Sut byddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid yn 2025 i 2026 i gyflawni uchelgeisiau Ymlaen - y strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol.
Mae pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn mynd gam ymhellach i ddarparu gwasanaethau sy'n gwella canlyniadau i bobl Cymru.
Rydyn ni eisiau creu diwylliant lle mae tystiolaeth a pholisi yn ganolog i'r broses gyflawni ac yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ar bob lefel o ofal cymdeithasol. I greu diwylliant lle mae pobl yn teimlo ysbrydoliaeth a chefnogaeth i roi cynnig ar bethau newydd.
Ymlaen yw’r strategaeth rydyn ni wedi’i datblygu gyda’n gilydd i gyflawni’r nodau hynny.
Ein gweledigaeth
I helpu pobl sy’n arwain, yn datblygu ac yn darparu gofal cymdeithasol i deimlo’n hyderus, a’u bod yn cael eu cefnogi a’u hysbrydoli i ddefnyddio ymarfer, tystiolaeth ac arloesedd i wneud gwahaniaeth positif i ofal a chymorth yng Nghymru.
I wireddu gweledigaeth strategaeth Ymlaen, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn:
Pennu cyfeiriad
Nodi blaenoriaethau cyffredin ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella fel y gallwn gyfeirio sylw, adnoddau a chamau gweithredu i'r mannau lle mae eu hangen fwyaf.
Pam?
Mae’n bwysig ein bod ni’n canolbwyntio ar sicrhau bod ein pwyslais yn bositif, yn ddefnyddiol, yn gynhyrchiol ac yn cael ei lywio gan yr hyn sydd bwysicaf i bobl. Mae angen i ni fabwysiadu dull croestoriadol, lle rydyn ni’n ystyried sut y gall gwahanol fathau o wahaniaethu rhyngweithio a llunio profiadau unigryw pobl.
Beth fydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei wneud yn 2025 i 2026:
Rydyn ni am gynnig arweinyddiaeth wrth gefnogi'r defnydd o dystiolaeth wrth wella’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol.
Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i osod blaenoriaethau cyffredin ar gyfer gwaith ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol. Byddwn ni’n gwneud hyn trwy:
- weithio gydag IMPACT i adnabod tystiolaeth o arloesi a gwella i hysbysu a chefnogi ymarferion gosod blaenoriaethau’r dyfodol
- weithio gydag ExChange a'i rwydwaith i ystyried sut rydyn ni’n defnyddio'r blaenoriaethau a nodwyd i lywio ein gwaith
- gydweithio â'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth i gydlynu blaenoriaethau ymchwil gyda ymchwil neu offer casglu data presennol, a gwneud y mwyaf o'r gwersi sy’n cael eu dysgu. Byddai'r gwaith hwn, er enghraifft, yn helpu i ystyried cwestiynau ychwanegol ar gyfer Dweud Eich Dweud, yr arolwg blynyddol o’r gweithlu.
Byddwn ni’n cefnogi arloesedd mewn gofal cymdeithasol trwy:
- nodi cyfleoedd ledled Cymru a'r DU i rannu a dysgu o fentrau arloesi i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu a rhannu tystiolaeth ac adnoddau
- ddysgu o ymchwil ac arfer da i lywio ein dull gweithredu trwy dystiolaeth, fforymau a chymunedau ymarfer.
Byddwn ni’n cynnal Porth Data Gofal Cymdeithasol Cymru effeithiol i wneud gwell defnydd o ddata a thystiolaeth i wella gwasanaethau a chanlyniadau i bobl sy'n cael mynediad at ofal.
Byddwn ni’n cynnig arweinyddiaeth ar gyfer rhaglen waith thema gofal cymdeithasol Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru. Byddwn ni’n gwneud hyn trwy:
- gynnal grŵp ymchwil data gofal cymdeithasol i oedolion
- redeg cynllun lleoliad PhD
- weithio gydag YDG Cymru i annog mewnbwn rhannu data o ansawdd i Fanc Data SAIL.
Byddwn ni’n dylunio, datblygu a chefnogi gweithrediad offer, dulliau ac adnoddau diogelu newydd i gefnogi'r sector gofal cymdeithasol trwy:
- greu pecyn adnoddau cenedlaethol Grŵp C trylwyr a hygyrch i wella arferion diogelu ar draws partneriaethau amlasiantaethol
- gynnal digwyddiadau Hyfforddi'r Hyfforddwr
- ddod â grŵp adolygu ei ei gilydd i gefnogi safonau a fframwaith diogelu.
