Mae ysgolion preswyl arbennig yn darparu addysg a llety i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), Awtistiaeth a chyflyrau sy’n cyd-ddigwydd, ac anableddau dysgu a chorfforol. Yn fras, mae ysgolion preswyl arbennig yn darparu cwricwlwm 24 awr i gefnogi a hyrwyddo byw'n annibynnol trwy ddatblygu sgiliau cymdeithasol, annibynnol, hunangymorth a bywyd priodol. Mae plant yn aros yn yr ysgol rhwng un a phedair noson ysgol yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig.