Pwrpas y fideo hwn yw helpu cyflogwyr i ddeall sut i reoli ceisiadau a chamau gweithredu gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Byddwn yn dangos y gwahanol adrannau i chi, a sut i'w defnyddio.
O fewn adran ‘Fy Sefydliadau’ rydych chi’n rheoli pob cais sy’n ymwneud â cheisiadau a chofrestriadau eich cyflogeion.
Dewiswch eich sefydliad o'r gwymplen ar y dudalen.
Yn eich tudalen sefydliad fe welwch ddewislen yn ymwneud â phob gweithred gan gyflogwr.
I weld pwy sydd â cheisiadau agored gan eich sefydliad, cliciwch y botwm ‘Ymgeiswyr’.
Yma fe welwch restr o'r holl geisiadau agored ar gyfer eich sefydliad.
I gymeradwyo ceisiadau, cliciwch ar y botwm ‘Ar gyfer ‘Cymeradwyo’.
Byddwch yn gweld rhestr o bob math o geisiadau y mae angen eu cymeradwyo, wedi'u gwahanu yn ôl math; i gynnwys ceisiadau, adnewyddiadau, a newidiadau mewn cofrestriad.
Os ydych yn brif lofnodwr, fe welwch yr holl gymeradwyadau sy'n weddill ar gyfer eich sefydliad.
Bydd llofnodwyr ychwanegol dim ond yn gweld yr cymeradwyadau pan fyddant wedi'u dewis i'w cymeradwyo gan yr ymgeisydd.
I weithredu'r cymeradwyadau hyn, cliciwch y saeth ar yr ochr dde.
Gallwch weld y math o ffurflen i sicrhau bod y wybodaeth a ddarparwyd gan yr ymgeisydd yn gywir.
Yna gallwch chi gymeradwyo’r cais trwy glicio ar yr opsiwn ‘Cadarnhau’ a chwblhau’r holl feysydd ar y ffurflen cymeradwyo.
Bydd angen i chi gadarnhau bod y dyddiad dechrau cyflogaeth a ddarparwyd gan yr ymgeisydd yn gywir a chadarnhau ei fod wedi gwneud cais am y cofrestriad cywir.
Bydd angen i chi gadarnhau eich bod wedi gwirio tystysgrif geni’r ymgeisydd, a dewis pa ffurf adnabod ychwanegol yr ydych wedi’i gwirio.
Dim ond os yw eu DBS diweddaraf y tu allan i'r tair blynedd diwethaf y mae angen hyn.
Yna bydd angen i chi ddarparu manylion gwiriad DBS yr ymgeisydd, a chadarnhau eich bod wedi gwirio adrannau troseddol a disgyblu’r ymgeisydd ar y ffurflen gais.
Bydd angen i chi hefyd gadarnhau bod gan yr ymgeisydd gymwysterau addas, neu'n gweithio tuag at eu cymhwyster.
Mae yna adran lle gallwch chi ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol rydych chi'n teimlo sy'n berthnasol i'r cais.
Er enghraifft, os oes unrhyw wallau yn y cais, neu os na allwch ei gymeradwyo, gallwch ddweud pam wrthym yma.
Yna rhaid i chi ddarllen y datganiad yn y rhestr isod, a chlicio ar y botwm ‘Cyflwyno’ i gadarnhau’r cymeradwyaeth.
I gadarnhau nad oes unrhyw faterion yn atal rhywun rhag cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr, cliciwch ar y botwm ‘Cadarnhad Dileu Cyflogwr’ ar dudalen y sefydliad.
Os oes materion yn ymwneud ag ymddygiad heb eu hadrodd i ni, rhaid i chi roi gwybod i ni.
Cliciwch ar y saeth ar y dde a dewiswch gadarnhau fydd yn mynd â chi at y ffurflen gadarnhau.
Bydd angen i chi ddarllen y datganiadau cadarnhau, a dweud wrthym os yw'r person hwnnw wedi gadael eich cyflogaeth.
Yna mae’n rhaid i chi naill ai gadarnhau nad oes unrhyw resymau y gellir dileu’r unigolyn, neu gallwch ddewis yr opsiwn i nodi na allwch gadarnhau.
Os dewiswch yr opsiwn hwn, bydd angen i chi ddweud pam yn y blwch ‘Gwybodaeth ychwanegol’ isod.
Ar ol lei gwblhau, gallwch glicio ar y botwm cyflwyno.
Os oes angen ichi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau i fanylion eich sefydliad, dewiswch y botwm ‘Golygu Sefydliad neu ‘Newid’ ar y brif dudalen.
Yma gallwch ddweud wrthym am unrhyw newidiadau i gyfeiriad neu fanylion cyswllt.
Dim ond llofnodwyr arweiniol sydd â mynediad i wneud hyn.
Yn yr adran ‘Unigolion Cofrestredig’, fe welwch restr o’r holl bersonau cofrestredig sydd â chyflogaeth gyfredol yn eich sefydliad.
Byddwch yn gallu gweld eu henwau, teitlau swyddi, rhifau cofrestru (neu AADau), y dyddiadau y cawsant eu cofrestru a'r dyddiadau y mae disgwyl iddynt adnewyddu eu cofrestriad.
Gallwch hefyd weld a oes unrhyw gydymffurfiaeth sy'n weddill mewn perthynas â'u cofrestriad, megis gofynion cymhwyster.
Os oes rhywun wedi gadael eich sefydliad, mae angen i chi ddweud wrthym. Cliciwch ar y saeth wrth ymyl eu cofnod, a dewiswch ‘Newid’.
Ar y dudalen nesaf, cliciwch ar y saeth ar y dde a dewiswch ‘Gorffen Cyflogaeth’ i gadarnhau eu bod wedi gadael eich sefydliad. Bydd angen i chi ddweud wrthym y dyddiad y gadawodd yn ogystal â’r rheswm dros adael.
Ar ôl ei gadw a'i gyflwyno ar y dudalen nesaf, ni fydd y person hwnnw'n ymddangos yn eich rhestr o bersonau cofrestredig.
Mae'n rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw faterion sy'n ymwneud ag addasrwydd i ymarfer eich gweithwyr.
I wneud hyn, dewiswch y botwm ‘Adrodd Pryder Ffitrwydd i ymarfer’ ar y brif dudalen.
Cliciwch y botwm ‘Codi Pryder’ ar y dudalen a fydd yn mynd â chi i’r ffurflen ar-lein ar ein Gwefan.
Gallwch reoli llofnodwyr eich sefydliad trwy glicio ar y botwm Llofnodwyr ar y brif dudalen.
Dim ond llofnodwyr arweiniol sydd â mynediad i'r swyddogaeth hon.
Byddwch yn gweld rhestr o'r holl lofnodwyr ar gyfer eich sefydliad wedi'u gwahanu gan y gwahanol fathau.
Gallwch olygu manylion, neu ddileu llofnodwyr trwy glicio ar y saeth wrth ymyl eu henw.
I olygu cyfeiriad gwaith neu deitl swydd llofnodwr, cliciwch y botwm ‘newid / Diddymu’ a chwblhewch y manylion ar y dudalen nesaf.
I ddileu llofnodwr, dewiswch yr opsiwn o'r saeth.
Cwblhewch y ffurflen trwy ddweud wrthym o ba ddyddiad y daw hyn i rym.