Jump to content
Sarah Constance Cornish
Rôl cofrestredig
Rheolwr cartrefi gofal oedolion
Canlyniad
Diddymu trwy Gytundeb
Lleoliad
N/A
Cyflogwr
Yn flaenorol Adriana Ltd
Math o wrandawiad
Ni gynhelir panel gan Bwyllgor - proses Diddymu trwy Gytundeb

Crynodeb o'r penderfyniad

Diddymu trwy Gytundeb

Golyga Diddymu trwy Gytundeb bod person cofrestredig yn medru ymgeisio i dynnu eu henw oddi ar y Gofrestr heb gael ei gyfeirio at Banel.

Medrai person cofrestredig ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod proses addasrwydd i ymarfer.

Nid yw ymgeisio i dynnu enw oddi ar y Gofrestr yn golygu fod hawl gan y person cofrestredig gael ei enw wedi ddiddymu, ond mae’n galluogi’r Gofal Cymdeithasol Cymru i ystyried a chytuno diddymiad mewn achosion priodol.

DATGANIAD O FFEITHIAU Y CYTUNWYD ARNYNT

Cyflwyniad
1. Cofrestrodd Sarah Constance Cornish ('Ms Cornish') fel Gweithiwr Cartref Gofal i Oedolion gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar 07 Ionawr 2021.
2. O 4 Ionawr 2019, cafodd Ms Cornish ei chyflogi fel Dirprwy Reolwr gan Adriana Ltd yn Priory Care Home. Roedd ei swydd yn cynnwys cymysgedd o ddyletswyddau gofalu a rheoli’n bennaf.
3. Ar 16 Tachwedd 2022, derbyniodd Gofal Cymdeithasol Cymru atgyfeiriad gan Scott McHattie, Rheolwr Cyffredinol Adriana Ltd.
4. Roedd yr atgyfeiriad yn datgan bod Ms. Cornish wedi cyflawni twyll ar bum achlysur drwy ddefnyddio cerdyn credyd y cyflogwr heb ganiatâd i roi tanwydd yn ei cherbyd personol.
5. Diswyddwyd Ms. Cornish gan ei chyflogwr yn ffurfiol drwy lythyr ar 18 Rhagfyr 2022, yn dilyn cyfarfod disgyblu ar 15 Rhagfyr 2022. Roedd y llythyr disgyblu yn datgan mai’r rheswm dros ddiswyddo oedd “Rydych wedi cyfaddef i ddwyn gan y cwmni”.

Cyhuddiadau

6. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n gwneud y cyhuddiad canlynol:
7. Eich bod, pan oeddech wedi’ch cofrestru fel Gweithiwr Gofal Cartref gyda Gofal Cymdeithasol Cymru:
(1)
'Rhwng 03/09/2022 a 19/10/2022 yn Overmonnow Garage, Trefynwy, eich bod wedi cyflawni twyll drwy ymhonni’n anwir yn anonest, sef cyflwyno cerdyn credyd busnes i dalu am eich tanwydd personol eich hun gyda’r bwriad o gael mantais i’ch hunan’

Casgliad

11. Mae Ms. Cornish yn cadarnhau ei bod yn cytuno â’r ffeithiau a nodwyd yn y datganiad hwn.
12. Cyflwynodd Ms. Cornish gais ffurfiol i gael ei thynnu o’r gofrestr ar 13 Mawrth 2023 a chytunodd Gofal Cymdeithasol Cymru i hyn ar 14 Mawrth 2023.
13. Mae Ms. Cornish yn cadarnhau nad yw hi’n bwriadu gweithio yn y dyfodol mewn unrhyw gapasiti a fyddai’n gofyn iddi fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a’i bod hi’n dymuno i’w henw gael ei dynnu o gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru drwy gytundeb o dan Reol 9 o Reolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ymchwilio) 2022. Mae’r datganiad hwn o ffeithiau y cytunwyd arnynt wedi’i baratoi at y diben hwnnw.
14. Pe bai Ms. Cornish, yn gwneud cais yn groes i’w bwriad am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn y dyfodol, a hynny mewn perthynas ag unrhyw gategori cofrestru, mae’n cydnabod y bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn edrych ar gynnwys y datganiad hwn o ffeithiau y cytunwyd arnynt wrth ystyried cais o’r fath.