Byddwn ni’n datblygu hyder mewn ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau mewn gofal cymdeithasol trwy:
- gefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu a sefydlu ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau
- gynnal rhwydwaith mentoriaid cenedlaethol i adlewyrchu a rhannu arferion da
- helpu i ddatblygu sgiliau ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn ein sefydliad ac ar draws ein gwaith
- gynnig hyfforddiant ar-lein i'r gweithlu gofal cymdeithasol ar sgyrsiau sy'n seiliedig ar gryfderau ac ymarfer myfyriol.
Byddwn ni’n cynnig arweinyddiaeth, arbenigedd a mewnbwn i lunwyr polisi ar gyfer gwaith gwella ac arloesi parhaus trwy:
- gefnogi datblygiad polisi o amgylch blaenoriaethau allweddol, fel Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025
- arwain y rhaglen waith y cytunwyd arni i gefnogi arloesedd ar gyfer gofal cymdeithasol ar ran Llywodraeth Cymru, fel y nodir yn Cymru’n arloesi: creu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.
Byddwn ni’n cynnal ymchwil ac yn casglu a dadansoddi data am y gweithlu, trwy:
- ein hymarfer casglu data blynyddol gydag awdurdodau lleol a chyflogwyr gofal cymdeithasol
- ddatblygu, cyflwyno a gweithredu ein harolwg blynyddol o’r gweithlu, ‘Dweud Eich Dweud’.
Cysylltu
'Uno'r dotiau' rhwng y gwahanol fathau o gymorth ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella ym maes gofal cymdeithasol.
Pam?
I’r rhai sy’n cyd-gynllunio, darparu ac arwain gwasanaethau, mae angen i ni greu system gymorth sy'n meithrin diwylliant cadarnhaol o gydweithio. Mae angen iddi ysgogi camau gweithredu a bod yn hyblyg i ddiwallu anghenion gwahanol.
Beth fydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei wneud yn 2025 i 2026:
Byddwn ni’n parhau i rannu a hyrwyddo canfyddiadau o waith partneriaid gyda'n rhwydweithiau drwy wefan y Grŵp Gwybodaeth.
Byddwn ni’n parhau i ddod â'n cymuned ymarfer at ei gilydd ar gyfer Unigolion Cyfrifol.
Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i gefnogi arloesedd mewn gofal cymdeithasol, trwy:
- weithio gyda phartneriaid Ymlaen ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, yng Nghymru a thu hwnt, i ddatblygu a hyrwyddo cynigion cymorth ar gyfer arloesi mewn gofal cymdeithasol
- helpu partneriaid i ddeall gofal cymdeithasol trwy hyrwyddo, sgyrsiau ac adborth
- chwilio am gyfleoedd i gysylltu pobl â chyfoedion a chefnogaeth.
Byddwn ni’n gweithio gyda Contractau ar gyfer Arloesi Cymru (y Fenter Ymchwil Busnesau Bach gynt) i:
- nodi cyfleoedd i gydlynu ein gwaith a chydweithio ar gefnogi arloesedd mewn gofal cymdeithasol a phrosiectau 'her'
- gyfeirio ein rhwydweithiau priodol at ein gwasanaethau a’n cynigion ein gilydd lle y bo’n berthnasol.
Byddwn ni’n ariannu, cefnogi a hyrwyddo'r rhaglen Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) i:
- ddylunio, datblygu, cyflwyno a chefnogi gweithrediad offer, dulliau ac adnoddau DEEP
- gyflwyno hyfforddiant a digwyddiadau DEEP.
Byddwn ni’n hwyluso rhwydweithiau, gweithdai a digwyddiadau i gefnogi arweinwyr i gryfhau lles y gweithlu.
Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i archwilio ffyrdd o gefnogi rolau arweinwyr tystiolaeth mewn awdurdodau lleol trwy:
- sicrhau adnoddau i gefnogi rolau arweinwyr tystiolaeth
- adeiladu rhwydwaith i bobl sydd â diddordeb mewn hwyluso’r defnydd o wybodaeth ac ymchwil mewn gofal cymdeithasol
- datblygu sgiliau mynediad, ymchwil dadansoddi a sgiliau tystiolaeth
- dysgu o wersi o'n gwaith ymarfer a dylunio gwasanaethau.
Byddwn ni’n dod â phartneriaid Ymlaen at ei gilydd i gydlynu a dysgu o'n gwaith ar ymchwil, arloesi a gwella drwy:
- gefnogi cyd-hyfforddiant y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) ledled Cymru.
- helpu pobl mewn gofal cymdeithasol i wneud cais ar gyfer Rhaglen Enghreifftiol Bevan
- gefnogi'r Byrddau Diogelu Rhanbarthol i weithredu'r pecyn hyfforddiant diogelu Grŵp B
- weithio gydag ExChange i flaengynllunio a nodi cyfleoedd i gydlynu ein gwaith a chyfeirio ein rhwydweithiau at wasanaethau ein gilydd
- weithio gydag IMPACT i gefnogi dysgu, trwy rannu adnoddau a chyfeirio ein rhwydweithiau at wasanaethau a chynigion ein gilydd lle y bo’n berthnasol.
Byddwn ni’n gweithio gyda'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth i:
- hyrwyddo gwasanaethau ar ymchwil, arloesi a gwella drwy gyfathrebu wedi'u targedu i annog awdurdodau lleol i fanteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael
- ddod â phartneriaid ymchwil ac arloesi at ei gilydd mewn cyfarfodydd rheolaidd i gau’r bylchau rhwng gwaith partneriaid ac osgoi dyblygu.
Byddwn ni’n gweithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i sefydlu grŵp tasg a gorffen i nodi beth mae awdurdodau lleol ei angen i gefnogi ymchwil. Bydd y grŵp yma’n cynnwys pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Byddwn hefyd yn dysgu gan awdurdodau lleol sy’n barod yn weithgar mewn ymchwil, ynghyd a’r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd yn Nhorfaen a Rhondda Cynon Taf. Bydd y grŵp yn cyfrannu at gynllun gwaith a fydd yn:
- nodi ymchwil sy'n cael ei wneud ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru
- adolygu'r cymorth presennol ar gyfer ymchwil mewn awdurdodau lleol a nodi anghenion cymorth a/neu adnoddau parhaus
- nodi gweithgareddau i hyrwyddo diwylliant ymchwil ar draws awdurdodau lleol a thrafod cynlluniau ar gyfer eu gweithredu.
Byddwn ni’n gweithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i nodi heriau a chyfleoedd cyfathrebu a rennir, a'r gwahanol gynulleidfaoedd rydyn ni’n ceisio eu cyrraedd trwy ein gwaith. Trwy'r gwaith hwn byddwn ni’n cydweithio i ddatblygu cynllun cyfathrebu i fynd i'r afael â'r heriau hyn.
Galluogi
Creu amodau sy'n galluogi newid positif a pharhaol ym maes gofal cymdeithasol.
Pam?
Mae angen i ni ei gwneud hi'n bosibl i bobl ddysgu a thyfu, ac i ymateb i'r heriau ym maes gofal cymdeithasol. Mae potensial gan bethau fel dulliau rheoleiddio a chyllido i godi rhwystrau os nad ydyn nhw wedi'u cynllunio i gefnogi'r weledigaeth a'r uchelgeisiau ar gyfer gofal cymdeithasol.
Beth fydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei wneud yn 2025 i 2026:
Byddwn ni’n parhau i ddatblygu a gwella ein fframwaith a'n hadnoddau i gefnogi lles y gweithlu. Byddwn ni’n helpu pobl i droi'r gwerthoedd hyn yn ymarfer trwy sesiynau dysgu a gwybodaeth pwrpasol.
Byddwn ni’n dod a’n Cymuned Dystiolaeth at ei gilydd ar gyfer ymchwilwyr ac ymarferwyr gofal cymdeithasol.
Byddwn ni’n helpu i feithrin sgiliau gan ddefnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal therapiwtig i blant a phobl ifanc.
Byddwn ni’n cyhoeddi canllaw ac yn datblygu cynllun ymgysylltu i helpu pobl i greu a meithrin diwylliannau cadarnhaol, gan gefnogi ei weithrediad a’r gwersi a ddysgwyd. Drwy weithio gyda phartneriaid, byddwn ni’n cynyddu dealltwriaeth o ddiwylliannau cadarnhaol a sut maen nhw'n cyfrannu at ofal cymdeithasol.
Byddwn ni’n datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i gefnogi ymchwil gofal cymdeithasol trwy:
- weithredu ein cynnig cymorth i ymchwilwyr
- barhau i ddatblygu ein hadnodd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella.
- greu a chynnal digwyddiadau sioeau teithiol ymchwil ar gyfer bwrdd diogelu pob rhanbarth. Bydd y digwyddiadau hyn yn cysylltu ymchwil a phrofiad bywyd â sgyrsiau cyfredol ar welliannau i’r sector.
Byddwn ni’n gweithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i wella'r ffyrdd mae llwybrau i effaith yn cael eu hymgorffori mewn ceisiadau ymchwil a gweithgareddau symudedd gwybodaeth. Gyda'n gilydd, byddwn ni’n annog ac yn hyrwyddo prosiectau ymchwil sydd wedi ei ariannu gan ddulliau ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’n cynnig cymorth i ymchwilwyr.
