Fy enw fi yw Mr David Stanbury Britton a dyma fy stori.
Flynyddoedd maith yn ôl, bues i’n gynghorydd lleol. Gwnes i hynny am dros bedwar deg o flynyddoedd. Mae pobl yn edrych arna’ i nawr a gweld dim ond hyn (mae Mr Britton yn amneidio tuag at ei ddwylo tyn) – ond mae llawer mwy i fi na hynny.
Roedd hi’n drychinebus dysgu bod Clefyd Parkinson arnaf. Roedd hi’n anoddach fyth pryd cafodd fy mab ddiagnosis hefyd. Dyw bywyd ddim yn deg weithiau. Rhaid i chi wneud y gorau ohono. Pryd bu farw’r wraig, o’n i ar fy mhen fy hunan. Roedd salwch fy mab yn waeth na fy un fi, ac o’n i yn y tywyllwch. Cassie oedd llygaid fy ngwraig. Mae’r gath fach ‘na’n arwydd o obaith; mae hi’n fwy nac anifail.
Ar ôl iddi farw, triodd pobl fy helpu – ond dywedon nhw o hyd, “David, rhaid i chi feddwl o’ch iechyd a chael gwared ar y gath ‘na”. Ond beth oedden nhw’n methu deall oedd nad yw Cassie’n anifail; hon yw fy unig ffrind. Hon sy’n fy atgoffa fi o fy ngwraig bob dydd. O’n i eisiau gwneud ffrindiau newydd a gwneud mwy o bethau ond doedd dim modd i fi symud allan o’r byngalo ‘na os nad oedd Cassie’n cael dod hefyd. Doedd neb yn deall hynny. O’n i mewn ac allan o’r ysbyty drwy’r amser, ac o’n i’n poeni pwy fyddai’n gofalu am Cassie pryd nad o’n i yno. Roedd y gofid wedi gwneud i fi’n fwy sâl fyth, ac doedd neb yn deall pam nad o’n i eisiau triniaeth. Y gwir yw – ‘na gyd o’n i eisiau oedd bod gyda fy nghath. Ond pam fod hynny mor anodd?
“Rhaid i chi fynd i’r ysbyty, David.”
“Mae’r hen gath ddiawl ‘na’n creu llanast ymhob man. Pam eich bod chi ddim yn cael cartref newydd iddi?”
“David, fe fyddwch chi llawer mwy diogel mewn cartref gofal. Oni fyddech chi’n teimlo’n well gyda mwy o bobl o gwmpas?”
Onid yw hi’n ddoniol bod pobl yn meddwl y gallan nhw ddweud wrthych chi am beth i’w wneud?
Mae pethau llawer yn well nawr. Dwi’n mynd i foreau coffi dairgwaith yr wythnos, a nosweithiau ffilm bob nos Iau. Nid ffrindiau’n unig sydd gennyf fi ond ffrind gorau. Dwi’n mynd i’w fflat bob wythnos am joch o chwisgi. Pryd dwi’n mynd i’r ysbyty mae’r gofalwyr dal yn dod i fwydo Cassie. Mae un ohonon nhw hyd yn oed yn chwarae gyda hi fel nad yw hi’n diflasu. Mae hyn yn meddwl y gallwn i wella heb boeni.
Dwi hyd yn oed yn rhan o’r pwyllgor yn y ganolfan. Mae fy nghefndir o fod yn ymgynghorydd lleol yn meddwl fy mod i’n nabod yr ardal yn dda iawn, ac dwi’n dda o ran trefnu pethau. Dwi wedi cael fy llais nôl, ac mae’n deimlad da.