Mae taliadau uniongyrchol yn ffordd o gadw pobl mewn rheolaeth o’u bywydau a’u hymgrymuso nhw i gael gafael yn eu hamgylchiadau a rhoi dewis iddyn nhw o ran pwy sy’n rhoi eu cymorth a phryd.
Sdim eisiau cael sgwrs gymhleth. Dwi’n siarad â phobl I ddeall a fyddai cynorthwy-ydd personol yn addas iddynt, neu efallai cyflogi asiantaeth.
Rydyn ni’n dweud wrth bobl fod ganddynt hawl i ddewis pwy yw’r darparwr gofal. Felly os yw pobl eisiau’r dewis ‘na, gwnawn ni’n siŵr bod e gyda nhw.
Nawr, mae eisiau cymorth cyflogedig arnoch chi. Felly rhaid i ni weithio allan pwy yw’r person gorau i ddod i’ch cynorthwyo yn y cartref a sut bydd y gofal yn edrych.
Nawr, mae ffyrdd gwahanol o wneud hynny.
Un o’r ffyrdd yw gofyn i’r gwasanaethau cyfnewid awdurdodau lleol i enwebu asiantaeth ar eich rhan ac bydd y rhain yn anfon rhywun draw.
Felly, rydym yn meddwl bod eisiau hanner awr arnoch chi’r rhan fwyaf o ddiwrnodau i gynllunio eich diwrnod. Ond y ffordd arall yw rhoi mwy o ddewis i chi am pwy sy’n dod draw i roi cymorth i chi.
Felly, alla’ i ddewis o ble dwi’n cael cymorth?
Yn hollol. Dyna’r pwynt o wneud pethau y ffordd hyn achos mae pob math o asiantaethau yn y fro a byddwch yn nabod rhai ohonynt. Posibl bydd ffrindiau a theulu gyda chi sy’ wedi defnyddio asiantaeth o’r blaen a gallwch roi eu barn arnynt.
Felly, efallai ei bod yn werth cael golwg o gwmpas a gweld os oes darparwr fyddai’n dda i chi.
Iawn
Gallwch wahodd y darparwyr draw i gael sgwrs a gweld os oes gwell gyda chi rai na’i gilydd. Gwn i fod rhai pethau’n bwysig i chi, er enghraifft, rhaid i bwy bynnag sy’n dod draw hoffi Luna y ci.
Oes, wrth gwrs
Achos mae’r pethau hyn yn bwysig iawn wrth i ni ofyn i’r darparwr am yr hyn rydyn ni eisiau. Bydd rhai darparwyr yn medru cytuno i hynny, a rhai ddim. Felly gallen ni ddiystyried y rheiny’n syth bin.
Ie, dyna fe.
Wedyn gallen ni gyfweld â’r rhai gorau efallai. Un o’r buddion o’i gwneud y ffordd yma neu fel taliad uniongyrchol, fyddai y gallwch fancio’r amser nad ydych chi’n ei ddefnyddio ar rai o ddiwrnodau. Er enghraifft, tasai’ch mam yn mynd â chi allan neu fod gennych chi apwyntiad ysbyty.
Felly, pwy fyddwn i’n ffonio, taswn i eisiau canslo apwyntiad i fynd i’r ysbyty?
Fyddai ddim eisiau fy ffonio i. Mae i gyd amdanoch chi’n cael y berthynas ‘na gyda’r darparwr. Am gael y rheolaeth ‘na.
Iawn
Ac dwi’n gwybod bod eich mam a dad am fynd ar wyliau, ydyn? Pryd maen nhw’n mynd i ffwrdd, maen nhw’n poeni am eich gadael chi. Felly, posibl gallwch chi ddefnyddio’r amser wrth gefn i’r perwyl ‘na. Felly byddai gennych chi’r ‘rhwyd diogelwch’ pryd maen nhw i ffwrdd.
Sut mae’r ochr ariannol yn gweithio gyda thaliadau uniongyrchol?
Maen nhw’n ei alw’n daliadau uniongyrchol ond mae’r enw’n gamarweiniol achos dyw hi ddim am arian; mae am y dewis a rheolaeth.
Rydych chi wedi cytuno yr hoffech chi’r dewis a’r rheolaeth ‘na, felly rhaid i ni weithio allan sut mae’r ochr ariannol yn gweithio.
Yn ddelfrydol, hoffen ni roi cymaint o reolaeth â phosibl.
Mae hynny’n meddwl y gallai’ch arian chi gael ei drosglwyddo i gyfrif banc yn eich enw chi. Wedyn y chi fyddai’n talu’r darparwr yn uniongyrchol.
Dyw rhai o bobl ddim yn medru rheoli cyfrif banc, felly yn yr achosion hynny, efallai byddai’r awdurdod lleol dalu’r darparwr o’u dewis nhw yn uniongyrchol.
Mae gennon ni wasanaeth cymorth taliadau uniongyrchol yn lleol, felly bydda’ i’n eu cyflwyno nhw i chi ac byddan nhw’n eich helpu i symud pethau ymlaen.
Gwych, diolch yn fawr.
I fi, mae hi wir yn bwysig ‘mod i’n cynnig taliadau uniongyrchol. Sdim dwywaith amdani. Mae’n hanfodol bod gan bobl y dewis am bwy sy’n dod draw i’w cefnogi yn eu cartrefi eu hunain. Gall defnyddio taliad uniongyrchol helpu pobl i adeiladu bywyd.
Ddau fis yn ôl fyddwn i ddim wedi gallu mynd allan ac ymaelodi â chôr. Ond nawr dwi wedi cael help ac mae’n rhoi’r hyder i fi i’w gwneud hi ar fy mhen fy hunan eto.