Mae’n golygu eu mwynhau nhw, gweithio gyda nhw a bod yn gefn iddyn nhw.
Tua 20 mlynedd yn ôl, roedd gen i ffrind oedd wedi bod yn maethu ers tipyn.
Roedden ni wedi bod yn gohirio maethu oherwydd bod gennym ni dau o blant a oedd yn tyfu i fyny.
Ond pan roedden nhw yn yr ysgol a’r Brifysgol, dyma benderfynu mynd amdani!
Holon ni, a dydyn ni ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.
Dwi wrth fy modd yn gofalu am blant, mae’n rhywbeth dwi wedi mwynhau ei wneud erioed pan roedd fy mhlant yn ifanc.
Mae’n brofiad gwerth chweil, mae’n gallu bod yn anodd ar brydiau, coeliwch chi fi, ond fyddwn i ddim yn newid pethau am y byd. Ydi, mae’n rhoi gwefr i chi!