Byddwn ni’n creu ac yn cyhoeddi crynodebau tystiolaeth o ansawdd uchel ar bynciau blaenoriaeth mewn gofal cymdeithasol.
Byddwn ni’n cydweithio ag IMPACT ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol i annog cydweithio, yn hytrach na dyblygu, ar feysydd gwaith fel ein crynodebau tystiolaeth a'r adolygiadau tystiolaeth.
Trwy ein gwasanaeth cymorth a datblygu cymunedau ymarfer, byddwn ni’n:
- cefnogi pobl mewn gofal cymdeithasol i ystyried a all dull gweithredu cymunedau ymarfer eu helpu i gyflawni eu nodau.
- gweithio gydag IMPACT i helpu i ddatblygu a chynnal eu rhwydweithiau.
Cefnogi
Darparu cymorth uniongyrchol i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i annog ymchwil, arloesi a gwella.
Pam?
Mae angen i ni gefnogi ymchwil, arloesi a gwella mewn ffyrdd sy'n ymateb i uchelgeisiau a chymhlethdodau gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar ein dyheadau polisi cenedlaethol i greu gwlad decach a mwy cyfartal.
Beth fydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei wneud yn 2025 i 2026:
Byddwn ni’n gwella gwybodaeth a sgiliau ar gyfer arweinyddiaeth dosturiol. Byddwn ni’n gwneud hyn trwy:
- gynnig cymorth pwrpasol i sefydliadau, gan gynnwys datblygu adnoddau ychwanegol
- cysylltu ymarfer a chefnogaeth trwy rwydwaith arwain tosturiol.
Byddwn ni’n parhau i gynnig cymorth amlddisgyblaethol i awdurdodau lleol i annog arloesi a gwella. Mae hyn yn cynnwys:
- pecynnau cymorth i ddau awdurdod lleol a fydd yn cynhyrchu mewnwelediadau cynnar i helpu lywio cam ymgynghorol y gwaith hwn
- profi rhagdybiaethau a chasglu gwersi o set o gynigion gwasanaeth
- dechrau cyfnod prawf gyda dau awdurdod lleol newydd gyda’n model wedi’i fireinio.
Byddwn ni’n cynnig cymorth arloesi i bobl sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol ac yn cynnal sesiynau anogaeth fel ffordd o gysylltu â phobl a chefnogi pobl i fynd i'r afael â heriau gofal cymdeithasol.
Byddwn ni’n cynnig cefnogaeth gwerthuso ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol trwy:
- gyflwyno cyfres o sesiynau hyfforddiant gwerthuso treigl
- gynnig cyngor a chefnogaeth bwrpasol trwy sesiynau galw heibio a chymorth gwerthuso dwys, byr
- ddatblygu canllaw i awdurdodau lleol gefnogi a chofnodi fframweithiau adrodd i annog cydweithio.
Byddwn ni’n hyrwyddo ac yn annog ein defnydd o wybodaeth wrth ymarfer. Mae’r gwasanaeth yma’n helpu i gynnig mynediad a chefnogaeth wrth ddefnyddio tystiolaeth a gwybodaeth o ansawdd uchel i wella canlyniadau.
Byddwn ni’n gweithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i:
- gyd-greu pecyn sy’n cefnogi hyfforddiant ar gyfer ymchwilwyr gofal cymdeithasol yn ymarferol ac yn y byd academaidd. Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar ein 'Hyfforddiant dealltwriaeth ymchwil', a'r 'Hyfforddiant ymchwil arfer da' gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
- nodi hyfforddiant sy'n gysylltiedig ag ymchwil gofal cymdeithasol a gynigir gan ddarparwyr hyfforddiant presennol. Gyda’n gilydd, fe wnawn ni gyfeirio pobl mewn gofal cymdeithasol i’r hyfforddiant perthnasol
- archwilio gwahanol ddulliau o hyrwyddo llwybrau gyrfa ymchwil ar gyfer gofal cymdeithasol, gan gynnwys drwy astudiaethau achos a chynrychiolaeth weledol. Byddwn ni’n rhannu dulliau posibl i weithwyr gofal cymdeithasol er mwyn hyrwyddo cyfleoedd gyrfa ymchwil
- archwilio os yw’n bosib integreiddio hyfforddiant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ganllawiau CPD/L a'i weithredu os yn briodol
- godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo'r defnydd o ymchwil mewn gofal cymdeithasol. Byddwn ni’n cyd-ddatblygu fideo esboniadol a chanllawiau un tudalen ar 'Beth yw ymchwil gofal cymdeithasol a pham mae'n bwysig?' ar gyfer ymarferwyr. Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar ddiffiniad Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru o ymchwil gofal cymdeithasol, a’n fideo Beth yw gofal cymdeithasol?
