Jump to content
Danielle Clayfield
Rôl cofrestredig
Gweithiwr Cymdeithasol
Canlyniad
Diddymu trwy Gytundeb
Lleoliad
Gofal Cymdeithasol Cymru
Cyflogwr
Gynt Cyngor Sir Gaerfyrddin
Math o wrandawiad
Ni gynhelir wrandawiad -  proses Diddymu trwy Gytundeb

Crynodeb o'r penderfyniad

Diddymu trwy Gytundeb

Golyga Diddymu trwy Gytundeb bod unigolyn cofrestredig yn medru ymgeisio i dynnu eu henw oddi ar y Gofrestr heb gael ei gyfeirio at Banel.

Mae’r penderfyniad i gytuno’r cais yn cael ei wneud mewn Cynhadledd Achos. Medrai unigolyn cofrestredig ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod proses addasrwydd i ymarfer.

Nid yw ymgeisio i dynnu enw oddi ar y Gofrestr yn golygu fod hawl gan yr unigolyn cofrestredig gael ei enw wedi ddiddymu, ond mae’n galluogi’r Gofal Cymdeithasol Cymru i ystyried a chytuno diddymiad mewn achosion priodol.

I benderfynnu os dylid dderbyn cais fe fydd y Gofal Cymdeithasol Cymru yn ystyried os fod yr honiadau yn ymwneud â materion er budd y cyhoedd.

Cyflwyniad a chefndir

1. Fe wnaeth Ms Danielle Louise Clayfield, yr unigolyn cofrestredig, (Dyddiad Geni 26.08.86) gofrestru gyntaf gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel Gweithiwr Cymdeithasol Cymwysedig ar 27 Mehefin 2014.

2. Cyflogwyd Ms Clayfield i ddechrau gan Gyngor Sir Caerfyrddin ('y Cyngor') fel myfyriwr Gwaith Cymdeithasol ac yna arhosodd yn ei swydd fel Gweithiwr Cymdeithasol Cymwysedig. Bu Ms Clayfield yn gweithio yn yr adran Gwasanaethau Plant yn Nhîm Asesu Llanelli.

3. Roedd ei rôl yn cynnwys dilyn atgyfeiriadau a chynnal asesiadau. Fel rhan o'r broses asesu, roedd disgwyl iddi gysylltu teuluoedd â gwasanaethau priodol a darparu ymyrraeth tymor byr er mwyn mynd i'r afael â materion a gyflwynwyd.

4. Ar 21 Mai 2018, cafodd Ms Clayfield ei hatal dros dro ar ôl i'r Cyngor ddod yn ymwybodol ei bod mewn perthynas â defnyddiwr gwasanaethau / cyn-ddefnyddiwr gwasanaethau, sef Unigolyn B.

5. Yn dilyn ymchwiliad a gwrandawiad disgyblu, cafodd Ms Clayfield ei diswyddo gan y Cyngor o 10 Medi 2018.

Honiadau

Eich bod chi, Gweithiwr Cymdeithasol Cymwysedig, a gyflogir gan Gyngor Sir Caerfyrddin ('y cyngor'):

1. Ar ddyddiadau anhysbys rhwng 5 Medi 2017 a 10 Medi 2018, wedi methu â chynnal ffiniau proffesiynol priodol gydag Unigolyn B, defnyddiwr gwasanaethau neu gyn-ddefnyddiwr gwasanaethau.

6. Rhwng 24 Mai 2017 a 21 Gorffennaf 2017, Ms Clayfield oedd y Gweithiwr Cymdeithasol a ddyrannwyd i Blentyn A, a oedd yn ferch i Unigolyn B. Roedd yn ofynnol iddi gwblhau asesiadau o anghenion gofal a chymorth Plentyn A. Roedd gan fam Plentyn A broblemau iechyd meddwl ac roedd wedi gofyn am ofal seibiant rheolaidd i'r plentyn. Yn ei hasesiad, dywedodd Ms Clayfield wrth fam Plentyn A na fyddai'r Cyngor yn fodlon darparu hyn, ond awgrymodd y dylai Plentyn A gael cyswllt rheolaidd â'i thad, Unigolyn B, yn lle hynny. Yn ystod yr asesiad hwn, ni chafodd Ms Clayfield unrhyw gysylltiad ag Unigolyn B.

