00:00:01,000 --> 00:00:05,160
Helo, a chroeso i'r cyflwyniad yma
ar Ganllaw lleoliad gwaith.
2
00:00:06,000 --> 00:00:10,040
Gethin White ydw i a dwi'n mynd i
fynd drwy'r manylion yma gyda chi.
3
00:00:12,800 --> 00:00:16,600
Mae gwasanaethau iechyd, gofal
cymdeithasol, chwarae...
4
00:00:16,640 --> 00:00:20,800
..blynyddoedd cynnar a gofal plant
yn ymwneud â gwneud gwahaniaeth...
5
00:00:20,840 --> 00:00:23,000
..cadarnhaol i fywydau eraill...
6
00:00:23,400 --> 00:00:26,240
..a gydag amrywiaeth enfawr
o rolau ar gael...
7
00:00:26,280 --> 00:00:30,120
..mae hynny'n golygu ei bod
yn yrfa werth chweil.
8
00:00:31,600 --> 00:00:35,560
Mae profiad o waith yn y
gwasanaethau hyn yn hanfodol...
9
00:00:35,600 --> 00:00:39,600
..i bontio'r bwlch rhwng addysg
neu hyfforddiant a byd gwaith.
10
00:00:40,400 --> 00:00:43,960
Ar ei orau, gall agor llygaid pobl
i swyddi...
11
00:00:44,000 --> 00:00:46,640
..nad oeddent erioed wedi meddwl
amdanynt...
12
00:00:46,680 --> 00:00:51,120
..llywio penderfyniadau gyrfa
a darparu profiad gwerthfawr...
13
00:00:51,160 --> 00:00:55,600
..ar gyfer ceisiadau am swydd
a mynediad at addysg uwch.
14
00:00:57,200 --> 00:01:00,480
Fel cyflogwr, mae'n bosib
eich bod chi'n pendroni...
15
00:01:00,520 --> 00:01:03,680
..pam ein bod yn hyrwyddo
cyfleoedd lleoliad gwaith...
16
00:01:03,720 --> 00:01:06,680
..ar adeg pan rydych chi'n
wynebu'r heriau mwyaf...
17
00:01:06,720 --> 00:01:11,040
..i'n gwasanaethau iechyd, gofal
cymdeithasol a gofal plant ers cof.
18
00:01:13,000 --> 00:01:16,440
Efallai bod llawer ohonoch
wedi gwylio rhaglen deledu...
19
00:01:16,480 --> 00:01:19,600
..am brofiad gwaith Rhod Gilbert
mewn cartref gofal.
20
00:01:20,200 --> 00:01:24,280
Fe wnaeth y rhaglen hon gymaint i
godi proffil gofal cymdeithasol...
21
00:01:24,320 --> 00:01:27,200
..a'r canfyddiad o beth yw pwrpas
y swydd.
22
00:01:28,200 --> 00:01:31,160
Dyma ychydig o ddyfyniadau Rhod
o'r rhaglen.
23
00:01:32,800 --> 00:01:34,840
"Sgiliau isel - meddai pwy?
24
00:01:35,600 --> 00:01:40,040
"Pe byddem yn gwerthfawrogi ein
gofalwyr hyd yn oed 1% gymaint...
25
00:01:40,080 --> 00:01:44,720
"..ag y dylem, honno fyddai'r swydd
fwyaf buddiol y gallech ei gwneud.
26
00:01:46,600 --> 00:01:49,120
"Mae wedi bod yn fraint
ac yn anrhydedd...
27
00:01:49,160 --> 00:01:53,720
..ac un o'r profiadau anoddaf,
ond un o'r goreuon.
28
00:01:55,800 --> 00:01:59,000
"Yn y dechrau, roeddwn i'n disgwyl
iddo fod yn anodd...
29
00:01:59,400 --> 00:02:01,000
"..ac mae'n sicr yn anodd.
30
00:02:01,800 --> 00:02:05,480
"Ond doeddwn i ddim yn disgwyl bod
mor hapus, mor llawen â hyn.
