Rhwng 10 a 14 Tachwedd byddwn ni'n cynnal digwyddiadau ar-lein a'n rhannu arfer da i ddathlu ein hwythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant cyntaf erioed. Mae'r digwyddiad yma'n ran o'r wythnos ddysgu.
Gallwch weld y rhaglen lawn yma.
Rhwng 10 a 14 Tachwedd byddwn ni'n cynnal digwyddiadau ar-lein a'n rhannu arfer da i ddathlu ein hwythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant cyntaf erioed. Mae'r digwyddiad yma'n ran o'r wythnos ddysgu.
Gallwch weld y rhaglen lawn yma.
Yn y sesiwn hon, byddwn ni'n archwilio gwrth-hiliaeth yn y sector gofal plant, gan dynnu ar brofiadau personol a phroffesiynol. Byddwn ni'n edrych ar sut y gall gwahaniaethu ymddangos mewn ffyrdd cynnil ac amlwg mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, a sut y gallwn ni greu amgylcheddau lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, yn ddiogel ac yn gynhwysol.
Mae'r Egwyddorion Gwaith Chwarae a'r Gwerthoedd Craidd yn pwysleisio'r angen i gael gwared ar rwystrau i gyfranogiad trwy gynnal hawl pob plentyn i chwarae a gwerthfawrogi amrywiaeth diwylliannau, cefndiroedd a phrofiadau plant. Byddwn ni'n rhannu enghreifftiau bywyd go iawn, strategaethau ymarferol, a syniadau creadigol y gallwch chi addasu ar gyfer eich lleoliad gofal plant eich hun. Byddwn ni'n trafod heriau, myfyrio ar ein harfer, a gweithio ar hyrwyddo tegwch, parch a pherthyn i bob plentyn a theulu.
Trwy greu mannau cynhwysol lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei barchu a'i gynrychioli, mae gweithwyr chwarae yn herio agweddau ac arferion gwahaniaethol, gan sicrhau bod amgylcheddau chwarae yn deg, croesawgar ac yn ddiogel i bawb.
Siaradwyr
Sarah Sharpe
Mae Sarah yn warchodwr plant ymroddedig sydd wedi'i lleoli ym Mro Morgannwg, gydag angerdd cryf dros greu amgylcheddau cynhwysol, meithrin i blant ifanc. Mae gan Sarah radd Sylfaen mewn Dysgu a Datblygiad Gofal Plant ac mae'n falch o fod yn achrededig Schema Play a Hygge yn y blynyddoedd cynnar. Ym mis Mai 2025, cafodd Sarah yr anrhydedd o dderbyn gwobr Anrhydeddau Gofalwn Cymru, sy'n cydnabod effaith ei gwaith mewn addysg blynyddoedd cynnar.
Yn briod gyda dau o blant sy'n oedolion, mae Sarah'n dod â phrofiad personol a phroffesiynol i'w rôl. Ar ôl cwblhau'r gyfres arweinyddiaeth uwch DARPL (Diversity and Anti-Racist Professional Learning), cymerodd Sarah gamau ystyrlon i wella ei lleoliad. Cyflwynodd Sarah Tirion, tedi bêr niwtral o ran rhywedd gyda mewnblaniad cochlear, i helpu plant i ddathlu gwahaniaethau. Roedd hi hefyd yn rhoi pwyslais cryfach ar deimladau a lles. Cafodd y newidiadau hyn eu cydnabod yn ystod arolygiad AGC, lle cafodd Sarah ei disgrifio fel "gwarchodwr plant sy'n trawsnewid addysg blynyddoedd cynnar" a'i chydnabod fel arfer sy'n werth ei rannu ar eu gwefan.
Mae Sarah yn gobeithio rhoi ysbrydoliaeth a syniadau ymarferol i gefnogi eraill i ddatblygu dull gwrth-hiliol yn eu lleoliadau eu hunain, gan helpu i adeiladu dyfodol tecach i bob plentyn.
Dawn Bunn, Rheolwr Hyfforddiant Cenedlaethol, Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs
Mae Dawn wedi gweithio gyda phlant ers ei bod yn 16 oed, gan ennill profiad ar draws ystod eang o rolau gyda phlant rhwng dim a 12 oed. Er nad gwaith chwarae oedd ei llwybr gyrfa gwreiddiol, ar ôl gweithio mewn clwb gwyliau lle roedd ei mam yn gweithio, gan helpu i gwrdd â chymarebau staffio, nid yw hi erioed wedi edrych yn ôl.
Yn ei rôl bresennol, mae'n canolbwyntio ar hyrwyddo ac arwain hyfforddiant gwaith chwarae ledled Cymru. Mae hi hefyd yn cyfrannu at hyfforddiant gwrth-hiliol yn y sector, fel rhan o waith partneriaid CWLWM. Mae hi'n angerddol am adeiladu Cymru fwy cynhwysol ac yn deall ei bwysigrwydd nid yn unig i blant a gweithwyr chwarae, ond i'r gymuned ehangach hefyd.