7. Rhwng 5 Medi 2017 a 25 Hydref 2017, Ms Clayfield oedd y Gweithiwr Cymdeithasol a ddyrannwyd i Blentyn A unwaith eto. Y tro hwn, roedd mam Plentyn A wedi cael ei derbyn i'r ysbyty oherwydd problemau iechyd meddwl ac roedd Plentyn A yn aros gyda ffrind i'w mam. Cysylltodd Unigolyn B â Ms Clayfield i holi pam na chafodd y plentyn ei roi gydag ef. Rhoddodd mam Plentyn A ganiatâd i Blentyn A aros gydag Unigolyn B. Trefnodd Ms Clayfield i ymweld ag Unigolyn B a Phlentyn A yn ei gartref y diwrnod canlynol.

8. Yn ystod y cyfnod asesu hwn, daeth Ms Clayfield yn ymwybodol bod gan Unigolyn B hanes troseddol blaenorol a'i fod wedi bod yn y carchar ar fwy nag un achlysur am droseddau a oedd yn cynnwys trais. Hefyd, cafodd Ms Clayfield gofnod o'i hanes troseddol gan Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) a thrafododd hyn gydag Unigolyn B.

9. Cwblhaodd Ms Clayfield yr asesiad pellach o anghenion gofal a chymorth Plentyn A. Ar adeg cwblhau hyn ym mis Hydref 2017, gofynnodd Ms Clayfield i Unigolyn B A oedd angen cefnogaeth arno dros gyfnod y Nadolig ar ffurf anrhegion 'Mr X' a hamper bwyd. Dywedodd Unigolyn B ei fod yn cael trafferth gydag arian ac y byddai hyn yn ddefnyddiol. Dywedodd Ms Clayfield nad oedd yn anarferol bryd hynny iddi gyflwyno enwau achosion a oedd yn cael eu cau ar gyfer anrhegion 'Mr X’.

10. Yn ei chyfweliad disgyblu, dywedodd Ms Clayfield ei bod wedi cysylltu ag Unigolyn B a threfnu i gyflwyno'r anrhegion Nadolig a'r bwyd i Unigolyn B ar ddiwedd ei diwrnod gwaith olaf cyn y Nadolig. Ar ei gais ef, aeth â'i chŵn i'r ymweliad hefyd ac aeth am dro gydag Unigolyn B a Phlentyn A, tra roedd tad Unigolyn B yn tynnu'r anrhegion a'r bwyd o'i char er mwyn osgoi i blentyn A wybod am yr anrhegion a'r bwyd ymlaen llaw.

11. Fe wnaeth Ms Clayfield gydnabod yn ystod ei chyfweliad disgyblu bod Unigolyn B wedi cysylltu â hi dros gyfnod y Nadolig ar ei Messenger preifat gan ddweud ei fod yn cael trafferth gofalu am Blentyn A. Dywedodd Ms Clayfield nad oedd hi'n glir sut digwyddodd y cyswllt hwn neu a oedd hi wedi rhoi ei manylion cyswllt i Unigolyn B. Dywedodd Ms Clayfield ei bod yn teimlo'n flin dros Unigolyn B gan ei bod yn teimlo ei fod yn awyddus i wneud yr hyn oedd orau i'w ferch a'i fod ar goll braidd a'i fod angen rhywun i siarad ag ef. Yn y cyfweliad, dywedodd Ms Clayfield ei bod bellach yn cydnabod ei bod yn agored i niwed bryd hynny. Dywedodd Ms Clayfield mai dyma pryd y rhoddodd ei rhif symudol personol i Unigolyn B.

12. Dywedodd Ms Clayfield yn y cyfweliad fod yr hyn a ddechreuodd fel cyfeillgarwch wedi datblygu dros gyfnod y Nadolig. Cydnabu nad oedd bellach yn berthynas broffesiynol.

13. Dywedodd Ms Clayfield fod Unigolyn B, ym mis Ionawr 2018, wedi gofyn iddi fynd am dro arall gyda'i chŵn ac i egluro i Unigolyn B y trafodion cyfraith preifat yr oedd yn rhan ohonynt gyda mam Plentyn A. Cytunodd Ms Clayfield i'r cais hwn. Mae Ms Clayfield bellach yn cydnabod, gan nad oedd yr achos yn agored iddi hi bryd hynny, y dylai fod wedi cynghori Unigolyn B i wneud atgyfeiriad i'r Gwasanaethau Plant am gymorth/cyngor yn hytrach na'i bod wedi'i ddarparu ei hun.