31
00:02:06,400 --> 00:02:09,760
"Doeddwn i ddim yn disgwyl
i'r profiad fod gystal â hyn".
32
00:02:12,000 --> 00:02:15,800
Mae angen i ni ddod o hyd i ffordd
i ddenu pobl i'r sector o hyd...
33
00:02:16,800 --> 00:02:19,080
..ond fel gyrfa werthfawr
o ddewis...
34
00:02:19,120 --> 00:02:22,160
..nid oherwydd nad oes
unrhyw beth arall ar gael.
35
00:02:24,000 --> 00:02:27,920
Felly, rydym wedi datblygu pecyn
cymorth a fydd, gobeithio...
36
00:02:27,960 --> 00:02:31,640
..yn eich helpu i wneud lleoliad
gwaith yn brofiad cadarnhaol...
37
00:02:31,680 --> 00:02:36,480
..i chi fel cyflogwyr, i'r unigolion
sy'n defnyddio eich gwasanaethau...
38
00:02:36,520 --> 00:02:40,400
..ac i'r unigolyn sy'n dod i gael
profiad gwaith yn eich lleoliad.
39
00:02:45,200 --> 00:02:48,240
Felly, beth yw lleoliad gwaith
a phwy sydd ei angen?
40
00:02:51,400 --> 00:02:55,520
Gellir defnyddio profiad gwaith drwy
leoliad mewn sefydliad iechyd...
41
00:02:55,560 --> 00:02:58,920
..gofal cymdeithasol, chwarae
neu flynyddoedd cynnar...
42
00:02:58,960 --> 00:03:02,160
..a gofal plant am lawer o resymau,
er enghraifft...
43
00:03:03,200 --> 00:03:07,360
..cyflogwyr sydd eisiau buddsoddi
yn natblygiad gweithlu'r dyfodol...
44
00:03:07,400 --> 00:03:10,200
..a'i gefnogi, gan ysgogi
ac ysbrydoli pobl...
45
00:03:10,240 --> 00:03:12,000
..i weithio yn y sectorau...
46
00:03:13,800 --> 00:03:18,040
..disgyblion a myfyrwyr, pobl
sy'n chwilio am newid mewn gyrfa...
47
00:03:18,080 --> 00:03:20,600
..neu'r rhai sy'n dychwelyd
i'r gwaith...
48
00:03:20,640 --> 00:03:25,480
..i archwilio cyfleoedd gwaith,
magu hyder a datblygu gwybodaeth...
49
00:03:25,520 --> 00:03:29,160
..a sgiliau sy'n eu paratoi
ar gyfer gwaith yn y sectorau...
50
00:03:31,000 --> 00:03:34,040
..dysgwyr sy'n ymgymryd â
chymwysterau ffurfiol...
51
00:03:34,080 --> 00:03:37,520
..drwy golegau addysg bellach,
sefydliadau addysg uwch...
52
00:03:37,560 --> 00:03:42,040
..ysgolion neu ddarparwyr dysgu
eraill i gymhwyso gwybodaeth...
53
00:03:42,120 --> 00:03:46,880
..a dealltwriaeth a gafwyd drwy
astudio mewn amgylchedd ymarferol...
54
00:03:46,920 --> 00:03:51,360
..a datblygu'r sgiliau sydd
eu hangen i gyflawni'r cymhwysedd.
55
00:03:53,400 --> 00:03:55,760
Felly, beth yw'r manteision
i gyflogywr?
56
00:03:57,400 --> 00:04:00,680
Gall cynnig cyfleoedd lleoliad
gwaith ddod â chyfoeth...
57
00:04:00,720 --> 00:04:02,240
..o fanteision i chi.
58
00:04:04,000 --> 00:04:06,360
Cysylltu â chronfa bosib
o weithwyr...
59
00:04:06,400 --> 00:04:10,040
..a chyfrannu at ddatblygu'r
genhedlaeth nesaf...
60
00:04:10,080 --> 00:04:11,920
..o weithwyr medrus iawn.
61
00:04:13,000 --> 00:04:17,480
Dysgu o adborth, a gwaith myfyrio
dysgwyr i wella eich gwasanaeth.
62
00:04:19,000 --> 00:04:22,040
Adolygu safonau ac arferion
yn rheolaidd...
63
00:04:22,080 --> 00:04:26,280
..i sicrhau eu bod yn gyfredol
ac o ansawdd da.
64
00:04:27,800 --> 00:04:32,000
Hyrwyddo gwerth y sectorau, yr
amrywiaeth o rolau sydd ar gael...
65
00:04:32,040 --> 00:04:36,080
..ac ysgogi pobl i weithio yn y maes
iechyd, gofal cymdeithasol...
66
00:04:36,120 --> 00:04:39,320
..neu ofal plant fel gyrfa o ddewis.
67
00:04:40,800 --> 00:04:44,800
Hyrwyddo eich gwasanaeth eich hun
a'r hyn sydd ganddo i'w gynnig.
68
00:04:46,000 --> 00:04:49,520
Cefnogi datblygiad eich gweithlu
eich hun drwy fentora.
69
00:04:58,200 --> 00:05:01,640
Rydyn ni'n mynd i dreulio ychydig
o amser yn eich tywys chi...
70
00:05:01,680 --> 00:05:05,360
..drwy'r pecyn cymorth ac yn
gobeithio y byddwch chi'n meddwl...
71
00:05:05,400 --> 00:05:09,040
..sut gallwch chi gynnig cyfleoedd
ar gyfer lleoliad gwaith...
72
00:05:09,080 --> 00:05:10,600
..yn eich lleoliadau.
73
00:05:14,400 --> 00:05:17,800
Er hwylustod, mae'r canllaw
wedi ei rannu'n dair rhan...
74
00:05:18,920 --> 00:05:22,160
..cyflogwyr, darparwyr dysgu
a dysgwyr.
75
00:05:23,000 --> 00:05:26,560
Mae pob rhan yn cynnwys yr un
wybodaeth sydd wedi ei theilwra...
76
00:05:26,600 --> 00:05:28,200
..ar gyfer y gynulleidfa.
77
00:05:28,600 --> 00:05:31,640
Mae'n bosib yr hoffech chi
edrych ar yr wybodaeth...
78
00:05:31,680 --> 00:05:35,920
..a ddarperir i ddysgwyr yn ogystal
â'r rhan a ddatblygwyd...
79
00:05:35,960 --> 00:05:40,440
..ar eich cyfer, gan y bydd hyn yn
eich helpu i ddeall disgwyliadau.
80
00:05:45,600 --> 00:05:49,520
Mae saith rhan ym mhob adran
sy'n darparu gwybodaeth fanwl...
81
00:05:49,560 --> 00:05:52,320
..am sut i baratoi ar gyfer
lleoliadau gwaith...
82
00:05:52,360 --> 00:05:55,120
..a darparu adborth ar ôl gorffen.
83
00:05:56,000 --> 00:05:58,560
Byddwn yn edrych ar bob un
o'r adrannau hyn...
84
00:05:58,600 --> 00:06:01,040
..ychydig yn fanylach nesaf.
85
00:06:06,600 --> 00:06:11,440
Fel yr amlinellwyd eisoes, gall
cynnig cyfleoedd lleoliad gwaith...
86
00:06:11,480 --> 00:06:15,080
..ddod â chyfoeth o fanteision
yn ei sgil.
87
00:06:16,600 --> 00:06:20,480
Gall gweithio yn y sectorau iechyd,
gofal cymdeithasol, chwarae...
88
00:06:20,520 --> 00:06:24,000
..neu flynyddoedd cynnar a gofal
plant fod yn werth chweil...
89
00:06:24,040 --> 00:06:27,720
..ac yn heriol - gall rhoi cyfle
i ddysgwyr roi cynnig ar ddysgu...
90
00:06:27,760 --> 00:06:30,200
..yn y swydd hyrwyddo gwerth
y sectorau...
