Gall cynorthwyydd gwarchod plant fod yn weithiwr neu'n wirfoddolwr mewn rôl â thâl neu rôl ddi-dâl sy'n gweithio gyda phlant o dan warchodwr plant cofrestredig.
Mae gwarchodwyr plant cofrestredig yn weithwyr gofal plant proffesiynol sy’n darparu gofal ac addysg i blant hyd at 12 oed o fewn eiddo domestig nad yw’n gartref i’r plentyn ei hun am fwy na dwy awr y dydd am dâl.
Os oes gennych chi ymholiad am gymwysterau gofal plant a’r blynyddoedd cynnar, anfonwch e-bost atom yn Cymwysterauasafonau@gofalcymdeithasol.cymru gan nodi teitl y cymhwyster, lle y cafwyd y cymhwyster, rôl y swydd a’r math o leoliad y mae’r rôl ar ei gyfer.