1
00:00:00,840 --> 00:00:01,280
Helo.
2
00:00:01,280 --> 00:00:04,760
Fy enw i yw Mick Giannasi a fi yw Cadeirydd Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru.
3
00:00:05,760 --> 00:00:08,400
Yr amser yma bedair blynedd yn ôl, yn union fel yr ydych chi ar hyn o bryd,
4
00:00:08,400 --> 00:00:12,240
roeddwn yn edrych am her newydd, cyfle i ddefnyddio'r sgiliau
5
00:00:12,240 --> 00:00:15,360
a'r profiad a gefais yn ystod gyrfa hir ac amrywiol
6
00:00:15,760 --> 00:00:18,760
i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.
7
00:00:19,400 --> 00:00:21,720
A dweud y gwir, doeddwn i erioed wedi clywed am Gofal Cymdeithasol Cymru,
8
00:00:21,720 --> 00:00:24,720
heb sôn am feddwl am wneud cais i fod yn Gadeirydd y Bwrdd.
9
00:00:25,480 --> 00:00:28,480
Ond y mwyaf y siaradais â phobl a oedd yn adnabod y sefydliad,
10
00:00:28,520 --> 00:00:30,920
y mwyaf roedd yn apelio.
11
00:00:30,920 --> 00:00:33,600
Daeth yn amlwg i mi fod Gofal Cymdeithasol Cymru
12
00:00:33,600 --> 00:00:37,800
yn sefydliad uchel ei barch, a arweiniwyd yn dda sy’n cael ei ysgogi
13
00:00:37,800 --> 00:00:42,480
gan set gref o werthoedd gwasanaeth cyhoeddus sy’n sail i bopeth y mae’n ei wneud.
14
00:00:43,200 --> 00:00:46,560
Ac roedd gan bawb y siaradais i â nhw, o uwch swyddogion y llywodraeth i
15
00:00:46,560 --> 00:00:50,160
randdeiliaid allweddol a defnyddwyr gwasanaethau, bethau cadarnhaol iawn
16
00:00:50,160 --> 00:00:53,520
i'w dweud am y sefydliad a'r bobl sy'n gweithio ynddo.
17
00:00:54,600 --> 00:00:57,320
A phedair blynedd yn ddiweddarach, does dim byd rydw i wedi'i weld wedi newid
18
00:00:57,320 --> 00:01:01,920
fy argraff gychwynnol o sefydliad hynod effeithiol,
19
00:01:01,920 --> 00:01:05,760
sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ar gyfer gofal a chymorth yng Nghymru, i oedolion
20
00:01:05,760 --> 00:01:09,880
a phlant sydd angen gofal a chymorth, a'u teuluoedd a'u gofalwyr.
21
00:01:10,800 --> 00:01:13,960
Nid yw hynny'n golygu nad oes mwy o waith i'w wneud.
22
00:01:13,960 --> 00:01:16,960
Nid yw'r heriau sy'n wynebu'r sector gofal cymdeithasol
23
00:01:17,120 --> 00:01:19,960
erioed wedi bod yn fwy nag y maen nhw heddiw.
24
00:01:19,960 --> 00:01:22,880
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn chwarae rôl arweiniol bwysig
25
00:01:22,880 --> 00:01:26,880
o ran cefnogi’r trawsnewid sy’n angenrheidiol i wneud
26
00:01:26,880 --> 00:01:31,160
gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru yn addas at y diben, ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
27
00:01:31,320 --> 00:01:35,040
Ein prif rôl yw rheoleiddio'r rhai sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.
28
00:01:35,360 --> 00:01:37,200
Pobl fel gweithwyr cymdeithasol,
29
00:01:37,200 --> 00:01:40,480
gweithwyr gofal cartref a'r rhai sy'n gofalu am blant.
30
00:01:41,480 --> 00:01:44,480
Mae hynny’n golygu ein bod ni'n cofrestru ymarferwyr gofal cymdeithasol,
31
00:01:44,600 --> 00:01:46,760
yn gosod safonau ar gyfer eu hymarfer
32
00:01:46,760 --> 00:01:50,480
ac yn gwneud yn siŵr eu bod wedi’u hyfforddi’n ddigonol ac yn addas i gyflawni eu rôl.
33
00:01:51,840 --> 00:01:53,640
A thu hwnt i'n rôl fel rheoleiddiwr
34
00:01:53,640 --> 00:01:57,840
mae gennym ni hefyd gyfrifoldeb ehangach i helpu i ddatblygu a gwella'r gweithlu.
35
00:01:58,280 --> 00:02:01,560
Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag asiantaethau eraill i wella ansawdd
36
00:02:01,560 --> 00:02:06,680
gwasanaethau gofal cymdeithasol a gosod blaenoriaethau ar gyfer ymchwil, arloesi a data.
