Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod yr honiadau o euogfarn am yrru dros y terfyn alcohol cyfreithlon a phresenoldeb yn y gwaith pan nad oeddent yn ffit i wneud hynny oherwydd yfed alcohol wedi’u profi yn erbyn Sophie Griffiths, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.
Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Ms Griffiths i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Ms Griffiths yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bersonau a Dynnwyd o'r Gofrestr.
Mae gan Ms Griffiths yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae mwy o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais, fodd bynnag noder y gallai peth gwybodaeth gael ei golygu.
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru