Jump to content
Sut i gynnal sesiwn oruchwylio da gan ddefnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau: gofal oedolion

Mae Jay a Rhoda yn actio senario rhwng rheolwr ac ymarferwr sy'n gweithio mewn lleoliad gofal cymdeithasol oedolion. Mae Rhoda yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau i fyfyrio ar y gwaith, ac i fagu hyder bod y cynllun yn cyflawni'r hyn sy'n bwysig i'r person y mae Jay yn ei gefnogi. Dyma enghraifft o sesiwn oruchwylio fer, dosturiol, adfyfyriol. Mae'n dangos ysbryd sesiwn oruchwylio sy'n seiliedig ar gryfderau i roi syniad i chi o sut y gellid eu cynnal.