Jump to content
Nodyn preifatrwydd ymgynghoriadau

Eich hawliau

O dan y deddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi ac i gael mynediad ato
  • i’w gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i (mewn rhai amgylchiadau) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
  • i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau)
  • i (mewn rhai amgylchiadau) gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod.

Swyddog Diogelu Data: 

Gofal Cymdeithasol Cymru
Tŷ South Gate
Wood Street  
Caerdydd
CF10 1EW 
Ebost: foi@socialcare.wales

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth 

Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Cheshire SK9 5AF 
Ffôn: 0303 123 1113 
Gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth.   

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y Deyrnas Unedig (GDPR)

Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn rheolwr data ar gyfer yr ymgynghoriad ac ar gyfer unrhyw ddata personol a roddwch fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad.

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein rhwymedigaeth gyfreithiol; Hynny yw cydymffurfio â'n rhwymedigaeth statudol i ymgynghori cyn gwneud y rheolau neu gyhoeddi'r cod neu'r canllawiau. (Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Rhan 3, Adran 75) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld gan staff Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n delio â'r ymgynghoriad hwn. Pan fydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i'r ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig gomisiynu'r gwaith hwn i'w wneud (megis sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Bydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud o dan gontract yn unig. Mae telerau ac amodau safonol Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a diogelu data personol.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn iawn, mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Efallai y byddwn hefyd yn cyhoeddi ymatebion yn llawn. Fel arfer, ni fyddwn yn cyhoeddi eich manylion personol pan fyddwn yn cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion, ond os byddwch yn rhoi gwybod i ni eich bod yn ymateb ar ran sefydliad, efallai y byddwn yn datgelu teitl eich swydd ac enw'r sefydliad fel rhan o'r crynodeb. Os nad ydych am i'ch teitl swydd neu fanylion eich sefydliad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig pan fyddwch yn anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Os byddwch yn ymateb i'r ymgynghoriad gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein, efallai y byddwn yn casglu eich cyfeiriad IP i sicrhau bod pob person yn cwblhau'r arolwg unwaith yn unig. Ni fyddwn yn defnyddio'r data hwn at unrhyw ddiben arall. Os byddwch yn ymateb i ni drwy e-bost, byddwn yn cadw eich cyfeiriad e-bost hyd nes y bydd yr ymgynghoriad wedi cau, a hyd nes y byddwn yn fodlon mai dim ond unwaith y mae pob person wedi cwblhau'r arolwg. Ni fyddwn yn defnyddio'r cyfeiriad e-bost at unrhyw bwrpas arall.

Hoffem sicrhau ein bod yn cyrraedd ac yn clywed gan gynifer o unigolion â phosibl o bob rhan o'r cymunedau yng Nghymru. Fel rhan o ymateb i'r ymgynghoriad byddem yn eich annog i gwblhau'r wybodaeth cydraddoldeb. Ond dyma'ch dewis chi i wneud hynny. Os byddwch yn cwblhau'r rhan hon o'r ffurflen ymateb, bydd yn golygu gofyn i chi lenwi holiadur cydraddoldeb ac amrywiaeth a fydd yn casglu data categori arbennig.

Nid oes rhaid i chi lenwi'r holiadur ychwanegol hwn, ond os byddwch yn llenwi'r ffurflen bydd yn ein helpu i fonitro cyfraddau ymateb cynrychiadol i'r ymgynghoriad. Os byddwch yn llenwi'r ffurflen ar-lein, bydd eich atebion yn ddienw. Os byddwch yn penderfynu anfon eich ymateb atom ar e-bost, bydd staff Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n gweithio ar yr ymgynghoriad yn gallu gweld eich atebion. Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, byddwn yn dileu eich cyfeiriad e-bost ac yna bydd eich atebion yn ddienw. Mae gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ragor o wybodaeth am ddata categori arbennig yma.

Os caiff manylion eich sefydliadau eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ran o'ch data a gedwir fel arall gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn cael ei gadw am ddim mwy na phum mlynedd. 

Cyhoeddwyd gyntaf: 24 Medi 2024
Diweddariad olaf: 25 Medi 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (39.8 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch