Karen Harrison Dening: "Wrth feddwl am ofal diwedd oes o ansawdd da i bobl â dementia, dyw’r pwyslais ddim i gyd ar feddwl am fyw’n dda gyda dementia.
Mae angen i strategaeth dda feddwl am farw’n dda gyda dementia hefyd."
Mae Karen Harrison Dening yn arbenigo mewn gofal diwedd oes. Mae’n meddwl mai un broblem yw nad yw ymarferwyr yn adnabod arwyddion diwedd oes yn ddigon cynnar.
Oherwydd nad ydym bob amser yn sylwi bod rhywun â dementia yn nesáu at y diwedd,
mae pobl yn aml yn dioddef ymyriadau diangen, sydd weithiau’n ymwthiol, ar ddiwedd eu hoes.
Ac fe welwn bobl yn gorfod mynd i’r ysbyty’n aml, ymyriadau fel bwydo drwy diwb neu roi gwrthfiotigau drwy’r gwythiennau, neu ymyriadau eraill nad oes galw amdanynt efallai yn sefyllfa diwedd oes yr unigolyn dan sylw, ac sy’n gallu achosi mwy o ofid nag o les i’r unigolyn.
Mae’n credu y gallai gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a chynllunio’n dda ymlaen llaw olygu bod llai o bobl yn mynd i’r ysbyty heb fod eisiau.
Yng Nghanolfan Ofal Moreton Hill yn Swydd Gaerloyw, cartref gofal ag unedau dementia a nyrsio, maen nhw’n defnyddio’r dull hwn er mwyn i bobl gael marw’n dda, ble bynnag a sut bynnag y dymunant.
"Oes syched arnat ti, Mam? Wyt ti eisiau diod? Paned?"
Mae Alzheimer’s ar Mairead Smart ac mae wedi cyrraedd diwedd ei hoes. Mae aelodau o’i theulu’n dod i’w gweld yn aml, fel ei merch, Marion Beadle, a’i hŵyr, Joe.
Fe ddaw Patricia â phaned fach mewn munud.
"Ry’n ni wedi mynd o fod yn rhywun oedd ag Alzheimer's ac yn cofio dim ac yn ailadrodd popeth ond oedd yn dal i allu cael paned a chynnal sgwrs, i fethu hyd yn oed cynnal sgwrs â fi."
"Paid ag aros ar ddihun os nad wyt ti eisiau, cariad, cau dy lygaid."
Mae Mairead yn un o 59 o breswylwyr fydd yn symud i’r cyfnod diwedd oes ym Moreton Hill.
Er mwyn sicrhau bod y staff yn adnabod arwyddion diwedd oes ac yn gallu rhoi’r gofal iawn, maen nhw wedi datblygu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gan ddefnyddio Fframwaith Safon Aur y GIG.
Mae’r Fframwaith Safon Aur yn edrych yn gyfannol ar holl anghenion yr unigolyn, yn rhai corfforol, ysbrydol neu grefyddol. Mae’n ymwneud â chefnogi teuluoedd a rhoi’r profiad a'r atgofion gorau posib iddynt o ddyddiau olaf eu hanwyliaid.
Mae’r staff yn nodi camau olaf dementia gan ddefnyddio system goleuadau traffig.
Mae’r system goleuadau traffig yn ffordd syml iawn o ddarparu gofal diwedd oes. Mae’n troi’n las pan ddaw pobl i mewn, yn wyrdd pan fydd pobl yn dechrau dirywio, yn felyn neu’n oren pan fydd y dirywiad yn amlwg, ac yna’n goch ar ddiwedd eu hoes.
"Beth am wneud y llaw arall? Dewch â’ch llaw arall i mi. Gwych. Iawn. Dyna ni, dyna ni."
Mae’r staff i gyd yn gwybod bod golau Mairead wedi troi’n goch, ac oherwydd ei hanghenion gofal mae yn yr adain nyrsio nawr.
"Mae ganddi synnwyr digrifwch da. Bob amser yn hwyliog, ei chwpan bob amser yn hanner llawn. Mae rhywun wastad yn waeth eu byd na hi beth bynnag yw ei phroblemau. Y cwbl roedd hi’i eisiau oedd bod yn wraig ac yn fam."
"... Jean."
"Na, na, na, na."
Mewn gofal diwedd oes i breswylwyr â dementia, mae’n gallu bod yn anodd penderfynu pryd mae angen gofal diwedd oes arnyn nhw.
"Mae’n bwysig iawn fod holl staff y cartref yn sylwi ar newidiadau yn y preswylwyr,
ac un o fanteision cael preswylwyr yn ein cartref yw ein bod yn eu nabod yn dda, ac felly’n aml iawn bydd unrhyw newidiadau’n amlwg i’r tîm i gyd,
bydd unrhyw un sy’n mynd i mewn i’r ystafell yn gwybod sut maen nhw fel arfer ac yn sylwi ar unrhyw newid.
Efallai eu bod yn anadlu’n wahanol, a gallai hynny fod yn arwydd o broblem.
Dwi am ddangos i chi sut ry’n ni’n symud rhywun sydd wedi cyrraedd y cam hwnnw, sef diwedd oes."
"Dwi am blygu’r gynfas lithro ..."
Mae angen sgiliau i ddeall anghenion pobl â dementia, felly mae angen hyfforddiant, gwybodaeth a sgiliau ar y staff gofalu, ac mae angen buddsoddi nid dim ond mewn darparu gofal dementia da,
ond hefyd mewn darparu gofal diwedd oes da, oherwydd bydd y ddwy elfen honno’n golygu bod y sawl sydd â dementia’n cael marwolaeth dda.
"Dwi eisiau bod yma doed a ddêl."
"Ydych, wrth gwrs."
"Ond fydden i ddim yn synnu pe bai hi’n gwneud rhywbeth felly."
"Fydden i ddim yn synnu o gwbl. Bydden ni’n eich galw i mewn cyn gynted â phosib ..."
"Iawn."
"... ei bod wedi marw."
"Dim ond nad ydy hi mewn poen ... Dwi ddim ..."
"Dwi’n gwybod, marw fel bu hi byw, gydag urddas."
"Yn hollol."
Yn ogystal â hyfforddi’r holl staff i nodi’r broses o farw, yn Moreton Hill maen nhw’n defnyddio cynllun gofal ymlaen llaw i nodi dewisiadau pobl o ran eu gofal diwedd oes ar ffurflen y gellir ei diweddaru.
"O ran eich mam, oes yna rywbeth yr hoffech chi i ni’i wneud nad ydyn ni’n ei wneud nawr?"
"Nac oes. Dim ond bod ganddi’r pethau bach o’i chwmpas sy’n ei hatgoffa o’i theulu."
"Mae popeth ry’ch chi’n ei wneud, ie, popeth ry’ch chi’n ei wneud yn barod yn berffaith."
"Mae hynny’n iawn. Nawr wrth i’ch mam fynd yn sâl iawn ydych chi eisiau ..."
Gwerth y cynllun gofal ymlaen llaw yw na fydd dim byd annisgwyl yn digwydd, bydd popeth wedi’i nodi er mwyn i bobl gael marw gydag urddas a pharch, gan wybod y bydd eu dymuniadau’n cael eu parchu hyd at y diwedd.
"Er nad ydyn nhw’n gallu cyfleu hynny, fe allwn ni roi gofal iddi fel mae hi eisiau, ac fel mae ei theulu eisiau."
Un elfen bwysig o gynllun Mairead yw bod ei theulu, ac yn enwedig ei hwyrion, yn agos hyd at y diwedd.
"Pan fydd Mam yn clywed llais Joe ac yn ymateb iddo mae hynny’n beth arbennig iawn i mi, am ei bod hi’n nabod ei lais a dyna pam mae hi’n deffro am ei bod yn gwybod mai Joe sydd yno."
"Ti’n clywed y dyn bach ar y llawr?"
[Chwerthin]
"Yn chwarae yn y coed gyda’i anifeiliaid."
"Roedd ei nerfau’n rhacs pan ddaeth hi yma, ond nawr mae hi fel y person hapus, hamddenol, hyfryd dwi’n ei gofio, ac mae hynny oherwydd y gofal mae hi’n ei gael yma."
"Mae’n bwysig rhoi cyfle i bobl pan gânt eu diagnosis i siarad am eu dymuniadau a’u blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol ar ffurf cynllun gofal ymlaen llaw,
er mwyn iddyn nhw gael cyfle i reoli a dylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd iddynt yn nes ymlaen pan fyddant efallai wedi colli’r gallu a’r iaith i wneud hynny."
"Fe hoffwn gael gair â chi, doctor, am Mrs Brown. Fe wnes i gynllun gofal ymlaen llaw dros y penwythnos ac mae ei chyflwr wedi dirywio rywfaint."
Os oes angen i dîm amlddisgyblaethol, gan gynnwys eu meddyg teulu, ddefnyddio’r Ddeddf Galluedd Meddyliol i wneud y penderfyniadau gorau er lles preswylwyr sydd wedi colli eu galluedd,
mae’n nhw’n gallu ystyried dewisiadau blaenorol pobl gan ddefnyddio’r cynllun gofal ymlaen llaw.
"... yr wythnosau nesaf. Tybed a ddylen ni ystyried newid rhai o’i chyffuriau a pheidio â rhoi rhai o’r meddyginiaethau nad oes eu hangen arni?"
"Iawn."
"Ydy hynny’n iawn?"
Pan fo’r golau’n troi’n goch, mae staff Moreton Hill a’r meddyg teulu’n rhoi Llwybr Gofal Lerpwl ar waith. Mae’n amlinellu’r arfer gorau o ran y gofal y gall claf ei ddisgwyl yn ystod dyddiau ac oriau olaf bywyd.
"... mae hi braidd yn aflonydd hefyd, braidd yn anniddig ar brydiau. Tybed gawn ni rywbeth i’w thawelu?"
"A beth mae hi’n ei feddwl am hynny?"
"Mae hi’n iawn, yn ddigon cyfforddus. Mae’n gwybod ei bod yn marw, ond fe fyddai’n braf iddi fod yn llai gofidus ac aflonydd."
Bydd y meddyg yn eistedd i lawr gyda'r tîm amlddisgyblaethol ac yn trefnu cyffuriau ar gyfer y boen, a chyffuriau i dawelu pobl,
i wneud yr oriau olaf mor gyfforddus â phosib, fel bod eu hanwyliaid yn teimlo’u bod yn cael y gofal maen nhw eisiau iddyn nhw’i gael.
"Mairead, paned."
"Mae’r staff i gyd yn gofalu amdanoch fel rhan o’r teulu. Mae’n teimlo fel petaen nhw’n caru Mam fel eu mam eu hunain.
Ac mae hynny’n golygu eu bod yn gwneud yn siŵr bod ganddi bopeth sydd ei angen arni neu sy’n bwysig iddi rhwng nawr a phan fydd hi’n gadael y byd yma.
Ac mae hynny’n gysur mawr i mi ac i’r teulu."