91
00:06:30,240 --> 00:06:34,080
..ac ysgogi pobl i weithio gyda chi
fel gyrfa o ddewis.
92
00:06:36,400 --> 00:06:39,800
Gallant hefyd roi cyfle i chi
fyfyrio ar arferion...
93
00:06:39,840 --> 00:06:43,520
..eich lleoliad gwaith a sicrhau
bod eich safonau'n gyfredol...
94
00:06:43,560 --> 00:06:45,080
..ac o ansawdd da.
95
00:06:51,400 --> 00:06:53,840
Mae paratoi ar gyfer lleoliadau
gwaith...
96
00:06:53,880 --> 00:06:57,080
..yn un o'r agweddau pwysicaf
ar gynnig y cyfleoedd hyn.
97
00:06:58,800 --> 00:07:02,680
Gall bod yn glir ynghylch y mathau
o weithgareddau y gall...
98
00:07:02,720 --> 00:07:05,080
..ac na all dysgwyr
fod yn rhan ohonynt...
99
00:07:05,120 --> 00:07:08,080
..gael gwared ar y risg
o gamdybiaethau.
100
00:07:08,800 --> 00:07:12,280
Bydd darparu gwybodaeth sy'n helpu
dysgwyr i ddeall yr hyn...
101
00:07:12,320 --> 00:07:16,000
..a ddisgwylir ganddynt a'r hyn
y gallant ei ddisgwyl gennych...
102
00:07:16,040 --> 00:07:20,080
..yn cynorthwyo proses esmwyth
a phrofiad lleoliad cadarnhaol.
103
00:07:26,800 --> 00:07:29,680
Bydd buddsoddi mewn cyfleoedd
lleoliad gwaith...
104
00:07:29,720 --> 00:07:33,400
..yn golygu gwaith cynllunio gofalus
ac mae'n bwysig eich bod...
105
00:07:33,440 --> 00:07:37,080
..yn gallu sicrhau'r buddion mwyaf
posib i'ch lleoliad gwaith.
106
00:07:39,200 --> 00:07:42,560
Mae'n bosib yr hoffech gynnig cyfle
i'r dysgwyr...
107
00:07:42,600 --> 00:07:46,400
..ymweld â'r safle
cyn i'w lleoliad ddechrau.
108
00:07:47,000 --> 00:07:50,400
Bydd hyn yn eu helpu i wybod
beth i'w ddisgwyl.
109
00:07:50,600 --> 00:07:53,960
Mae'n bosib y byddwch chi hefyd
eisiau cynnal cyfweliad...
110
00:07:54,000 --> 00:07:55,600
..i weld a ydyn nhw'n addas.
111
00:07:56,200 --> 00:07:58,880
Os yw'n anodd gwneud hyn
wyneb yn wyneb...
112
00:07:58,920 --> 00:08:01,440
..o ganlyniad i gyfyngiadau
Covid-19...
113
00:08:01,480 --> 00:08:04,520
..meddyliwch am roi taith dywys
ddigidol iddynt...
114
00:08:04,560 --> 00:08:08,240
..gyda chyfleoedd i ddweud helo
wrth weithwyr eraill.
115
00:08:11,000 --> 00:08:13,760
Bydd anghenion dysgu pob unigolyn
yn wahanol...
116
00:08:13,800 --> 00:08:17,880
..yn dibynnu ar eu rheswm dros
ymgymryd â'r lleoliad gwaith...
117
00:08:18,400 --> 00:08:21,640
..er enghraifft, ennill cymhwyster
galwedigaethol...
118
00:08:22,000 --> 00:08:24,600
..rhagflas i bobl ifanc
yn yr ysgol...
119
00:08:25,000 --> 00:08:28,640
..meithrin sgiliau a hyder y rhai
sy'n chwilio am gyflogaeth...
120
00:08:28,680 --> 00:08:30,160
..yn eich sector.
121
00:08:31,600 --> 00:08:34,440
Mae'n bwysig bod yn glir
ynghylch eu hamcanion...
122
00:08:34,480 --> 00:08:38,960
..a'r hyn y gallwch ei gynnig i
sicrhau bod cyfatebiaeth dda.
