NIKKI HANCOCK:
Rheolwr Gofal Cartref
[00:00:01] Mae Prosiect Rhaglan yn gofalu am y person cyfan, anghenion emosiynol yn fwy nag anghenion corfforol.
CAROLINE PRICE:
Gweithiwr Gofal
[00:00:08] Mae’r anghenion corfforol ac ymarferol yn mynd lawn yn llaw, ond wedi i chi fodloni’r anghenion emosiynol ry’ch chi’n meithrin perthynas ddofn iawn â’r unigolyn.
JULIE HINTON:
Gweithiwr Gofal
[00:00:18] Mae Prosiect Rhaglan yn wahanol oherwydd ry’ch chi’n gwneud mwy â’r teuluoedd, ac yn cael gwneud eich penderfyniadau eich hun am eu lles cymdeithasol.
DEBBIE WILLIAMS:
Gweithiwr Gofal
[00:00:29] Allwch chi wneud dim beth bynnag heb fod wedi meithrin perthynas gyda nhw.
[00:00:35] Ond mae Prosiect Rhaglen wedi caniatáu i ni weithio’n wahanol, meithrin perthynas a chael canlyniadau gwych.
NIKKI HANCOCK:
[00:00:43] Mae’n fater o beth allwn ni’i wneud gyda chi yn hytrach na drosoch chi.
[00:00:47] Dyna holl ddiben gweithio gyda dementia.
CAROLINE PRICE:
[00:00:52] Mae gennym grŵp cymunedol sy’n cwrdd unwaith y mis ac ry’n ni’n trefnu teithiau, ac mae’n ganolbwynt i’r gymuned a’r archfarchnad a’r siopau, ac mae llawer o bobl yn teimlo rhyw – beth yw’r gair? – cyfrifoldeb a dweud y gwir ac maen nhw eisiau cymryd rhan.
DEBBIE WILLIAMS:
[00:01:13] Drwy ddod â nhw i hen Neuadd y Pentre lle roedd y gymuned a’r tîm a phawb yn dod at ei gilydd, pan oedden nhw’n gwybod eu bod nhw’n mynd allan y diwrnod wedyn i ddigwyddiad cymdeithasol neu rywbeth, roedden nhw’n ysu am gael paratoi ac yn ceisio gwneud popeth drostyn nhw’u hunain.
[00:01:28] Felly roedden nhw’n dod yn fwy annibynnol o lawer.
CAROLINE PRICE:
[00:01:31] Dyw hi ddim yn fater o eistedd mewn cadair a gwylio’r teledu, ond o gael eich cynnwys ac mae hynny’n hollbwysig a dyna’r peth pwysicaf, eu bod nhw’n cael eu cynnwys.
[00:01:42] Nid gwneud pethau drostyn nhw, ond eu hannog i fod eisiau gwneud pethau, fel mynd i siopa, cael gwneud eu gwallt, yr holl bethau roedden nhw’n arfer eu gwneud.
[00:01:51] Ddylai dementia ddim rhoi stop ar hynny, fe ddylen nhw fyw bywyd llawn ac amrywiol fel ni.
DEBBIE WILLIAMS:
[00:01:57] Felly nawr ry’n ni’n aros i weld sut fydd pobl ar y diwrnod.
[00:02:00] Os oes awydd bath arnyn nhw, maen nhw’n cael bath.
[00:02:02] Os ddim, fe wnawn ni e rywbryd eto.
[00:02:05] Fe allwn ni fynd yn ôl at alwadau neu beth bynnag sydd fwyaf pwysig iddyn nhw a dyna ry’n ni’n ceisio’i wneud.
CAROLINE PRICE:
[00:02:10] Ry’ch chi’n eu gweld yn ffynnu o flaen eich llygaid.
[00:02:15] Ry’ch chi’n mynd i mewn ac mae popeth fel maen nhw eisiau.
[00:02:18] Mae hynny’n rhoi hyder iddyn nhw, mewn ffordd, a chyfle i wneud yr hyn maen nhw eisiau’i wneud.
[00:02:24] Os ydyn nhw eisiau mynd i’r dref a mynd i’r archfarchnad i siopa dyna ry’n ni’n ei wneud.
NIKKI HANCOCK:
[00:02:29] Mae angen rheolaeth a’u llais eu hunain arnyn nhw – ar bawb, arna i hefyd.
[00:02:34] Fyddech chi ddim eisiau eistedd yna’n gwylio rhywun arall yn gwneud popeth drosoch chi heb allu rhoi eich barn.
[00:02:40] Ac mae’r bobl ry’n ni’n ymweld â nhw, dyw’r dementia ddim yn mynd â dim byd oddi wrthyn nhw, maen nhw’n dal i fod yn bobl a dyna sut mae’r tîm, a gweddill Sir Fynwy hefyd gobeithio, yn trin pawb ry’n ni’n mynd i ymweld â nhw.