Yma yn Cartref, rydym ni’n gwahodd y plant o ysgol Romilly i ddod draw, a gwneud gweithgareddau gyda’r plant a siarad gyda nhw.
Rydym ni’n peintio, chwarae bingo, gwneud celf a chrefft ac mae’r plant wrth eu boddau, ac maen nhw’n dwlu ar y preswylwyr.
Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn am fod y plant am ddod yn ôl, fel gwirfoddolwyr.
Dyw llawer o ofalwyr ddim yn cael y clod maen nhw’n ei haeddu, ond mae’n waith caled iawn ar adegau, ac weithiau mae’n talu ar ei ganfed os ydych chi’n gwneud i un o’r preswylwyr chwerthin, mae’n gwneud eich diwrnod. Mae’n lle braf iawn i weithio i fod yn onest, os yw’n gwneud rhywun yn hapus, ma' hynny’n beth braf iawn.