Jump to content
Cynhadledd cenedlaethol y blynyddoedd cynnar a gofal plant 2025

Diolch am ymuno â ni yn ein cynhadledd heddiw!

Yma cewch weld rhaglen heddiw, mwy am ein hwythnos ddysgu fis Tachwedd, adnoddau a gwybodaeth, a ffurflen werthuso’r gynhadledd.

Mwynhewch eich diwrnod o ddysgu, cysylltu, a chael eich ysbrydoli!

Y rhaglen

9am: Cofrestru a’r arddangosfa

9.30am: Croeso a gwybodaeth ymarferol - Gemma Halliday, Gofal Cymdeithasol Cymru

9.45am: Araith agoriadol - Sarah McCarty, Gofal Cymdeithasol Cymru

10am: Neges gan Dawn Bowden, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

10.15am: Y Cynnig Rhagweithiol – disgwyliadau a gweithredu - Arolygiaeth Gofal Cymru

10.35am: Cefnogi dwyieithrwydd a gwreiddio’r Gymraeg a diwylliant Cymru – awgrymiadau a sut mae hyn wedi’i wreiddio mewn lleoliad eithriadol - Meithrinfa ddydd Corwen

10.55am: Myfyrio/trafodaeth bwrdd

11.10am: Egwyl

11.30am: Cefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol - Sioned Thomas, Niwrowahaniaeth Cymru

11.50am: Sut mae cefnogi amrywiaeth o anghenion yn edrych mewn ymarfer – rhannu enghreifftiau o’r gwahaniaeth mae’r dull hwn yn ei wneud i brofiadau plentyn - Amanda Calloway, Gwarchodwr plant

12.10pm: Myfyrio/trafodaeth bwrdd

12.30pm: Cinio

1.30pm: Cefnogi arfer gwrth-hiliol ar draws y blynyddoedd cynnar - Yr Athro Charlotte Williams OBE

2pm: Hawliau plant a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant - Chloe Gallagher, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

2.20pm: Myfyrio/trafodaeth bwrdd

2.35pm: Arwain a rheoli - Bex Steen, Gofal Cymdeithasol Cymru

3pm: Arweinyddiaeth effeithiol mewn ymarfer, gan gynnwys y gwahaniaeth mae’r dull hwn yn ei wneud o ran cadw staff a’u llesiant - Sam Maitland-Price, Meithrinfa dydd Little Lambs

3.20pm: Myfyrio/trafodaeth bwrdd

3.45pm: Sylwadau clo - Gemma Halliday, Gofal Cymdeithasol Cymru

Archebwch eich lle ar ein hwythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant

Rhwng 10 a 14 Tachwedd byddwn ni'n cynnal digwyddiadau ar-lein a'n rhannu arfer da i ddathlu ein hwythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant cyntaf erioed.

Gwybodaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant

O adnoddau i fframweithiau, cymerwch olwg ar ein tudalennau gwybodaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Hoffen ni glywed eich barn

Cymerwch eiliad i lenwi ein ffurflen werthuso a gadewch i ni wybod beth yw eich barn am y gynhadledd heddiw.