Mae'r rolau hyn yn cefnogi'r gwaith o gydlynu'r ddarpariaeth o wasanaethau dydd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gynnwys rheoli adeiladau a staff pan fo hynny'n briodol. Mae'r dirprwy yn cynorthwyo rheolwr y gwasanaeth â nifer o swyddogaethau rheoli allweddol, a bydd yn dirprwyo ar ei ran pan fo angen.
Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Cymwysterau sy'n cael eu hargymell ar gyfer ymarfer:
-
City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
a
-
City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer
Neu'r cymhwyster canlynol
-
City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
ac
-
City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
neu
-
City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol