Trawsgrifiad fideo ‘Sut mae gofal cymdeithasol yn gweithio yng Nghymru?’
00:00:00
Sut mae gofal cymdeithasol yn gweithio yng Nghymru?
00:00:04
Mae gofal cymdeithasol yn hanfodol i lawer o bobl Cymru,
00:00:08
ond mae’n cael ei gamddeall yn aml.
00:00:10
Beth yw ystyr gofal cymdeithasol?
00:00:13
Mae’n derm eang sy’n disgrifio gofal a chymorth,
00:00:16
sy’n galluogi pobl o bob oed i ymdopi â’u bywydau bob dydd,
00:00:20
yn aml pan fyddan nhw’n wynebu heriau anodd a chymhleth.
00:00:24
Gall cymorth gofal cymdeithasol gynnwys cyngor,
00:00:27
cysylltu pobl â chymunedau lleol,
00:00:29
sefydlu amgylcheddau byw diogel a sefydlog,
00:00:32
a darparu gofal personol.
00:00:34
Mae hefyd yn darparu cymorth emosiynol i bobl reoli eu hiechyd corfforol a/neu feddyliol.
00:00:40
Gall gofalwyr di-dâl gael cymorth hefyd.
00:00:44
Cael mynediad at ofal cymdeithasol.
00:00:47
Mae 22 awdurdod lleol Cymru yn chwarae rhan allweddol
00:00:51
wrth drefnu a chysylltu pobl â’r gofal a’r cymorth cywir.
00:00:55
Mae awdurdodau lleol yn defnyddio proses asesu
00:00:58
i ddeall cryfderau ac anghenion gofal a chymorth pobl.
00:01:02
Maen nhw’n asesu a yw anghenion pobl yn gymwys i gael cymorth a chyllid gan yr awdurdod lleol,
00:01:08
ac mae gofyn i rai unigolion dalu tuag at eu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
00:01:13
Ledled Cymru, mae gan fwy nag un o bob 50 o bobl gynllun gofal a chymorth,
00:01:18
sy’n nodi’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw
00:01:20
a sut byddan nhw’n cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau llesiant personol.
00:01:26
Pwy sy’n darparu gofal cymdeithasol?
00:01:30
Mae dros 300,000 o ofalwyr di-dâl yn darparu gofal a chymorth ledled Cymru.
00:01:36
Gallan nhw fod o unrhyw oedran, yn aml maen nhw’n aelodau o'r teulu neu'n ffrindiau,
00:01:41
a gallan nhw hefyd gael mynediad at gymorth gofal cymdeithasol iddyn nhw’u hunain.
00:01:46
Mae dros 1200 o sefydliadau yng Nghymru yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
00:01:52
Busnesau preifat neu sefydliadau trydydd sector,
00:01:55
fel elusennau, yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw.
00:01:57
Mae’r sefydliadau yma’n cyflogi dros 84,000 o weithwyr gofal a chymorth.
00:02:03
Gall awdurdodau lleol roi taliadau i bobl tuag at gostau eu gofal a chymorth.
00:02:08
Taliadau uniongyrchol yw enw’r rhain,
00:02:11
ac mae pobl yn eu defnyddio i gyflogi eu gweithwyr gofal cymdeithasol eu hunain.
00:02:16
Sut mae safonau uchel yn cael eu cynnal
00:02:19
ar draws gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
00:02:23
Rheoliadau.
00:02:24
Yng Nghymru, caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol
00:02:28
eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
00:02:31
Maen nhw’n cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau
00:02:34
i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau.
00:02:37
Caiff y rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol
00:02:40
eu rheoleiddio gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
00:02:43
Mae hyn yn golygu bod rhaid iddyn nhw gofrestru,
00:02:46
cyflawni cymwysterau penodol, a dilyn Codau Ymarfer Proffesiynol.
00:02:50
Deddfwriaeth.
00:02:52
Rhaid i'r gwasanaethau gofal cymdeithasol
00:02:55
gydymffurfio â deddfwriaeth genedlaethol,
00:02:57
fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
00:03:02
Mae’r Ddeddf yn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau’n
00:03:05
gweithio gyda phobl sy’n cael mynediad at ofal a chymorth
00:03:08
i nodi’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
00:03:11
Mae sefydliadau gofal cymdeithasol hefyd yn gweithio gyda phartneriaid
00:03:15
fel gwasanaethau iechyd, addysg, tai,
00:03:18
yr heddlu ac elusennau i wneud y defnydd gorau o adnoddau.
00:03:22
Rhaid i’r unigolyn sy’n cael mynediad at ofal a chymorth
00:03:26
fod yn ganolog i’r broses.
00:03:29
I gael rhagor o wybodaeth am ofal cymdeithasol,
00:03:32
ewch i gofalcymdeithasol.cymru
00:03:34
Hoffech chi ddilyn gyrfa ym maes gofal?
00:03:37
Ewch i gofalwn.cymru