Dyw hi ddim yn rhywun sy’n siarad llawer, felly mae angen i chi nabod hi i wybod beth fydd hi’n ei hoffi a gwybod beth fydd hi’n ei wneud.
Rydw i wedi meithrin perthynas felly gyda hi dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, a dwi’n teimlo fy mod i’n ei nabod hi rwan.
Rydw i’n gwybod ac yn gallu rhagweld sut bydd hi a beth fydd hi’n ei wneud ac rwy’n gallu achub y blaen mewn sefyllfaoedd.
Yn bersonol, rwy’n credu mai’r peth mwyaf gwerth chweil yw gwneud gwahaniaeth a’i gweld hi’n mynd allan ac yn gwneud ffrindiau.
Mae ei gweld hi’n dangos esiampl i’r plant eraill yn wych. Mae’n beth da iawn.
Gallu ei gweld hi’n tyfu a’r newid ynddi ers pan ddaeth hi ddwy flynedd a hanner yn ôl i rwan ac mae cael ei gweld hi’n newid ac yn tyfu i fyny yn hyfryd.