan annatod o hyn yw hyrwyddo ac annog gyrfaoedd yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Mae Sam wedi gweithio yn y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chymorth teuluoedd am dros 25 mlynedd. Mae hi'n ymarferydd a'n rheolwr blynyddoedd cynnar cymwys a phrofiadol ac mae ganddi brofiad mewn nifer o rolau yn y sector. Mae Sam yn angerddol am yrfaoedd blynyddoedd cynnar a gofal plant a rôl hanfodol, gwerth chweil a gwerthfawr y gweithlu gofal plant.
Sam Thomas, Swyddog Arweiniol Ymgysylltu a Datblygu, Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae Sam yn arwain mentrau i ddenu a chefnogi staff newydd i'r sector gofal cymdeithasol trwy hyfforddiant, datblygu adnoddau, ac ymgysylltu â'r sector.
Gyda chefndir mewn plismona, yn arbenigo mewn cam-drin domestig ac amddiffyn plant, symudodd Sam i ofal cymdeithasol dros 22 mlynedd yn ôl. Mae hi'n weithiwr cymdeithasol cofrestredig gyda phrofiad mewn iechyd meddwl oedolion ac amddiffyn plant.
Mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys cam-drin domestig, caethwasiaeth fodern, anffurfio organau cenhedlu benywaidd, a diogelu.
Mae Sam hefyd yn gwasanaethu fel Person Diogelu Dynodedig (DSP) ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Sam wrth ei bodd yn teithio ac mae'n awdur cyhoeddedig.