Unigolyn sy’n darparu gofal i un neu fwy o blant yn y cartref teuluol fel gwasanaeth yw nani.
Ar gyfer nanis sy’n ceisio cofrestru ar y cynllun cymeradwyo gwirfoddol
- Mae’r cymwysterau sydd wedi’i rhestru yn y fframwaith isod yn berthnasol yn unig i nanis newydd sy’n bwriadu cofrestru ar y cynllun cymeradwyo gwirfoddol ar ôl 1 Hydref 2023.
Ar gyfer nanis presennol sydd wedi cofrestru eisoes ar y cynllun cymeradwyo gwirfoddol
- Bydd cymwysterau gwreiddiol nanis sydd wedi’u cofrestru yn barod, neu sy’n edrych i adnewyddu ar y cynllun cymeradwyo gwirfoddol, yn parhau i fod yn ddilys. Bydd cymwysterau blaenorol ond yn cael eu derbyn ar gyfer adnewyddu parhaus flwyddyn ar ôl blwyddyn heb unrhyw doriad.