14. Dychwelodd Plentyn A i fyw gyda'i mam, ac yn dilyn hynny dywedodd Ms Clayfield fod y berthynas rhyngddi hi ac Unigolyn B wedi esblygu ymhellach. Ar ôl hynny, dywedodd Ms Clayfield fod Unigolyn B wedi mynd yn ymosodol gyda hi ac yn bygwth ei fywyd ei hun, ei bywyd hi, diogelwch ei theulu a'i ffrindiau a'i swydd. Arweiniodd hyn at ddigwyddiad ar 16 Mai 2018. Pan ymwelodd Ms Clayfield ag Unigolyn B yn ei gartref y diwrnod hwnnw, roedd yn gorfforol dreisgar tuag ati ac yn gwneud bygythiadau i'w lladd. Er gwaethaf hyn, ni wnaeth Ms Clayfield roi gwybod i'r heddlu am y mater yn syth.

15. Ar 17 Mai 2018, ffoniodd Unigolyn B y Gwasanaethau Plant a dywedodd ei fod wedi bod mewn perthynas â Ms Clayfield a'i fod yn honni ei bod wedi difrodi ei eiddo. Fe wnaeth Unigolyn B fygythiadau i'w niweidio hefyd. Ar ôl i'r Gwasanaethau Plant gysylltu â hi yr un diwrnod, cysylltodd Ms Clayfield â'r heddlu i adrodd y digwyddiad a oedd wedi digwydd y diwrnod blaenorol. Cyfaddefodd Ms Clayfield bryd hynny ei bod wedi bod mewn perthynas ag Unigolyn B.

16. Yn ei datganiad i'r heddlu ar 17 Mai 2018, cyfeiriodd Ms Clayfield at Unigolyn B fel ei 'chyn bartner' a dywedodd ei bod hi ac Unigolyn B 'wedi bod mewn perthynas tua diwedd 2017'. Mewn datganiad pellach i'r heddlu dyddiedig 18 Mai 2018, dywedodd Ms Clayfield ei bod wedi 'cychwyn perthynas ag [Unigolyn B] tua 6 mis yn ôl'.

17. Mae Ms Clayfield yn cyfaddef iddi dorri Adran 5 y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a oedd yn ei gwneud yn ofynnol iddi 'weithredu'n ddidwyll a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol'. Yn benodol, roedd yn ofynnol i Ms Clayfield beidio â 'meithrin perthnasoedd personol amhriodol gydag unigolion, eu teuluoedd neu ofalwyr'.

2. Rhwng 5 Medi 2017 a 16 Mai 2018, ni wnaethoch ddatgelu i'r cyngor fodolaeth a natur eich cyfeillgarwch a/neu eich perthynas bersonol, gydag Unigolyn B.

18. Ni chyfaddefodd Ms Clayfield ei bod wedi bod mewn perthynas ag Unigolyn B tan 17 Mai 2018.

19. Ar 23 Ionawr 2018, mewn sesiwn gaeedig o Gynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol, rhannodd yr heddlu wybodaeth bod mam Plentyn A yn amharod i roi gwybod am unrhyw gamdriniaeth a gyflawnwyd gan Unigolyn B oherwydd y cysylltiadau yr oedd Unigolyn B yn eu cael gyda gweithwyr proffesiynol. Mewn neges e-bost, amlinellwyd pryderon mam Plentyn A fod Ms Clayfield mewn perthynas rywiol ag Unigolyn B. Ar 30 Ionawr 2018, dan oruchwyliaeth, gofynnwyd i Ms Clayfield a oedd hi mewn perthynas ag Unigolyn B, ond gwadodd Ms Clayfield ei bod hi.

20. Mae'r unigolyn cofrestredig yn cyfaddef y ffeithiau a honnir yn honiadau 1 i 2 uchod ac mae'n derbyn cynnwys paragraffau 1 i 19 uchod hefyd.

Diddymu o’r Gofrestr (yn unol â phroses Diddymu trwy Gytundeb)