Roedd honna’n arbediad da!
Does yna ddim digon o ofalwyr, a dyw gofalwyr ddim yn cael eu gwerthfawrogi hanner digon.
Mae cenedlaethau’n heneiddio mwy a mwy, ac mae angen mwy o bobl sydd â natur ofalgar.
Pan gwrddais ag ef gyntaf roedd e’n ddistaw iawn ac wedi mynd i’w gragen, ond erbyn i ni orffen roedd e’n berson cwbl wahanol.
Mae gennym ni gwlwm teuluol da hefyd, rydyn ni wedi dod yn ffrindiau.
Roedden nhw’n arfer gwneud bwyd i ni ac roedd hi’n ymddwyn fel ein mam ni oll.
Rydw i wastad yn chwerthin ac yn canu er nad wy’n gallu canu - ond rydym ni’n rhoi cynnig arni.
Rydw i’n caru fy ngwaith, rydw i’n hoffi cyfarfod pobl ac os galla i roi gwên ar eu hwynebau, dyna ddiwrnod da o waith.