- fapio beth rydyn ni a’n sefydliadau partner yn ei wneud i gefnogi ymchwil. Byddwn yn dechrau gyda sgiliau ymchwil ac yn symud ymlaen i fapio meysydd eraill sy’n cefnogi’r gwaith fel; isadeiledd, symudedd gwybodaeth a chyfathrebu. Byddwn ni’n nodi'r hyn rydyn ni'n ei gynnig, i bwy, a sut mae'n cael ei ddarparu, cyn datblygu cynrychiolaeth weledol i ddangos beth sydd ar gael i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Amharu
Ysbrydoli ffyrdd newydd o weithio.
Pam?
Mae angen i ni fod yn fwy beiddgar a dewr wrth fynd i'r afael â'r heriau a'r anghydraddoldebau sy'n wynebu gofal cymdeithasol. Dyma'r unig ffordd byddwn ni’n creu modelau gofal a chymorth arloesol a chynaliadwy.
Mae angen i ni herio'r ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud nawr, a fydd yn cyflawni mwy o'r un peth, wrth werthfawrogi gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud i wella canlyniadau. Bydd hyn yn ein helpu i ymateb i'r hyn sy'n bwysig, nawr ac yn y dyfodol.
Beth fydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei wneud yn 2025 i 2026:
Byddwn ni’n dylunio, datblygu a chefnogi gweithrediad offer, dulliau ac adnoddau llythrennedd digidol ac arloesi newydd. Byddwn ni’n gwneud hyn trwy:
- gyhoeddi adroddiad ar aeddfedrwydd digidol a llythrennedd gofal cymdeithasol yng Nghymru
- ddatblygu cynllun i gefnogi hyder ac arloesedd digidol
- greu offer ac adnoddau
- gynnal a datblygu ein dyfais botensial ddigidol
- gyfrannu at, dylanwadu ar, a chefnogi'r defnydd o AI ac arloesedd digidol arall mewn polisi a grwpiau gwaith, rhwydweithiau a chymunedau ymarfer yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU.
Byddwn ni’n parhau i ddod â'n Cymuned gofal sy’n seiliadig ar le at ei gilydd i archwilio, datblygu a rhannu cyfleoedd.
Byddwn ni’n dylunio prosiect peilot i brofi ffyrdd newydd o sefydlu diwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol.
Byddwn ni’n parhau i ddod â'r gymuned weithredu at ei gilydd a chefnogi gwaith dylunio a datblygu gwasanaethau i ganiatáu dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi datblygiad gofal preswyl plant.
Byddwn ni’n cefnogi rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewid gofal cymdeithasol plant drwy:
- ddatblygu cynllun y gweithlu ar gyfer gofal preswyl i blant
- ddatblygu dangosfwrdd data’r gweithlu i'w rannu â phartneriaid allweddol
- ddod â rhwydweithiau, cymunedau ymarfer a rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd, a chynnig cefnogaeth iddynt.
Byddwn ni’n dylunio, datblygu, cyflwyno a chefnogi gweithrediad offer, dulliau ac adnoddau arloesi newydd trwy:
- adeiladu galluoedd arloesi yn y gweithlu gofal cymdeithasol
- ddarparu hyfforddiant anogaeth arloesedd i grwpiau i helpu i ledaenu'r offer a'r dulliau a ddefnyddir fel rhan o'r hyfforddi
- nodi a datblygu cenhadon ar gyfer anogaeth arloesedd.
Byddwn ni’n cyhoeddi enghreifftiau o ymarfer arloesol a mentrau ymchwil ar ein porwr prosiectau i helpu i ledaenu syniadau ac ymarfer.
Byddwn ni’n parhau i gefnogi'r gwaith o gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol drwy:
- ddatblygu a chyflwyno rhaglen ar gyfer pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol i gefnogi dilyniant i rolau arwain, trwy gysgodi, hyfforddiant a datblygu sgiliau
- arwain ar gasglu data a chyhoeddi'r adroddiad gofal cymdeithasol ar gyfer Safon Cydraddoldeb Hiliol y Gweithlu (WRES) iechyd a gofal cymdeithasol.
Byddwn ni’n eirioli dros ofal cymdeithasol mewn polisi cenedlaethol a grwpiau gwaith i sicrhau bod eu gwaith yn adlewyrchu nodau ac anghenion gofal cymdeithasol.

Darllen y strategaeth
Ymlaen: Y strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol 2024 i 2029