37
00:02:07,680 --> 00:02:09,760
Rydyn ni'n atebol i weinidogion Llywodraeth Cymru am
38
00:02:09,760 --> 00:02:13,800
yr hyn a wnawn a chaiff ein hamcanion eu pennu drwy lythyr cylch gwaith blynyddol.
39
00:02:14,480 --> 00:02:17,480
Ac mae hyn yn dweud wrthym faint o gyllid sydd wedi'i ddyrannu i ni bob blwyddyn,
40
00:02:17,480 --> 00:02:22,120
tua £30 miliwn ydyw ar hyn o bryd, a'r hyn y mae'n rhaid inni ei gyflawni.
41
00:02:23,040 --> 00:02:26,040
Ein prif weithredwr, Sue Evans, yw’r swyddog atebol.
42
00:02:26,480 --> 00:02:30,040
Mae hynny'n golygu ei bod hi'n uniongyrchol gyfrifol am arwain y sefydliad,
43
00:02:30,360 --> 00:02:31,560
am reoli'r arian,
44
00:02:31,560 --> 00:02:34,560
ac am sicrhau bod yr ymrwymiadau a wnawn yn cael eu cyflawni.
45
00:02:35,280 --> 00:02:37,840
Felly os ydy Sue yn gyfrifol am arwain y sefydliad,
46
00:02:37,840 --> 00:02:39,720
beth felly yw rôl y Bwrdd?
47
00:02:39,720 --> 00:02:41,240
Wel, rôl y Bwrdd
48
00:02:41,240 --> 00:02:44,640
ydy dod â phersbectif annibynnol i redeg y sefydliad.
49
00:02:45,400 --> 00:02:49,440
Yn fwy penodol, rydyn ni'n gweithio gyda’r Prif Weithredwr a’i thîm
50
00:02:49,560 --> 00:02:52,560
i osod y cyfeiriad strategol ar gyfer y sefydliad
51
00:02:52,560 --> 00:02:56,520
a sicrhau bod y strategaeth a osodwn yn adlewyrchu polisi’r llywodraeth
52
00:02:56,760 --> 00:02:59,760
ac yn bodloni’r cylch gwaith, a bennir yn flynyddol gan weinidogion.
53
00:03:00,520 --> 00:03:03,360
Ein cyfrifoldeb ni hefyd yw penodi'r Prif Swyddog Gweithredol
54
00:03:03,360 --> 00:03:07,240
a'i dal hi a'i thîm yn atebol am gyflawni'r strategaeth y cytunwyd arni.
55
00:03:08,000 --> 00:03:11,520
Y tu hwnt i hynny, mae gennym ni ddyletswydd i graffu a herio
56
00:03:11,680 --> 00:03:14,680
er mwyn sicrhau bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio’n effeithiol
57
00:03:14,880 --> 00:03:18,120
ac i sicrhau bod risg yn cael ei chydnabod a’i rheoli’n briodol.
58
00:03:19,320 --> 00:03:21,200
Er ein bod yn cyfarfod yn rheolaidd fel Bwrdd llawn,
59
00:03:21,200 --> 00:03:24,360
gwneir y rhan fwyaf o'n gwaith craffu manwl drwy dri phwyllgor, sef
60
00:03:24,520 --> 00:03:27,920
Archwilio a Risg, Gwella, a Rheoleiddio a Safonau.
61
00:03:28,280 --> 00:03:30,720
Ac os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais,
62
00:03:30,720 --> 00:03:33,720
yn ogystal â chymryd rhan yng nghyfarfodydd rheolaidd y Bwrdd,
63
00:03:33,760 --> 00:03:36,760
byddwch chi hefyd yn aelod o ddau o'r tri phwyllgor hynny.
64
00:03:37,160 --> 00:03:39,840
Ond nid mater o fynychu cyfarfodydd yn unig yw bod yn aelod o'r Bwrdd.
65
00:03:39,840 --> 00:03:43,680
Byddwch yn chwarae rhan mewn agweddau eraill o waith y sefydliad.
66
00:03:44,560 --> 00:03:47,640
Er enghraifft, mae aelodau'r Bwrdd yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o feirniadu'r
67
00:03:47,640 --> 00:03:52,200
Gwobrau, ein gwobrau blynyddol uchel eu parch ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.
68
00:03:53,520 --> 00:03:55,800
Fel y byddwch chi wedi gweld o’r pecyn recriwtio, bydd
69
00:03:55,800 --> 00:03:57,440
y rhan fwyaf o’n haelodau hir-wasanaeth
70
00:03:57,440 --> 00:04:00,440
yn cyrraedd diwedd eu cyfnod dros y ddwy flynedd nesaf,
71
00:04:00,480 --> 00:04:04,200
a bydd hyn yn creu cyfle i 11 o bobl newydd ymuno â'r Bwrdd.
72
00:04:05,000 --> 00:04:08,520
Byddwn ni'n chwilio am chwech o'r rheini i ymuno â'r Bwrdd ym mis Ebrill 2024
73
00:04:08,800 --> 00:04:12,840
a'r pump arall i ymuno 12 mis yn ddiweddarach ym mis Ebrill 2025.
74
00:04:13,840 --> 00:04:14,920
Ar gyfer rhai o'r rolau hynny
75
00:04:14,920 --> 00:04:18,040
rydyn ni'n chwilio am bobl â phrofiad uniongyrchol mewn gofal cymdeithasol.
76
00:04:18,360 --> 00:04:21,280
Er enghraifft, yn weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig
77
00:04:21,280 --> 00:04:25,160
neu'n uwch reolwr neu reolwr canol yn y sector preifat neu lywodraeth leol
78
00:04:25,560 --> 00:04:30,120
neu ym maes hyfforddiant a chymwysterau gofal cymdeithasol. Ar gyfer rolau eraill
79
00:04:30,320 --> 00:04:31,560
mae mwy o hyblygrwydd,
80
00:04:31,560 --> 00:04:34,800
ac rydyn ni wedi nodi yn y pecyn recriwtio y math o fewnwelediadau
81
00:04:34,800 --> 00:04:38,760
a safbwyntiau a fydd, yn ein barn ni, yn ychwanegu gwerth at ein haelodaeth bresennol.
82
00:04:39,440 --> 00:04:43,560
Mae hynny'n cynnwys cefndiroedd proffesiynol fel cyfrifeg a gwasanaethau digidol.
83
00:04:44,120 --> 00:04:46,800
Ac rydyn ni hefyd yn awyddus i recriwtio pobl sydd wedi defnyddio
84
00:04:46,800 --> 00:04:49,800
gwasanaethau gofal cymdeithasol neu wedi cefnogi eraill sydd wedi gwneud hynny.
85
00:04:50,400 --> 00:04:52,880
Yn wir, mae gennym ni fwy o ddiddordeb mewn pwy ydych chi
86
00:04:52,880 --> 00:04:56,240
fel person a'r rhinweddau a'r mewnwelediadau y byddwch yn eu cyflwyno i'r rôl yn
87
00:04:56,640 --> 00:05:00,080
hytrach na'r hyn yr ydych wedi'i wneud yn y gorffennol neu ba gymwysterau sydd gennych.
88
00:05:01,280 --> 00:05:04,280
Rydyn ni eisoes yn Fwrdd cymharol amrywiol,
89
00:05:04,320 --> 00:05:07,040
ond mae llawer mwy y mae angen i ni ei wneud i fod yn wirioneddol
90
00:05:07,040 --> 00:05:10,040
gynrychioliadol o'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.
91
00:05:10,040 --> 00:05:14,000
Am y rheswm hwnnw, byddem yn croesawu’n gynnes geisiadau gan bobl o
92
00:05:14,280 --> 00:05:17,280
grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
93
00:05:18,120 --> 00:05:21,840
Rydyn ni hefyd yn awyddus i annog ceisiadau gan bobl ag anableddau,
94
00:05:21,840 --> 00:05:26,400
pobl sy'n lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a phobl
95
00:05:26,400 --> 00:05:30,600
dan 30 oed, sydd i gyd yn cael eu tangynrychioli ar lefel Bwrdd.
96
00:05:31,440 --> 00:05:34,440
Os nad ydych chi wedi bod yn aelod o Fwrdd o'r blaen, peidiwch â phoeni,
97
00:05:34,720 --> 00:05:37,720
Byddwn ni'n darparu'r holl ddatblygiad, cefnogaeth ac anogaeth
98
00:05:37,720 --> 00:05:40,720
sydd eu hangen arnoch i'ch helpu i ddod yn aelod effeithiol o'r Bwrdd.
99
00:05:41,560 --> 00:05:44,560
Felly os ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r sgiliau a'r galluoedd rydyn ni'n chwilio amdanyn nhw
100
00:05:44,760 --> 00:05:48,680
a'ch bod chi'n rhannu ein gwerthoedd sefydliadol a bod gennych chi angerdd gwirioneddol
101
00:05:48,680 --> 00:05:51,760
am ofal cymdeithasol, yna byddwn i'n argymell yn gryf
102
00:05:51,760 --> 00:05:54,840
eich bod chi'n rhoi eich hun ymlaen i gael ei ystyried.
103
00:05:54,840 --> 00:05:57,200
Yn sicr, dydw i ddim wedi cael fy siomi gan fy newis
104
00:05:57,200 --> 00:06:01,440
i ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, ac rwy’n weddol hyderus, os byddwch chi'n
105
00:06:01,440 --> 00:06:04,840
llwyddiannus yn eich cais, na chewch chi eich siomi.
106
00:06:05,520 --> 00:06:08,400
Felly diolch i chi am eich diddordeb yn Gofal Cymdeithasol Cymru
107
00:06:08,400 --> 00:06:10,600
a phob lwc gyda'ch cais.