Cyfarfu Panel Apêl Cofrestru ar 23 Hydref 2024 i benderfynu a ellid adfer enw Nicola Kendrick i'r Gofrestr.
Wrth ymarfer fel Gweithiwr Gofal Plant Preswyl, tynnwyd enw Nicola Kendrick o'r Gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bersonau a dynnwyd oddi ar y Gofrestr yn 2011, yn dilyn canfyddiad o gamymddwyn..
Roedd y Panel Apêl Cofrestru yn fodlon bod Nicola Kendrick wedi cwrdd ag amryw
rhag-amodau yn ei chais a dangosodd wybodaeth gyfredol am ymarfer. Ar hyn o bryd roedden nhw'n ei chael hi'n ffit i ymarfer a chytunwyd i adfer ei chofrestriad fel Gweithiwr Gofal Plant Preswyl.
Mae gan Nicola Kendrick yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.
yfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru