0:04
Bore da bawb a chroeso i lansiad y Safonau hyfforddiant,
0:12
dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol i Gymru. Jane Randall ydw i, Cadeirydd Bwrdd Diogelu
0:18
Annibynnol Cenedlaethol Cymru ac rwy'n falch iawn o fod yma i gadeirio'r lansiad y bore 'ma.
0:23
Dyma'r digwyddiad cyntaf yn Wythnos Genedlaethol Diogelu 2022. Wythnos lle mae
0:30
pob math o ddigwyddiadau ledled Cymru a gynhelir gan ein byrddau rhanbarthol a chenedlaethol ac
0:36
rwy'n gobeithio y byddwch chi'n bachu'r cyfle i ymuno â chymaint o sesiynau ag sy'n bosib.
0:41
Os ydych chi am wybod beth sydd ar gael yr wythnos hon mae porth canolog o ddigwyddiadau
0:46
sy'n cael ei gynnal ar wefan y Bwrdd Cenedlaethol. Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi. Cyn i ni gyflwyno
0:54
ein siaradwyr y bore 'ma dwi angen sôn am ychydig o faterion cadw tŷ.
0:59
Bwriad y sesiwn hon y bore 'ma yw lansiad. Mae'n ymwneud â rhannu gwybodaeth. Nid yw’n sesiwn
1:05
ryngweithiol ac felly mae'r swyddogaethau sgwrsio a holi ac ateb wedi'u diffodd.
1:13
Gofynnwn i chi beidio â chodi eich llaw gan na fyddwn yn gallu ymateb i ymholiadau unigol. Fodd bynnag
1:20
yn 'chat' mae dolen i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n fyw y bore 'ma
1:26
gyda gwybodaeth am y safonau ynghyd â chyfeiriad e-bost i'w ddefnyddio
1:32
os oes gennych unrhyw gwestiynau o'r digwyddiad a byddan nhw'n cael eu hateb yn nes ymlaen.
1:39
Gan nad yw hwn yn ddigwyddiad rhyngweithiol rydym yn cynnal y digwyddiad yn Saesneg yn unig ond mae'n cael ei recordio a phan fydd ar gael, bydd modd ei wylio
1:51
gydag is-deitlau yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd yr holl adnoddau sy'n cael eu cynhyrchu a'u dangos heddiw
1:58
gan gynnwys y cyflwyniadau ar gael ar y wefan yn ddwyieithog hefyd.
2:06
Mae'r wefan yn fyw yn awr a bydd y ddolen yn cael ei rhannu gyda chi yn nes ymlaen.
2:11
Wna i'ch atgoffa am hynny tua diwedd y sesiwn. Byddwch wedi derbyn bywgraffiadau o'n holl siaradwyr
2:17
a gobeithio y byddwch yn eu defnyddio i gael gwybodaeth am bwy fydd yn eich annerch
2:22
ond byddaf yn cyflwyno pob unigolyn wrth i ni fynd drwy'r sesiwn.
2:29
Felly, fy Siaradwr cyntaf y bore 'ma yw Lance Carver, sef Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
2:36
Bro Morgannwg sy'n mynd i roi datganiad agoriadol i ni.
2:44
Diolch Jane. Fel y dywedodd Jane, Lance Carver ydw i, dwi'n gadeirydd bwrdd Gweithdrefnau Diogelu Cymru sydd wedi datblygu'r gweithdrefnau diogelu. Nôl yn 2019, Cymru oedd y rhan gyntaf o'r DU
2:56
i gyflwyno un set o ganllawiau diogelu i blant ac oedolion agored i niwed pan
3:03
wnaethom lansio'r gweithdrefnau. Fe'u lansiwyd ar-lein a thrwy'r ap yn y lle cyntaf a’u nod pennaf
3:09
oedd safoni arferion ar draws Cymru a rhwng asiantaethau a sectorau.
3:17
Seiliwyd y gwaith hwn ar y datblygiadau diweddaraf o ran diogelu o bob cwr o'r DU a chymerodd
3:24
tua dwy flynedd. Cyfrannodd llawer o weithwyr diogelu proffesiynol o bob cwr o Gymru
3:29
er mwyn sicrhau gweithdrefnau oedd yn ceisio sicrhau’r arferion gorau posib a'u bod wedi'u seilio mewn realiti gweithredol. Un o'r heriau a wynebwyd oedd sicrhau eu bod yn hygyrch
3:42
ac yn addas i staff sy'n gweithio ar draws yr holl wahanol sectorau ac asiantaethau
3:47
a phrofodd hynny’n gryfder ynddynt. Heb os, mae iaith a dealltwriaeth gyffredin
3:54
wedi cryfhau ymarfer amlasiantaethol. Maent yn cynnwys mynegbyst ar gyfer ymarfer
4:01
yn holl fersiynau'r gweithdrefnau ac yn darparu canllawiau syml i ymarferwyr.
4:09
Fodd bynnag, roeddem yn gwybod wrth i ni eu datblygu y byddai angen rhaglen hyfforddi arnom i ddod â nhw'n wirioneddol fyw.
4:15
Wrth gwrs, roedd hyfforddiant diogelu eisoes wedi'i hen sefydlu mewn sawl asiantaeth. Wrth drafod ymwreiddio'r gweithdrefnau gydag ymarferwyr, clywsom nifer o sylwadau droeon.
4:25
Yn gyntaf bod yr hyfforddiant tra'n dda iawn yn aml, yn anghyson ar draws asiantaethau
4:30
ac mae'n debyg gen i, yn ail, ei bod yn aneglur weithiau i ba lefelau y dylid hyfforddi staff
4:36
ar draws sefydliadau mawr. Roedd cefnogi ymarferwyr wrth fynd i'r afael â'r materion hyn
4:41
yn sbardun mawr yn natblygiad y safonau Dysgu a Datblygu. Rwy'n ddiolchgar iawn i
4:47
Gofal Cymdeithasol Cymru am oruchwylio datblygiad y Safonau hyfforddiant cenedlaethol, er mwyn sicrhau ein bod yn adeiladu ar gysondeb amlasiantaethol o ran ymarfer a'r gweithdrefnau. Yn union fel y gweithdrefnau
4:57
ymgynghorwyd ar y safonau hyfforddiant yn helaeth i sicrhau eu bod yn taro deuddeg er mwyn datblygu ymarfer diogelu go iawn. Mae'n enghraifft wych o gyd-gynhyrchu;
5:07
mae cannoedd o ymarferwyr wedi bod yn rhan o ddatblygu Dysgu a Datblygu'r safonau hynny.
5:12
Rwy'n falch iawn o fod yma i agor lansiad y safonau Hyfforddiant Cenedlaethol. Rwy'n edrych ymlaen at glywed gan y dirprwy Weinidog, y cadeirydd ac aelodau'r panel
5:20
am effaith ddisgwyliedig y datblygiad hwn. Mae'r safonau'n fyw nawr ar wefan
5:25
Gofal Cymdeithasol Cymru i bawb eu gweld, ac fel y dywedodd Jane, caiff y sesiwn hon ei recordio a'i rhannu wedyn ac rydym yn datblygu cwestiynau cyffredin hefyd i helpu asiantaethau
5:35
ac ymarferwyr sy'n rhoi'r safonau ar waith. Byddwn yn rhannu manylion ar ddiwedd y sesiwn ar sut i gysylltu a dwi'n gwybod y gwelwn ymgysylltu parhaus gan gydweithwyr sy'n cofrestru
5:45
gyda'r safonau yn yr un ffordd ag yr ydym wedi cael mewnbwn mor wych hyd yn hyn, felly diolch.
5:51
Diolch Lance. Mae'n bleser gen i groesawu'r siaradwr nesaf, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
6:02
Julie Morgan sy'n Aelod o'r Senedd yma yng Nghymru. Mae Julie'n mynd i siarad
6:08
am ddiogelu a'r uchelgeisiau cyffredinol yng Nghymru.
6:15
Bore da a bore da Jane. Diolch am fy ngwahodd i siarad yma heddiw.
6:25
Dwi'n falch iawn o allu ymuno â chi fel rhan o wythnos diogelu. Rwy’n credu
6:31
bod hon yn fenter hynod bwysig i dynnu sylw at faterion diogelu allweddol a hwyluso
6:39
sgyrsiau a chodi ymwybyddiaeth o arferion gorau diogelu yma yng Nghymru.
6:46
Rwy'n credu bod wythnos Genedlaethol Diogelu yn darparu cyfle i ddatblygu ein
dysgu
6:52
ar ddiogelu i bawb. I oedolion, plant a phobl ifanc. Mae pob bwrdd diogelu
6:59
Rhanbarthol wedi datblygu rhaglen sy'n adlewyrchu'r blaenoriaethau diogelu
7:04
sydd fwyaf perthnasol i'w rhanbarth nhw. Rwy'n arbennig o falch o fod yn helpu
7:11
i lansio'r safonau hyfforddiant diogelu, sy'n ceisio sicrhau cysondeb yng nghynllun,
7:17
cynnwys a darpariaeth hyfforddiant diogelu ar draws sefydliadau yng Nghymru. Bydd yn mynd i'r afael ag
7:24
unrhyw bryder am lefelau priodol hyfforddiant diogelu o fewn pob math
7:29
o sefydliadau sy'n dod i gysylltiad â phlant ac oedolion a allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin.
7:36
Felly dwi'n meddwl ei fod yn gam mawr ymlaen er mwyn sicrhau arferion diogelu cyson ar draws Cymru.
7:42
Yn y sector cyhoeddus, preifat a sefydliadau'r trydydd sector mae diogelu yn gyfrifoldeb i bawb.
7:50
Mae cyd-ddealltwriaeth o hyn yn hanfodol i amddiffyn ein holl ddinasyddion.
7:59
Roedd lansio Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn 2019 yn gosod safon gyson
8:04
ar gyfer ymarfer diogelu yng Nghymru. Bydd lansio'r Safonau dysgu a datblygu cenedlaethol
8:10
yn sicrhau yn awr y bydd pawb yng Nghymru yn cael hyfforddiant cyson o ansawdd da
8:18
sy'n berthnasol i'w rôl a'u cyfrifoldebau. Mae'r safonau a lansiwyd heddiw yn cynnig canllawiau clir
8:25
Byddant yn sicrhau y bydd pawb yng Nghymru sydd ei angen yn derbyn hyfforddiant diogelu cyson o ansawdd uchel.
8:34
Datblygwyd y safonau gan ymarferwyr ar gyfer ymarferwyr, ac mae'r prosiect hwn
8:40
yn enghraifft wych o gyd-gynhyrchu gan roi'r hyder i ni y bydd y safonau'n rhoi'r gefnogaeth
8:46
sydd ei hangen ar ein cydweithwyr. Felly carwn ddiolch i bawb sydd wedi bod â rôl
8:52
wrth ddatblygu'r safonau. Rheini ar fwrdd Gweithdrefnau Diogelu Cymru
8:58
a'r Grŵp Datblygu fu'n llywio'r gwaith am fwy na blwyddyn
9:04
a Gofal Cymdeithasol Cymru a gomisiynwyd i hwyluso datblygiad y safonau,
9:10
pawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y drafft, y rhai fu'n cymryd rhan yn y gweithdai rhanbarthol
9:16
a gynhaliwyd gan y byrddau diogelu rhanbarthol. Pawb a wnaeth digwyddiad heddiw'n bosibl,
9:23
yn enwedig Jane a'n panel arbenigol. Felly, hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb sydd wedi parhau
9:31
i weithio mor galed yn ystod y cyfnod heriol yma. Gyda'n gilydd, gallwn gadw pobl yn ddiogel yng Nghymru.
9:47
Diolch yn fawr iawn, a dwi’n falch tu hwnt eich bod wedi neilltuo'r amser
9:53
i fod gyda ni'r bore 'ma. Rydym yn ei werthfawrogi’n fawr. Diolch.
9:58
Gan symud ymlaen, wnawn ni fwrw 'mlaen gyda'r cyflwyniad i Alys a Cheryl. Os ydych am ddangos eich cyflwyniad
10:05
cofiwch droi eich meics ymlaen ac fe wna i drosglwyddo atoch chi.
10:16
Diolch Jane.
10:27
Felly mae'r safonau wedi'u cyd-gynhyrchu gan grŵp datblygu cenedlaethol amlasiantaethol
10:33
a grwpiau ffocws eraill. Dywedwyd wrthym fel mae'r dirprwy Weinidog newydd bwysleisio
10:40
y byddai'n ddefnyddiol cael safonau cenedlaethol amlasiantaethol ar gyfer hyfforddiant diogelu dysgu a datblygu. Yna byddai cysondeb yn y cynnwys dylunio
10:52
wrth ddarparu hyfforddiant diogelu, dysgu a datblygu a byddai’n gyfle
10:57
hefyd i egluro hyfforddiant diogelu, dysgu a datblygu ar gyfer y gweithlu.
11:06
Ar y sgrin fe welwch gynrychiolaeth y sectorau a oedd yn ymwneud â'r grŵp datblygu amlasiantaethol,
11:14
ac roedd yn cynnwys yr holl asiantaethau partner a phartneriaid perthnasol eraill sy'n ymwneud â
11:20
diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl yng Nghymru. Dechreuon ni ar ein gwaith drwy goladu
11:27
deunydd diogelu presennol. O'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, cymwyseddau dogfennau rhyng-golegol,
11:33
strategaethau hyfforddiant a fframweithiau a chymwysterau'r GIG.
11:40
Fe wnaethom fapio'r hyn oedd ar gael a defnyddio hyn i'w alinio gyda Gweithdrefnau Diogelu Cymru i ysgrifennu'r Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu.
11:50
Rydym wedi defnyddio'r un iaith â Gweithdrefnau Diogelu Cymru
11:55
ond lle defnyddir termau newydd ceir geirfa i esbonio eu hystyr.
12:03
Mae gwaith y prosiect wedi cael ei rannu gyda bwrdd Gweithdrefnau Diogelu Cymru
12:08
ar bwyntiau rheolaidd, gan gydnabod adborth y bwrdd hwn drwy gydol datblygiad y safonau. Rhoddwyd sêl bendith y bwrdd i'r safonau ym mis Medi 2022 a byddwn
12:19
yn parhau i gydweithio i adolygu'r safonau yn y dyfodol. Wna i drosglwyddo'r awenau i Alys yn awr.
12:29
Fe welwch y triongl hierarchaeth hwn yn y ddogfen safonau a'i nod yw rhoi trosolwg
12:37
o'r broses safonau a sut mae'n ymwneud â rolau penodol ar draws y sector. Rydym wedi rhannu'r safonau
12:43
yn chwe grŵp A i F sy'n adlewyrchu rolau a chyfrifoldebau pobl a allai fod
12:50
yn ymwneud ag ymarfer diogelu. Y grŵp datblygu safonau diogelu cenedlaethol amlasiantaethol
12:55
wnaeth ddewis y grwpiau i gategoreiddio'r safonau, a chytuno y bydd y grwpiau'n gyson â'r lefelau
13:01
a nodir yn y rolau a'r cymwyseddau a oedd gynt yn eu lle ar gyfer staff gofal iechyd.
13:07
Felly mae grŵp A, er enghraifft, yn cyfateb i lefel un. Mae disgwyl y bydd y safonau o fewn y grwpiau
13:13
yn cael eu defnyddio'n hyblyg gan bob sefydliad gan fod cymaint o rolau gwahanol
13:19
ar draws yr holl asiantaethau. Cydnabyddir y bydd gan rai ymarferwyr rôl sy'n golygu bod ganddynt
13:25
gyfrifoldebau diogelu mewn un neu fwy o grwpiau. Yn y sefyllfaoedd hyn dylai'r sefydliad
13:32
alluogi'r gweithiwr i dderbyn hyfforddiant, dysgu a datblygu i'r grŵp uwch.
13:38
Hefyd os yw sefydliadau neu reolwyr yn ansicr pa grŵp yw'r un priodol
13:44
a'r rôl yn y canol rhwng mwy nag un grŵp, disgwylir i'r ymarferydd gael ei hyfforddi i fyny i'r grŵp uwch. Er enghraifft, os yw gweithiwr rhwng grwpiau B ac C yna dylai gael ei hyfforddi
13:56
i safonau grŵp C. Bwriedir i’r safonau Dysgu a Datblygu gael eu defnyddio ar draws sefydliadau
14:02
felly maen nhw wedi'u hysgrifennu mewn ffordd generig. Mae'r safonau ar gyfer ymarferwyr grŵp A yn berthnasol i
14:10
bawb sy'n ymuno â sefydliad sector cyhoeddus neu wirfoddol neu asiantaeth yng Nghymru fel gweithiwr neu wirfoddolwr.
14:17
Mae safonau Grŵp A yn berthnasol hefyd i aelodau etholedig ac aelodau byrddau sefydliadau.
14:25
Disgwylir i ymarferwyr ac aelodau sydd wedi'u cynnwys yng ngrŵp A fod yn ymwybodol o faterion diogelu
14:32
A gwybod beth i'w wneud os oes ganddynt unrhyw bryderon diogelu. Mae'r cynnwys yn canolbwyntio ar dri maes
14:37
sef; 1. Sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod. 2. Y ffactorau,
14:46
y sefyllfaoedd a’r gweithredoedd a allai arwain neu gyfrannu at gam-drin, niwed ac esgeulustod
14:52
ac yn bwysicaf 3. Sut mae adrodd, ymateb a chofnodi pryderon neu honiadau'n ymwneud â diogelu.
14:59
Ymarferwyr grŵp B yw'r rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phobl. Bydd ganddynt gyfrifoldeb arbennig mewn perthynas â'r bobl maen nhw'n gweithio gyda nhw
15:09
a bydd angen lefel uwch o wybodaeth diogelu arnynt na'r rhai yng ngrŵp A. Ymhlith enghreifftiau o ymarferwyr
15:15
yng ngrŵp B mae gweithwyr cartrefi gofal, nyrsys meithrin, gweinyddwyr a derbynyddion ysbytai,
15:22
cynorthwywyr addysgu, staff swyddfa sifilaidd sy'n gweithio gyda'r heddlu a gwirfoddolwyr. Mae cynnwys y grŵp hwn
15:30
yn canolbwyntio ar bedwar maes. Deddfwriaeth, Polisïau cenedlaethol a chodau ymddygiad,
15:36
sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod, gyda'r ffactorau'n
15:42
cynnwys arwyddion a symptomau a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
15:48
ac yn bedwerydd sut i adrodd, ymateb a chofnodi pryderon neu honiadau'n ymwneud â diogelu.
15:56
Bydd angen i ymarferwyr wybod popeth yng ngrŵp A yn ogystal â Grŵp B ar gyfer cyfranogwyr Grŵp B.
16:02
Ymarferwyr Grŵp C yw'r rhai sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros ddiogelu pobl.
16:08
Bydd ganddyn nhw rôl asesu sy'n gysylltiedig â'r broses ddiogelu a/neu'n gweithredu
16:15
ar lefel lle gallan nhw roi cyngor ynghylch diogelu i'r rhai yng ngrŵp A a B,
16:22
a/neu'n gweithio mewn lleoliad neu'n rheoli lleoliad lle maen nhw'n treulio llawer o amser heb oruchwyliaeth
16:30
ac efallai y bydd pryderon diogelu. Mae enghreifftiau o ymarferwyr Grŵp C yn cynnwys
16:36
gweithwyr a rheolwyr cartrefi gofal plant neu oedolion, rheolwyr meithrinfeydd, gwarchodwyr plant, ymwelwyr iechyd,
16:44
staff clinigol a meddygol, prifathrawon, swyddogion yr heddlu mewn lifrai, gweithwyr prawf, gweithwyr cymdeithasol
16:52
a/neu ymddiriedolwr enwebedig. Mae ymarferwyr Grŵp C yn cynnwys person diogelu dynodedig sefydliad hefyd
16:59
a phobl sy'n cymryd rôl amlycach wrth wneud penderfyniadau diogelu, gan gynnwys
17:06
y rhai sydd â rôl weithredol mewn grwpiau craidd a gweithgareddau cynllunio amddiffyn. Mae yna safonau generig
17:12
y mae'n rhaid i'r hyfforddiant, dysgu a datblygu ar gyfer ymarferydd Grŵp C ymdrin â nhw, ynghyd â safonau ychwanegol
17:19
sy'n benodol i ymarferwyr sy'n ymwneud â naill ai plant neu oedolion sydd mewn perygl.
17:25
Bydd yr hyfforddiant, dysgu a datblygu sy'n ymdrin â’r safonau penodol hyn yn adlewyrchu
17:30
rôl a chyfrifoldebau penodol y grwpiau hynny o ymarferwyr. Bydd angen i ymarferwyr yng ngrŵp C
17:36
wybod popeth yn grwpiau A a B yn ogystal â Grŵp C. Ymarferwyr grŵp D yw'r rhai
17:44
sy'n gweithredu ar lefel uwch yn y broses diogelu. Maen nhw'n rhoi cyngor, cyfarwyddyd a goruchwyliaeth
17:51
os yw'n berthnasol i ymarferwyr grŵp C o fewn a thu allan i'w tîm a'u sefydliad.
17:59
Gallant wneud penderfyniadau lefel uwch fel a ddylid gwneud cais am orchmynion llys. Yn aml, mae ganddyn nhw
18:05
Rolau diogelu arbenigol naill ai yn ogystal â phrif rôl neu fel ymarferydd diogelu arbenigol.
18:13
Dyma enghreifftiau o ymarferwyr Grŵp D: gweithwyr iechyd proffesiynol a enwir, arweinydd diogelu
18:19
addysg ar gyfer awdurdodau lleol, ditectif arolygwyr, uwch swyddogion prawf, rheolwyr tîm gwasanaethau cymdeithasol,
18:25
cydweithwyr gwirfoddol a thrydydd sector gyda gwybodaeth arbenigol. Mae'r cynnwys ar gyfer y
18:32
grŵp hwn yn canolbwyntio ar naw maes generig, ynghyd â'r meysydd penodol i blant ac oedolion.
18:39
Ond mae'r meysydd generig yn cynnwys, er enghraifft, cymryd rhan ffurfiol weithredol yn y prosesau diogelu,
18:46
cefnogi eraill i ddiogelu pobl, er mwyn diogelu pobl i'r rhai sydd â chyfrifoldeb goruchwyliwr,
18:53
byddan nhw'n gweithio gydag eraill i ddiogelu pobl a byddan nhw'n cynnal atebolrwydd proffesiynol yn gyson.
18:59
Bydd angen i ymarferwyr yng ngrŵp D wybod popeth yng ngrŵp A, B ac C yn ogystal â Grŵp D.
19:07
Y rolau yng Ngrŵp D yw'r rhai sydd â'r penderfyniad terfynol ynghylch penderfyniadau diogelu
19:13
yn ystod y broses ddiogelu. Gallant gynghori ar sefyllfaoedd cymhleth lefel uchel a gwneud
19:20
penderfyniad ynghylch unrhyw benderfyniadau diogelu sydd angen eu gwneud. Y bobl sy'n gweithredu ar y lefel hon
19:26
Fyddai’n cynghori asiantaethau eraill yn eu maes arbenigedd hefyd a byddant yn gallu arwain gwaith
19:32
diogelu ar lefel Rhanbarth, Cymru a'r DU yn Genedlaethol. Byddant yn ymwneud yn gyson â grwpiau rhanbarthol
19:38
neu genedlaethol sy'n edrych ar faterion diogelu, gan gynnwys mentrau cenedlaethol ac adolygiadau cymhleth.
19:45
Mae'r safonau ar gyfer y grŵp hwn wedi'u nodi fel cymwyseddau craidd ar gyfer arweinwyr sector a'r rhai hynny
19:50
mewn rolau arbenigol, ynghyd â'r wybodaeth a'r setiau sgiliau gofynnol. Enghreifftiau o ymarferwyr grŵp E
19:57
yw arweinwyr diogelu byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, pedwar arweinydd diogelu'r heddlu,
20:03
penaethiaid unedau darparu prawf, gwasanaethau cymdeithasol, penaethiaid gwasanaethau oedolion a phlant ac
20:10
ymddiriedolwyr enwebedig ar gyfer diogelu mewn sefydliadau trydydd sector. Eto yng ngrŵp E
20:16
bydd angen iddyn nhw wybod popeth yn grwpiau A, B, C a D, yn ogystal â'u grŵp eu hunain.
20:23
Ymarferwyr Grŵp F yw'r bobl uchaf mewn sefydliad. Bydd un person mewn unrhyw sefydliad
20:30
sector cyhoeddus yn atebol am ddiogelu yn y pen draw. Dylai pob ymarferydd grŵp F
20:36
gael mynediad at gyngor diogelu ac arbenigedd gan berson proffesiynol dynodedig neu enwebedig.
20:43
Mae'r safonau'n nodi cymwyseddau craidd ar gyfer arweinwyr ac arbenigwyr y sector yng ngrŵp F, sy'n cynnwys
20:49
hybu diwylliant diogelu cadarnhaol a sicrhau bod prosesau ac arferion yn effeithiol a
20:55
bod adnoddau ar eu cyfer. Dyma enghreifftiau o ymarferwyr Grŵp F - swyddogion gweithredol ac aelodau byrddau ac
21:03
ymddiriedolaethau iechyd y GIG, cyfarwyddwyr addysg, prif gwnstabliaid neu brif gwnstabliaid cynorthwyol, cyfarwyddwyr
21:10
prawf rhanbarthol, aelodau etholedig gwasanaethau cymdeithasol a gweinidogion Llywodraeth Cymru. Ar gyfer grŵp F bydd angen iddyn nhw
21:18
wybod popeth yng ngrŵp A yn ogystal â grŵp F. Nawr dyna grynodeb byr o'r
21:26
safonau, ac mae'r hierarchaeth yn amlwg yn eich tywys chi i ystyried y grwpiau hynny a phwy fyddai ynddyn nhw.
21:33
Felly er mwyn cloi'r cyflwyniad wna i eich trosglwyddo'n ôl at Cheryl nawr, diolch.
21:42
Diolch Alys. Mae'r sleid hon yn ddarlun o fersiwn ddwyieithog yr hierarchaeth.
21:51
Wna i gloi gyda rhai camau nesaf. O heddiw ymlaen, fel mae nifer o bobl wedi sôn,
21:57
mae'r safonau'n cael eu lansio i'w defnyddio ac maent ar gael ar ein gwefan, Gofal Cymdeithasol Cymru.
22:04
Bydd pob bwrdd diogelu rhanbarthol yn ystyried sut i ymwreiddio'r safonau o yn ei waith.
22:10
Bydd gennym flwch e-bost penodol ar gyfer unrhyw ymholiadau sy'n deillio o'u gweithredu. Fe'ch gwahoddir i
22:17
anfon eich sylwadau i'r mewnflwch hwn. Bydd y Grŵp Datblygu’n newid i fod yn grŵp adolygu safonau cenedlaethol nawr
22:24
a byddwn ni'n ystyried ymholiadau bob chwarter a gweithredu unrhyw newidiadau brys.
22:31
Byddai'r adolygiad cyntaf o'r ymholiadau ym mis Ebrill 2023, gan ganiatáu amser gweithredu cychwynnol.
22:38
Yn ogystal bydd adolygiad blynyddol o'r safonau y flwyddyn nesaf.
22:44
Er mwyn cefnogi'r gwaith o weithredu'r safonau diogelu cenedlaethol
22:49
rydym wedi dechrau cyd-gynhyrchu fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol.
22:56
Mae prif amcanion y fframwaith yn cynnwys sicrhau dull cenedlaethol cyson o hyfforddi, dysgu
23:01
a datblygu a chefnogi gweithredu’r safonau a chymwyseddau Hyfforddiant,
23:08
Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol. Bydd y fframwaith yn cael ei rannu ym mis Ionawr 2023.
23:15
I gefnogi'r gweithredu, byddwn yn casglu unrhyw ymholiadau a chynhyrchu ymatebion mewn cwestiynau cyffredin.
23:22
Bydd y set gyntaf yn cael ei rhannu ddiwedd yr wythnos hon ac fe gaiff ei chynhyrchu'n unol ag
23:29
adolygiadau chwarterol y grŵp adolygu diogelu. Yna cânt eu rhannu ar wefan Diogelu Cymru.
23:39
Rydym wedi cynhyrchu fersiwn hawdd ei ddarllen o'r safonau, a chomisiynwyd y gwaith hwn
23:45
i Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan. Bu cynrychiolwyr o Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn adolygu'r safonau
23:51
wrth iddyn nhw gael eu datblygu gan ddarparu adborth i ni ar gynnwys a naws y safonau. Bydd y ddogfen hon ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
24:02
Mae gennym ddogfen hawliau hefyd a gynhyrchwyd ar ein gwefan ac mae honno'n fyw heddiw.
24:09
Trwy gydol datblygiad y Safonau dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol buom yn ymgysylltu â chynrychiolwyr unigolion sydd â phrofiad byw o faterion diogelu.
24:18
Rydym wedi cyd-lunio dogfen sy’n amlinellu hawliau unigolion, eu gofalwyr di-dâl a'u teuluoedd pan fyddan nhw'n mynd drwy unrhyw broses ddiogelu.
24:29
Mae'r ddogfen wedi'i chynllunio gan Anabledd Dysgu Cymru.
24:36
Diolch, bydda i’n trosglwyddo'n ôl i Jane nawr.
24:41
Diolch i'r ddau ohonoch am y trosolwg y bore 'ma. Dwi'n meddwl ei fod yn ddarlun eithaf
24:46
cynhwysfawr o'r modd y mae'r safonau wedi’u datblygu, sut olwg sydd arnyn nhw
24:52
a beth fydd y camau nesaf. Ar gyfer rhan nesaf y sesiwn bore 'ma mae gennym ni banel,
24:58
pob un ohonynt yn aelodau o grŵp datblygu'r safonau ac maen nhw'n mynd i ateb
25:03
rhai o'r cwestiynau cyffredin fel ffordd o roi mwy o syniad am y safonau eu hunain.
25:11
Ein haelod cyntaf o'r panel yw Joanne Llewelyn, hi yw rheolwr gwasanaeth, Gwasanaethau Plant
25:19
yng Nghyngor Dinas Casnewydd. Joanne, y cwestiwn i chi'r bore 'ma yw,
25:26
pam ei bod hi'n bwysig cael dull safonol ar gyfer dysgu a datblygu diogelu?
25:33
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cael y dull safonol hwnnw o hyfforddi, dysgu a datblygu. Rwy'n credu bod dyletswydd ar ymarferwyr neu wirfoddolwyr i adrodd am bryderon diogelu
25:42
ac felly mae angen i ni sicrhau bod ymarferwyr a gwirfoddolwyr wedi'u hyfforddi'n briodol a'u bod yn deall diogelu. Mae'n fodd i sicrhau bod y gweithlu'n hyderus a bod ganddyn nhw gefnogaeth
25:52
drwy'r prosesau y mae angen iddynt weithio oddi mewn iddynt. Nid yw safonau cyffredin yn newydd, maent yn bodoli
25:57
mewn meysydd eraill ar draws y sector gofal cymdeithasol, ond cyn i ni ddatblygu'r safonau yma doedd yna ddim dull safonol o ymdrin â hyfforddiant, dysgu a datblygu ar ddiogelu. Roedden ni ar ei hôl hi.
26:06
Golygai hyn fod gan bobl wahanol ddealltwriaeth a disgwyliadau ynghylch pwy yw'r gynulleidfa a'r cynnwys sydd ei angen ar gyfer pob mathau o hyfforddiant, dysgu a datblygu.
26:15
Rwy'n credu bod hynny wedi achosi dryswch ac ansicrwydd a oedd ymarferwyr wrth ymarfer wedi cyrraedd y lefel briodol o ddysgu a datblygu. O ganlyniad, fel y dywedodd Lance yn gynharach
26:24
cytunwyd bod angen datblygu set gyson o safonau amlasiantaethol cenedlaethol Yng Nghymru. Bydd yn darparu sicrwydd i'r holl asiantaethau, bod eu hymarferwyr
26:34
a'u gwirfoddolwyr wedi'u datblygu ar yr un lefel. Dyna pryd maen nhw'n trosglwyddo rhwng asiantaethau neu ranbarthau yng Nghymru. Mae'n darparu fframwaith a safonau cyfunol sy'n berthnasol i bob asiantaeth
26:44
boed nhw'n rhai iechyd, heddlu, awdurdod lleol, trydydd sector neu wirfoddol. Bydd yn gwella’r
26:50
dysgu a datblygu amlasiantaethol gan ddarparu iaith gyffredin ac annog pob asiantaeth ac ymarferydd i gydweithio. Bydd y safonau hyn yn cynorthwyo sefydliadau a chomisiynwyr i lywio’r
27:00
dirwedd honno hefyd a sicrhau cydymffurfiaeth gyda gweithdrefnau diogelu Cymru. Felly dyna fy marn i am rai o'r rhesymau pam mae'n bwysig cael hyfforddiant safonol.
27:11
Diolch Joanne, dwi'n meddwl bod iaith gyffredin a throsglwyddadwyedd yn allweddol
27:17
ar gyfer y safonau cenedlaethol dysgu a datblygu, yn tydyn nhw?
27:22
Mae'r ail gwestiwn i Lynsley Haynes-Foster. Mae hi'n weithiwr cymdeithasol gyda
27:29
Chyngor Bwrdeistref Sirol Abertawe. Lynsley, allwch chi ddweud wrthym sut rydych chi'n meddwl y gall y safonau gael eu defnyddio yn unrhyw un o'r sefydliadau? Helo Jane a chroeso bawb, diolch yn fawr.
27:41
Mae'r safonau yma'n bwysig iawn i allu cynllunio a llywio cyfleoedd dysgu a datblygu.
27:48
Hefyd i gefnogi dysgu amlddisgyblaeth sy'n eithaf anodd ar adegau. Ry'n ni 'gyd yn hyfforddi yn ein
27:56
sefydliadau ein hunain. Anaml ry'n ni'n cael cyfle i ddod at ein gilydd. Trwy ddefnyddio'r safonau hyn
28:02
mae'n golygu bydd yr hyfforddiant yr un fath fwy neu lai ym mhobman.
28:09
Mewn sefydliadau addysg fel prifysgolion a cholegau ac ysgolion, gall pawb ddefnyddio'r
28:17
safonau hyn i roi strwythur clir i ddysgu a datblygu diogelu.
28:24
Gall pob sefydliad megis gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector annibynnol eu defnyddio hefyd
28:31
i gynhyrchu adroddiadau am yr ymarfer diogelu a'r perfformiad yn eu lleoliad. Diolch.
28:41
Mae'n mynd i fod yn help mawr y bydd modd i unrhyw sefydliad weld lle maen nhw'n ffitio yn hierarchaeth y safonau a chynllunio eu hyfforddiant yn unol â hynny.
28:53
Mae'r trydydd cwestiwn i’r panel i Jayne Butler. Mae Jayne yn uwch-arolygydd gyda
29:01
Heddlu Dyfed-Powys. Bore da, Jayne, y cwestiwn i chi yw beth yw pwrpas y safonau
29:08
a beth wnawn ni â nhw? Bore da, Jane a bore da, bawb.
29:14
Pwrpas y safonau yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn derbyn hyfforddiant cyson o ansawdd da iawn ar ddysgu a datblygu diogelu. Oherwydd mae'r dysgu a'r datblygu hwn yn berthnasol i'w rôl
29:25
a'u cyfrifoldebau, byddant yn gallu diogelu pobl hyd eithaf eu gallu.
29:31
Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i'r byrddau diogelu rhanbarthol. Bydd y safonau'n helpu sefydliadau i sicrhau bod diogelwch a lles plant ac oedolion
29:41
yn ganolbwynt i'w gwaith. Gall ymarferwyr weithio mewn ffyrdd sy'n grymuso ac yn galluogi pobl.
29:47
Bydd yn helpu sefydliadau i ymgorffori safonau i'w polisïau a'u gweithdrefnau diogelu ac i sicrhau bod ymarferwyr yn gwybod ym mha grŵp maen nhw ac yn deall eu cyfrifoldebau
29:57
a sut i ddilyn y polisïau a’r gweithdrefnau sy'n berthnasol iddyn nhw.
30:03
Bydd yn sicrhau bod gan bob ymarferydd fynediad at weithdrefnau diogelu Cymru ac yn cydymffurfio â nhw
30:08
a bod ffocws i’w dadansoddiad o anghenion hyfforddi, a bydd cyfleoedd dysgu a datblygu yn rhoi i ymarferwyr
30:14
sgiliau sydd eu hangen arnynt i gynyddu'r tebygolrwydd y byddant yn nodi materion diogelu ac adrodd arnynt yn gynnar.
30:20
Bydd ymarferwyr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i fod yn fedrus ac yn hyderus ac mae prosesau yn eu lle i ofalu am eu lles. Yn olaf bydd yn helpu i adeiladu cymuned fwy diogel
30:32
i bawb gyda'r holl asiantaethau yn gweithio gyda'i gilydd. Diolch Jane, gobeithio bod hynny'n ateb y cwestiwn.
30:40
Diolch yn fawr. Rwy'n credu bod rhoi diogelwch plant ac oedolion yng nghanol y gwaith rydyn ni'n ei wneud yn allweddol
30:47
ac mae helpu pobl i gyflawni'r Gweithdrefnau Cymru Gyfan yn rhan o'r hyn mae'r fframwaith hwn
30:53
yno i'w sicrhau mewn ffordd gyson. Rydw i am ofyn fy nghwestiwn nesaf bore 'ma i Daniel Williams.
31:03
Daniel yw pennaeth presenoldeb y gwasanaeth llesiant yn Rhondda Cynon Taf.
31:09
Croeso Daniel. Y cwestiwn i chi yw beth ydych chi'n feddwl yw manteision y safonau hyn?
31:15
Diolch Jane. Am y tro cyntaf fe fydd safonau amlasiantaethol cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu ar waith yng Nghymru. Bydd y safonau'n sicrhau cysondeb
31:25
yng nghynnwys, cynllun a darpariaeth hyfforddiant diogelu ar draws ein sefydliadau yng Nghymru. Mae hefyd yn helpu i gefnogi a darparu eglurder a disgwyliadau o gwmpas y cynnwys priodol ar gyfer
31:35
hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu ac i'n gweithlu i gyd. Cyn hyn roedd rhywfaint o ddryswch o gwmpas y lefelau priodol o hyfforddiant,
31:44
dysgu a datblygu diogelu ymhlith gwahanol elfennau o'r gweithlu. O wrando, dwi'n gweithio gyda chydweithwyr ar draws sawl sector, ac yn ystod y trafodaethau ynghylch y safonau
31:53
roedd hyn yn fater cyffredin a wynebai pawb. Mae'r safonau’n helpu i gefnogi a mynd i'r afael â'r mater hwn yn awr trwy ddarparu dealltwriaeth a rennir a fframwaith ar draws asiantaethau o ba staff sy'n perthyn ble
32:02
yn yr hierarchaeth a nodwyd. Mae gan y grwpiau a nodwyd baramedrau wedi'u diffinio'n glir i gefnogi sefydliadau
32:08
ac adnabod lle mae'r rolau yn eu sefydliad yn perthyn ac felly pa lefel o ddealltwriaeth ddylai fod gan yr ymarferwyr hynny ym maes diogelu. Mae'r safonau’n cynorthwyo sefydliadau hefyd
32:17
i sicrhau bod gan ymarferwyr fynediad at weithdrefnau diogelu Cymru, a’u bod yn cydymffurfio â nhw. Mae yna ddisgwyliad i'r hyfforddiant, dysgu a datblygu hwn fod yn amlasiantaethol pan fo hynny'n bosib
32:27
ac y bydd hyn yn datblygu ymwybyddiaeth i bob ymarferydd yn ei waith ymyrraeth ac atal treigl newydd ac yn y broses ddiogelu ehangach. Yn fy marn i, mae gan y safonau hyn
32:36
nifer o fanteision ar unwaith a rhai yn y tymor hir. Diolch Jane.
32:42
Diolch Daniel a dwi'n meddwl eich bod chi'n gwybod ein bod ni'n clywed yn gyson y byddan nhw'n cael gwared ar ddryswch, y bydd pobl yn glir ynghylch ble maen nhw'n perthyn yn yr hierarchaeth
32:52
ac y byddan nhw'n galluogi cymhwyso'r gweithdrefnau'n gyson ar draws y genedl
32:58
a bydd y cyfan o fudd wrth gadw plant ac oedolion yn ddiogel.
33:05
Fe wnaethoch chi sôn yn gryno am yr heriau a dyna, mewn gwirionedd, yw'n cwestiwn nesaf
33:10
a hynny i Dr Nigel Farr, un o'n meddygon teulu ni ac mae hefyd yn aelod o Rwydwaith Diogelu GIG Cymru.
33:18
Nigel, allwch chi ddweud ychydig wrthym am beth fu'n heriau wrth ddatblygu'r safonau
33:24
a sut mae'r rhain wedi cael eu goresgyn? Iawn. O'r cychwyn cyntaf roedd hi'n hanfodol cael cynrychiolaeth
33:32
mor eang â phosib ar y grŵp datblygu, gan fod angen i'r safonau hyn fod yn berthnasol
33:37
i gymaint â phosib o'r niferoedd enfawr o bobl sy'n cyfrannu at ddiogelu. Roedd yn bwysig bod partneriaid yn deall rôl y sector gwirfoddol yn y broses ddiogelu,
33:46
yn ogystal â'r asiantaethau statudol. Mae gan y prif asiantaethau gwasanaethau cyhoeddus
33:51
y gofynion hyfforddiant unigol gan y cyrff rheoleiddio eisoes. Mae'n hanfodol bod rhain yn cael eu cydnabod ac yn cael eu cynnwys yn y safonau, ond
34:01
mae angen iddyn nhw fod yn gynhwysol ac yn briodol hefyd i'r holl sefydliadau fydd yn eu defnyddio.
34:07
Un her gynnar oedd y ffaith fod gan bob un o'r asiantaethau a'r sefydliadau
34:12
bwyntiau cychwyn gwahanol iawn i'r ymgymeriad hwn. Roedd yn gwbl hanfodol felly bod gan bob un
34:18
rôl gyfartal yn y broses. Trwy gydol y gwaith roedd yn allweddol bod asiantaethau a sefydliadau'n gallu
34:23
deall a pharchu anghenion a safbwyntiau ei gilydd, dangos empathi a gweithio mewn partneriaeth.
34:29
Elfen hanfodol ar gyfer hyn, rwy'n credu, oedd y ffordd roedd y grŵp yn gweithio, gyda chyfarfodydd rheolaidd
34:35
wedi'u strwythuro i greu'r cyfle i gael trafodaethau mewn grwpiau bach ac fel grŵp cyfan. Roedd cyfle ychwanegol i wneud sylw ar ddrafftiau a diwygiadau rhwng y cyfarfodydd.
34:45
Roedd hyn yn annog a hwyluso dealltwriaeth a chydweithio, ac roeddem yn teimlo bod aelodau'r grŵp datblygu yn gallu gweld pethau o safbwyntiau ei gilydd
34:53
a bod pawb yn cael y cyfle i gyfrannu a chael eu clywed.
34:59
Roedd y defnydd o iaith yn her arall, o ystyried ehangder y rhai a allai gymryd rhan yn yr hyfforddiant. Un enghraifft fel y soniwyd eisoes oedd trafodaethau'n canolbwyntio ar ddefnyddio lefelau
35:09
yn hytrach na grwpiau ar gyfer y safonau. Ym maes iechyd roedd lefelau’n gyfarwydd eisoes gan eu bod yn cael eu
35:16
defnyddio yn y dogfennau sydd wedi hen ennill eu plwyf sy'n llywio ein gofynion hyfforddiant diogelu.
35:21
Fodd bynnag, credai sefydliadau eraill y byddai'r term Grwpiau’n fwy atyniadol i'r gynulleidfa ehangach y mae’r safonau wedi'u bwriadu ar ei chyfer, ac felly mabwysiadwyd grwpiau. Yn y diwedd, dwi'n meddwl ein bod ni'n teimlo bod
35:31
y broses ddatblygu hon wedi caniatáu i ni greu safonau y mae pawb yn y grŵp datblygu yn teimlo eu bod yn perthyn iddyn nhw, a'u bod yn berthnasol i'w asiantaeth neu'u sefydliad nhw.
35:41
Dwi'n meddwl bod hynny'n gryn gamp gan y grŵp hwn. Diolch.
35:48
Diolch Nigel, dwi'n meddwl ei bod hi'n allweddol pan fydd asiantaethau'n dechrau o wahanol bwyntiau,
35:56
ei bod hi'n anodd mynd â phawb i'r un pwynt yn y daith. Felly, dwi'n meddwl bod hynny wedi bod yn
36:01
gyflawniad i'r grŵp. Ac iaith; mae defnyddio iaith gyffredin yn fater sydd wedi codi ym mhob
36:07
agwedd ar ddiogelu, felly mae'n bwysig iawn bod y defnydd o iaith yn gyson ar draws
36:13
pob sefydliad a gwasanaeth ac unwaith eto mae hynny'n fantais fawr i'r safonau sydd gennym ni heddiw.
36:21
Mae'r cwestiwn olaf y bore 'ma i Suzanne Mollison, o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
36:28
Croeso Suzanne. Allwch chi ddweud ychydig bach wrthym am beth yw'r heriau o roi'r safonau ar waith wrth ymarfer bob dydd. Diolch Jane, ac mae'n debyg mai dyma fydd
36:39
y cwestiwn mawr y bydd pobl yn meddwl amdano'r bore 'ma o bosib.
36:45
Rwy'n siŵr y byddan nhw'n holi pwy fydd yn datblygu'r cynnwys hyfforddiant ar gyfer ein dysgu
36:53
a’n datblygu. Rydym am gynnal y teimlad amlasiantaeth amlsector
37:00
ar gyfer deunydd a ddefnyddir yn y dyfodol. Dwi'n siŵr wedyn y bydd y cwestiwn arall
37:07
yn cysylltu â hynny hefyd, sef pwy fydd yn darparu a chyflwyno'r hyfforddiant.
37:14
Rwy'n siŵr bod y rhai ohonom sy'n ymwneud â darparu hyfforddiant diogelu
37:19
yn cydnabod bod galw enfawr, sy'n bositif iawn ond yn aml gall fod tipyn o anhawster
37:26
i'r bobl sydd ar gael i ateb y galw hwnnw fod ar gael i ddarparu hyfforddiant ar unrhyw adeg.
37:34
Rydym yn cydnabod oherwydd y ffactorau hynny bydd elfen o ariannu er mwyn bodloni'r
37:40
safonau hyfforddi a fydd yn heriol hefyd. Mae'n gyfnod anodd
37:46
i bob un ohonom dalu'n costau amrywiol ar hyn o bryd, ac os ydym yn rhyddhau staff a gwirfoddolwyr
37:53
i fynychu hyfforddiant, gan ôl-lenwi rolau o bosib ar yr un pryd, yna bydd pobl yn siŵr o weld hynny'n
38:00
her y bydd yn rhaid iddyn nhw ei hystyried. Gwyddom fod hyfforddiant, dysgu a datblygu
38:06
yn gofyn am fuddsoddiad fel y gallwn ryddhau staff fel y gallwn roi'r amser
38:14
i ddarparu hyfforddiant a chaniatáu i bobl fynychu hyfforddiant. Mae fy nghydweithwyr ar y
38:21
panel wedi codi'r pwynt perthnasol iawn hwnnw, y dylai'r cyfleoedd dysgu hyn, mor aml â phosib,
38:29
fod yn aml-sector. Mae'n cymryd amser ychwanegol i ddod â phobl at ei gilydd
38:36
ar draws y sectorau ac ar draws yr asiantaethau i ddysgu gyda'i gilydd, nid dim ond am ddiogelu ond
38:43
ynglŷn â sut rydyn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd ar draws y maes i wneud diogelu mor effeithiol â phosib.
38:52
Hefyd, yn ychwanegol, rydym yn gosod gofynion eithaf uchel i bobl yng nghyswllt
38:58
eu dysgu, o ran eu datblygiad personol, ac mae'n cymryd amser hefyd i allu myfyrio ynghylch
39:04
beth mae pobl wedi’i ddysgu trwy hyfforddiant a chyflawni unrhyw un o'r tasgau dilynol sydd mewn gwirionedd
39:10
yn golygu y bydd hyfforddiant yn cael ei wreiddio yn eu hymarfer y tu hwnt i gyfle dysgu penodol.
39:18
Gwyddom hefyd, fod yr amserlenni eu hunain yn heriol, oherwydd yr hyn rydyn ni eisiau ei wneud
39:24
Mewn gwirionedd yw sicrhau bod pob sector, pob asiantaeth a phob ymarferydd a gwirfoddolwr
39:31
yn cyrraedd yr un cerrig milltir ar adeg debyg iawn i'w gilydd. Fel ein bod ni gyd yn dod at ein gilydd
39:38
i gyrraedd yr un safonau hynny yn hytrach na gadael neb ar ôl. Ac wrth gwrs
39:44
byddaf yn awyddus iawn i sicrhau bod neb yn y trydydd sector a'r sectorau gwirfoddol
39:49
yn cael eu gadael ar ôl. Byddaf yn gwthio'n galed ar y pwynt hwnnw, Jane, rwy'n addo hynny.
39:56
Rydym wedi gweithio'n hynod o galed hefyd wrth roi'r safonau a'r fframwaith at ei gilydd
40:03
er mwyn helpu i wneud i hyn deimlo'n berthnasol i bob rôl, fel bod yr iaith yn teimlo'n addas i bawb,
40:09
bod pobl yn gallu gweld bod eu rôl a'u sefyllfa o ran diogelu
40:18
wedi'i gynnwys yn y safonau. Oherwydd, rydym am iddo deimlo ei bod hi'n haws i bob un
40:24
groesawu'r safonau a'r fframwaith hyfforddi diogelu.
40:32
Mae'r gwaith yno i'w helpu ond mae croesawu hwnnw yn beth mawr i’w ofyn
40:37
ac yn gais enfawr gan bawb a gobeithio y byddan nhw'n ymuno â ni i wneud i hynny weithio.
40:45
Un pwynt i gloi, Jane, os caf i; rydym yn cydnabod bod ofn ynghylch diogelu weithiau,
40:51
ynghylch ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw ac efallai y bydd mwy o ymwybyddiaeth gan bobl nawr
40:58
o ddarllen y safonau a’r gofynion hyfforddiant, bod hyn, mewn gwirionedd, yn ddisgwyliad
41:04
a roddir ar bobl mewn ffordd doedden nhw ddim yn ei adnabod o'r blaen o bosib. Ond rydym yma i helpu
41:10
i gefnogi pobl i leddfu’r pryderon hynny a gobeithio y bydd y dysgu a rennir, y bydd datblygu a rennir
41:17
yn golygu na fydd yr ofn hwnnw mor real i gymaint o bobl bellach ag y gallai fod wedi bod, o bosib,
41:23
yn enwedig pan maen nhw'n darllen y wybodaeth honno ac yn sylweddoli ein bod ni i gyd yno gyda'n gilydd.
41:30
Mae'n gyfrifoldeb a rennir ac rydyn ni'n gweithio'n well gyda'n gilydd. Diolch Jane, gobeithio bod hynny'n ateb y cwestiwn.
41:37
Diolch, yn wir mae'n gwneud hynny. Rwyf am ddiolch i bawb ar y panel y bore 'ma am roi o'u hamser a
41:45
Phwyso a mesur ac ateb y cwestiynau a gawsoch. Rwy'n teimlo bod yna thema gyson
41:50
sydd wedi dod i’r amlwg gydol y bore sef yr angen am iaith gyffredin,
41:56
safonau cyffredin, fframwaith cenedlaethol y mae pawb yn ei ddeall a'u bod yn gallu gweld
42:03
lle maen nhw'n perthyn yn yr hierarchaeth anghenion hyfforddi er mwyn rhoi sicrwydd a hyder,
42:10
am fod yr hyfforddiant y maen nhw'n ei dderbyn wir yn diwallu anghenion y rôl sydd ganddyn nhw.
42:15
I mi, gyda'r fframwaith hwn, y safonau ar gyfer dysgu a datblygu a hyfforddi yn eu lle,
42:23
y bydd modd bellach i sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector sicrhau'r dull cyson hwn
42:29
o gadw dinasyddion agored i niwed yn ddiogel yng Nghymru, sef hanfod y digwyddiad hwn
42:35
a’r rheswm rydym ni yma yn y lle cyntaf. Felly mae ymgynnull yma i lansio'r safonau cenedlaethol y bore ‘ma wedi bod
42:42
yn fenter wych. Rydym wedi clywed am yr ofn a all fod gan bobl yn ymwneud â diogelu
42:49
ac a yw’n rhywbeth y mae angen iddyn nhw wneud mewn gwirionedd. Mae'r rhai ohonom sydd wedi gweithio ym maes diogelu ers blynyddoedd lawer, yn gwybod pan fyddwn yn siarad â gweithwyr proffesiynol neu ymarferwyr
42:59
yn ein sefydliadau, eu bod yn ochelgar ac nad ydyn nhw am ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw.
43:06
Mae diogelu’n gyfrifoldeb i bawb; mae deall ein cyd-ddyletswydd yn hanfodol wrth ddiogelu
43:15
ein plant a'n hoedolion yng Nghymru. Mae'n golygu bod yn rhaid i sefydliadau o bob maint ac ym mhob sector
43:23
gefnogi eu staff a'u gwirfoddolwyr drwy ddysgu a datblygu effeithiol.
43:30
Roedd lansio Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn 2019 yn gosod safon gyson i ni ar gyfer
43:37
arfer diogelu yng Nghymru. Bydd lansio'r Safonau dysgu a datblygu cenedlaethol yn sicrhau bellach y bydd pawb yng Nghymru yn derbyn hyfforddiant cyson o ansawdd da
43:48
sy'n berthnasol i'w rôl a'u cyfrifoldebau, ac yn anad dim
43:54
ein bod ni fel ymarferwyr yn gallu diogelu pobl hyd eithaf ein gallu. Diolch.