Mae Therapydd galwedigaethol yn helpu unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau neu alwedigaethau sy’n hybu, cynnal neu adfer eu llesiant a’u hiechyd, drwy gynnal asesiadau o'u hanghenion a chynnig pecynnau gofal a chymorth.
Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Mae nifer helaeth o weithwyr iechyd proffesiynol perthynol yn gweithio mewn partneriaeth â’r gwasanaethau gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau i bobl yn y gymuned. Caiff rhai eu cyflogi ym maes gofal cymdeithasol ac mae angen iddynt gofrestru i ymarfer, ond nid oes yn rhaid iddynt gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae angen i therapyddion galwedigaethol a rhai gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol eraill sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Mae'r cymwysterau sydd eu hangen ar y gweithwyr hyn i'w gweld ar gwefan Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).