123
00:08:41,400 --> 00:08:43,840
Mae nifer o bethau y dylech
eu hystyried...
124
00:08:43,880 --> 00:08:47,240
..ac rydym wedi darparu rhestr wirio
a fydd o gymorth.
125
00:08:48,600 --> 00:08:53,040
Un o'r pwysicaf yw dyrannu mentor
a fydd ar gael i gefnogi dysgwyr...
126
00:08:53,080 --> 00:08:55,040
..drwy gydol eu lleoliad gyda chi.
127
00:08:55,800 --> 00:08:58,520
Gall y mentor gynorthwyo
drwy sicrhau...
128
00:08:58,560 --> 00:09:01,800
..bod y dysgwr yn deall yn glir
beth yw'r disgwyliadau...
129
00:09:01,840 --> 00:09:05,120
..gan ddarparu adborth,
sicrwydd ac anogaeth.
130
00:09:11,600 --> 00:09:15,080
Mae'r adran hon yn darparu
gwybodaeth bwysig am reoliadau...
131
00:09:15,120 --> 00:09:19,080
..safonau a deddfwriaeth
y mae'n rhaid i chi eu bodloni...
132
00:09:19,600 --> 00:09:23,080
..er enghraifft, diogelu,
iechyd a diogelwch...
133
00:09:23,120 --> 00:09:25,720
..a diogelu data a chyfrinachedd.
134
00:09:30,800 --> 00:09:33,720
Pan fydd dysgwyr yn ymgymryd â
lleoliad gyda chi...
135
00:09:33,760 --> 00:09:38,200
..fel rhan o gwrs neu gymwysterau,
bydd gofynion penodol...
136
00:09:38,240 --> 00:09:42,600
..y bydd angen iddynt eu bodloni
i ddatblygu eu harfer.
137
00:09:45,000 --> 00:09:48,040
Mae'n bwysig eich bod yn siarad
â'r darparwr dysgu...
138
00:09:48,080 --> 00:09:51,760
..sy'n trefnu'r lleoliad gwaith
i sicrhau y gallwch ddarparu...
139
00:09:51,800 --> 00:09:54,440
..digon o gyfleoedd
i'r dysgwyr ddatblygu...
140
00:09:54,480 --> 00:09:56,440
..a bod eu ymarfer yn cael ei asesu.
141
00:10:03,600 --> 00:10:07,400
Gall adborth cadarn, adeiladol
a chlir helpu dysgwyr...
142
00:10:07,440 --> 00:10:12,120
..i ddatblygu a hefyd rhoi cyfle
i gyflogwyr fyfyrio ar eu harfer.
143
00:10:14,000 --> 00:10:18,200
Rydym wedi darparu templed
a fydd yn eich helpu i feddwl...
144
00:10:18,240 --> 00:10:20,040
..am y ffordd orau o wneud hyn.
145
00:10:21,600 --> 00:10:23,960
Yn anffodus,
mae'n bosib y bydd adegau...
146
00:10:24,000 --> 00:10:26,960
..pan fydd angen i chi ddarparu
adborth negyddol...
147
00:10:27,000 --> 00:10:31,720
..os ydych chi'n poeni am arfer,
ymddygiad neu addasrwydd dysgwyr...
148
00:10:31,760 --> 00:10:33,320
..i weithio yn y sector.
149
00:10:33,400 --> 00:10:38,800
Sicrhewch eich bod wedi cytuno
ar brosesau ar gyfer rhoi gwybod...
150
00:10:38,840 --> 00:10:41,000
..am y pryderon
i ddarparwyr dysgu...
151
00:10:41,040 --> 00:10:44,080
..gan gynnwys stopio'r
lleoliad os oes angen.
152
00:10:49,400 --> 00:10:53,440
Mae'r adran hon yn cynnwys nifer o
dempledi ar gyfer rhestrau gwirio...
153
00:10:53,480 --> 00:10:57,880
..a chytundebau lleoliadau gwaith
a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
154
00:11:06,600 --> 00:11:09,880
Dylid cwblhau asesiad risg Covid
ar gyfer unrhyw un...
155
00:11:09,920 --> 00:11:12,080
..sy'n dod ar leoliad gyda chi.
156
00:11:12,800 --> 00:11:16,800
Meddyliwch am yr hyn y byddech chi'n
ei wneud pe bai gennych chi...
157
00:11:16,840 --> 00:11:19,400
..aelod newydd o staff
yn dechrau gyda chi...
158
00:11:19,440 --> 00:11:22,600
..a chymhwyso'r un disgwyliadau
i ddysgwyr ar leoliad.
159
00:11:24,800 --> 00:11:28,120
Hyfforddiant cyn-lleoliad
i sicrhau eu bod yn deall...
160
00:11:28,160 --> 00:11:31,000
..sut mae'n rhaid iddynt
ymddwyn yn y lleoliad...
161
00:11:31,040 --> 00:11:33,800
..er enghraifft,
cadw pellter cymdeithasol...
162
00:11:33,840 --> 00:11:37,440
..golchi dwylo a defnyddio offer
diogelu personol.
163
00:11:39,600 --> 00:11:43,240
Lleoliadau bloc ar gyfer myfyrwyr
sy'n cwblhau cymwysterau...
164
00:11:43,280 --> 00:11:47,160
..yn lle cwpl o ddiwrnodau'r wythnos
i leihau nifer yr ymwelwyr...
165
00:11:47,200 --> 00:11:48,680
..yn eich lleoliad.
166
00:11:50,600 --> 00:11:53,080
Defnyddio holiaduron
iechyd safonol...
167
00:11:53,600 --> 00:11:56,480
..er enghraifft,
a yw'r unigolyn wedi profi...
168
00:11:56,520 --> 00:12:00,920
..neu wedi bod mewn cysylltiad
ag unrhyw un sydd â symptomau...
169
00:12:00,960 --> 00:12:05,600
..neu sydd wedi profi'n bositif,
a ydynt wedi bod dramor...
170
00:12:05,640 --> 00:12:11,160
..neu i ardal risg uchel yn ystod
y 14 diwrnod diwethaf ac ati...
171
00:12:12,200 --> 00:12:17,160
..a chymryd eu tymheredd cyn iddynt
fynd i mewn i'r adeilad bob dydd.
172
00:12:19,600 --> 00:12:23,480
Meddwl am risgiau sy'n gysylltiedig
â thasgau neu weithgareddau...
173
00:12:23,520 --> 00:12:26,880
..y gallent fod yn ymgymryd â nhw
tra byddant ar leoliad...
174
00:12:26,920 --> 00:12:30,080
..a gwneud yn siwr bod y rhain
yn risg isel...
175
00:12:30,120 --> 00:12:33,080
..yn hytrach na risg uchel
lle bynnag y bo modd.
176
00:12:41,800 --> 00:12:45,280
Os ydych chi eisiau hysbysebu
cyfleoedd am leoliad gwaith...
177
00:12:45,320 --> 00:12:47,680
..sydd ar gael
yn eich lleoliad gwaith...
178
00:12:47,720 --> 00:12:52,720
..mae Gofalwn.Cymru yn datblygu
swyddogaeth y gellir ei defnyddio...
179
00:12:52,760 --> 00:12:56,880
..i adael i ddarparwyr dysgu
a dysgwyr wybod am y rhain.
180
00:13:00,000 --> 00:13:03,080
Os penderfynwch gynnig cyfleoedd
lleoliad gwaith...
181
00:13:03,120 --> 00:13:07,080
..rhannwch eich profiadau gyda ni -
rydym yn awyddus i gynnwys...
182
00:13:07,120 --> 00:13:11,240
..tystebau cyflogwyr ac astudiaethau
achos bywyd go iawn...
183
00:13:11,280 --> 00:13:14,320
..a fydd yn dod â'r pecyn cymorth
hwn yn fyw.
184
00:13:17,680 --> 00:13:19,160
Diolch am wrando.