1
00:00:07 --> 00:00:12
Dwi’n gyfrifol am wasanaethau oedolion o
fewn meysydd iechyd meddwl,
2
00:00:12 --> 00:00:16
anabledd dysgu a diogelu oedolion.
3
00:00:17 --> 00:00:24
Yn fy ngwaith bob dydd, fy mhrif rôl ydy
arwain gwasanaethau,
4
00:00:24 --> 00:00:27
arwain a chefnogi staff
5
00:00:27 --> 00:00:33
drwy arolygaeth, cyfarfodydd a thrafodaethau.
6
00:00:33 --> 00:00:37
Dwi hefyd o dro i dro, yn cael cyfle i gyfarfod
7
00:00:37 --> 00:00:41
ag unigolion sy’n derbyn gwasanaethau oddi
wrth y sir,
8
00:00:41 --> 00:00:45
hefyd i gyfarfod â’u teuluoedd a’u gofalwyr,
9
00:00:45 --> 00:00:48
a chael cyfle i drafod beth sy’n gweithio’n
dda
10
00:00:48 --> 00:00:50
o ran y gwasanaethau maen nhw’n derbyn,
11
00:00:50 --> 00:00:52
beth sydd ddim cystal,
12
00:00:52 --> 00:00:55
a beth fedrwn ni wneud i wella pethau.
13
00:00:55 --> 00:00:59
Roedd fy swydd wreiddiol i fel gweithiwr cymdeithasol
14
00:00:59 --> 00:01:00
dros 17 o flynyddoedd yn ôl
15
00:01:00 --> 00:01:04
yn swydd lle roedd medru siarad Cymraeg yn
angenrheidiol.
16
00:01:04 --> 00:01:07
Alaw Pierce oedd rheolwr y tîm ar y pryd
17
00:01:07 --> 00:01:10
ac mae’r ffaith ei bod hi wedi hyrwyddo’r
Gymraeg
18
00:01:10 --> 00:01:12
o fewn y gwasanaeth yn y ffordd yma
19
00:01:12 --> 00:01:14
wedi denu siaradwyr Cymraeg i’r tîm
20
00:01:14 --> 00:01:18
ac erbyn heddiw mae canran y siaradwyr Cymraeg
yn y tîm yn uchel
21
00:01:18 --> 00:01:22
ac yn uwch nag unrhyw dîm arall o fewn Sir
Ddinbych.
22
00:01:22 --> 00:01:26
Mae Alaw bob amser yn annog pobl i siarad
Cymraeg mewn ffordd garedig
23
00:01:26 --> 00:01:29
a gwn i, er enghraifft, fod gennyn ni aelod
o'r grŵp o'r enw Bryn
24
00:01:29 --> 00:01:32
sef dyn sydd ag anableddau dysgu
25
00:01:32 --> 00:01:37
a bydd hi'n sgwrsio â fe yn Gymraeg cyn i'r
cyfarfod ddechrau,
26
00:01:37 --> 00:01:41
ac mae'n ffordd hyfryd o ddangos pwysigrwydd
annog a chefnogi pobl
27
00:01:41 --> 00:01:46
i siarad eu hiaith gyntaf mewn ffordd gynnil.
28
00:01:46 --> 00:01:50
Dwi’n mwynhau gweithio efo pobl
29
00:01:50 --> 00:01:54
ac mae’n fraint cael bod yn rhan o fywyd
rhywun,
30
00:01:54 --> 00:01:56
hyd yn oed am amser byr.