1
00:00:07 --> 00:00:11
Yn wreiddiol roeddwn i'n gweithio
yn y tîm 'plant ag anableddau'
2
00:00:11 --> 00:00:15
a dwi hefyd wedi gweithio yn
y tîm gofalu
3
00:00:15 --> 00:00:20
a dwi bellach yn rhan o'r
tîm 'asesiadau a chymorth'.
4
00:00:20 --> 00:00:26
Dwi'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc
a theuluoedd sydd yn aml mewn argyfwng
5
00:00:26 --> 00:00:28
neu sydd o dan straen.
6
00:00:28 --> 00:00:31
Gallai hyn gynnwys
problemau gydag iechyd meddwl,
7
00:00:31 --> 00:00:35
camddefnyddio sylweddau
neu gam-fanteisio ar blant
8
00:00:35 --> 00:00:39
ac rydym ni'n gweithio'n agos
gydag asiantaethau a theuluoedd eraill
9
00:00:39 --> 00:00:41
er mwyn diwallu anghenion y plant hynny.
10
00:00:41 --> 00:00:43
Mae Llinos yn rhoi ei safonau uchel
a'i gwerthoedd gwaith cymdeithasol ar waith
11
00:00:43 --> 00:00:44
gyda phob person ifanc
mae'n cyfarfod â nhw.
12
00:00:44 --> 00:00:46
Dwi'n credu bod hi'n chwarae rôl hollbwysig
o ran gwella safon eu bywydau.
13
00:00:46 --> 00:00:49
Mae Llinos yn gefnogol iawn
o'i chydweithwyr gwaith cymdeithasol
14
00:00:49 --> 00:00:50
yn ei thîm.
15
00:00:50 --> 00:00:54
Mae hi'n cefnogi'r myfyrwyr
trwy gydol eu lleoliadau
16
00:00:54--> 00:00:57
yn ogystal â'r staff newydd yn y tîm.
17
00:00:57 --> 00:01:02
Hi yw'r person cyson yn y tîm
y mae pawb yn teimlo'n gyfforddus
18
00:01:02 --> 00:01:04
wrth droi ati.
19
00:01:04 --> 00:01:07
Dwi heb weld yn ystod fy 36 mlynedd
o weithio fel gweithiwr cymdeithasol
20
00:01:07 --> 00:01:11
unrhyw un sy'n gweithio'r un mor galed
i gyflawni canlyniadau teg
21
00:01:11 --> 00:01:14
dros y bobl ifanc
y mae hi'n gweithio gyda nhw.
22
00:01:14 --> 00:01:21
Bydd yn gwneud popeth y gall hi
i sicrhau fod ganddynt ddyfodol gwell
23
00:01:21 --> 00:01:22
o'u blaenau.
24
00:01:22 --> 00:01:26
Mae llawer o bethau dwi'n caru yn fy swydd.
25
00:01:26 --> 00:01:30
Rhaid dweud mai'r peth gorau yw
pan fyddwch chi'n gweithio'n agos iawn
26
00:01:30 --> 00:01:33
gyda phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd
a gallwch weld eu cynnydd nhw
27
00:01:33 --> 00:01:38
a'ch bod chi wedi diwallu eu hanghenion
a bod y plant bellach yn ddiogel
28
00:01:38 --> 00:01:42
ac nid mewn argyfwng
a'u bod nhw'n derbyn gofal ac yn ffynnu.
29
00:01:42 --> 00:01:48
Yn sicr, dyna fyddai hoff ran o'r swydd
pob gweithiwr cymdeithasol.