00:00:00,720 --> 00:00:02,200
Helo, Michael West ydw i.
2
00:00:02,200 --> 00:00:05,520
Dw i'n Uwch Gymrawd Gwadd yn
The King's Fund yn Llundain...
3
00:00:05,720 --> 00:00:10,680
..ac yn Athro Seicoleg Sefydliadol
ym Mhrifysgol Caerhirfryn.
4
00:00:10,960 --> 00:00:13,640
Dw i eisiau rhannu ychydig
o syniadau gyda chi...
5
00:00:13,840 --> 00:00:17,640
..ynghylch pwysigrwydd arwain
yn dosturiol mewn argyfwng.
6
00:00:18,240 --> 00:00:21,440
Rydyn ni wedi dysgu llawer
dros y misoedd diwethaf...
7
00:00:21,640 --> 00:00:27,200
..wrth ymdopi â phandemig ofnadwy
ledled y byd.
8
00:00:28,400 --> 00:00:30,320
Mae wedi bod yn bwysig iawn...
9
00:00:30,520 --> 00:00:33,400
..mewn cyfnod o ofn,
ansicrwydd a phryder...
10
00:00:33,600 --> 00:00:36,520
..bod pobl yn gallu cael
y teimlad o fod yn ddiogel...
11
00:00:36,720 --> 00:00:39,680
..a ddaw pan fo arweinwyr
yn ymddwyn yn dosturiol.
12
00:00:39,880 --> 00:00:42,440
Maen nhw'n gwneud hyn
drwy dalu sylw iddyn nhw...
13
00:00:42,640 --> 00:00:45,200
..gan geisio deall yr heriau
sy'n eu hwynebu...
14
00:00:45,400 --> 00:00:47,880
..dangos empathi tuag atyn nhw
a'u helpu nhw.
15
00:00:48,320 --> 00:00:51,960
Cael gwared â rhwystrau sy'n
eu hatal rhag gwneud eu swyddi...
16
00:00:52,160 --> 00:00:55,400
..neu sicrhau bod yr adnoddau
angenrheidiol ganddyn nhw.
17
00:00:55,600 --> 00:00:58,560
Yn ystod cyfnod anodd llawn newid,
rydyn ni'n gwybod...
18
00:00:58,760 --> 00:01:02,160
..mai rôl arweinwyr
yw canolbwyntio hyd yn oed mwy...
19
00:01:02,360 --> 00:01:04,840
..ar roi cefnogaeth i staff.
20
00:01:05,040 --> 00:01:07,360
Dyna sy'n eu galluogi i ymdopi...
21
00:01:07,560 --> 00:01:10,760
..a rheoli newid ac ansicrwydd
yn effeithiol.
22
00:01:11,640 --> 00:01:16,760
Mae'n hawdd iawn i arweinwyr
bron anghofio pwysigrwydd...
23
00:01:16,960 --> 00:01:22,120
..cynyddu cefnogaeth i'r rhai maent
yn eu harwain mewn cyfnod fel hyn.
24
00:01:22,320 --> 00:01:25,360
Dw i'n meddwl mai'r trydydd rheswm
pwysig iawn...
25
00:01:26,080 --> 00:01:29,960
..yw, mewn cyfnodau o ansicrwydd
ac argyfwng, ein bod ni angen...
26
00:01:30,160 --> 00:01:34,720
..cymaint o greadigrwydd,
gallu i addasu ac arloesedd...
27
00:01:34,920 --> 00:01:37,240
..ag sy'n bosibl eu cael...
28
00:01:37,440 --> 00:01:41,120
..gan y staff yn ein timau
a sefydliadau gofal cymdeithasol.
29
00:01:41,320 --> 00:01:45,800
Maen nhw ymysg y bobl mwyaf galluog
a chryf eu cymhelliad...
30
00:01:46,000 --> 00:01:48,320
..o blith holl weithlu Cymru.
31
00:01:48,520 --> 00:01:50,800
Felly, drwy eu rheoli
nhw'n dosturiol...
32
00:01:51,000 --> 00:01:54,800
..drwy wrando, deall,
dangos empathi a helpu...
33
00:01:55,000 --> 00:01:58,720
..rydyn ni'n rhyddhau'r arloesedd
a'r creadigrwydd hwnnw.
34
00:01:58,920 --> 00:02:03,360
Mae hyn yn ein galluogi ni i addasu
i gyfnodau o argyfwng a newid.
35
00:02:03,560 --> 00:02:06,160
Mae hefyd yn fater
o ganolbwyntio'n dosturiol...
36
00:02:06,360 --> 00:02:09,640
..ar anghenion craidd y rhai
rydyn ni'n eu harwain yn y gwaith.
37
00:02:09,840 --> 00:02:12,920
Yn enwedig
yn ystod cyfnodau o argyfwng.
38
00:02:13,280 --> 00:02:18,120
Ein tri angen craidd sef yr angen
am annibyniaeth a rheolaeth...
39
00:02:18,320 --> 00:02:21,200
..a'r angen am deimlad o berthyn.
40
00:02:21,400 --> 00:02:24,880
Rydyn ni'n teimlo gofal,
gwerthfawrogiad a pharch...
41
00:02:25,080 --> 00:02:27,760
..gan ein harweinwyr, ein timau,
ein sefydliadau.
42
00:02:27,960 --> 00:02:30,480
A'r angen am deimlad o gymhwysedd...
43
00:02:30,680 --> 00:02:34,120
..ein bod yn gwneud gwahaniaeth
cadarnhaol drwy ein gwaith.
44
00:02:34,320 --> 00:02:37,840
Pan fo arweinwyr tosturiol,
mewn cyfnodau o argyfwng...
45
00:02:38,040 --> 00:02:41,600
..yn canolbwyntio ar angen pobl
am annibyniaeth a rheolaeth...
46
00:02:41,800 --> 00:02:45,200
..fel nad ydyn nhw'n ddioddefwyr
system gorchymyn a rheoli...
47
00:02:45,400 --> 00:02:47,560
..rydyn ni'n rhyddhau eu harloesedd.
48
00:02:47,760 --> 00:02:50,080
Mae yna dueddiad dealladwy...
49
00:02:50,280 --> 00:02:54,520
..i arweinwyr mewn argyfwng
droi at ddull gorchymyn a rheoli...
50
00:02:54,880 --> 00:02:56,667
..ac mae hyn yn rhwystro arloesedd a gallu i addasu.
51
00:02:57,760 --> 00:03:02,960
Ac yn ail, mae'n sicrhau ein bod yn
annog y teimlad hwnnw o berthyn...
52
00:03:03,160 --> 00:03:05,400
..drwy atgyfnerthu
gweithio mewn tîm...
53
00:03:05,600 --> 00:03:08,600
..a sicrhau bod pawb yn gweithio
mewn tîm cefnogol...
54
00:03:08,800 --> 00:03:12,680
..sydd â nodau clir ac sy'n cyfarfod
yn rheolaidd i adolygu perfformiad.
55
00:03:12,880 --> 00:03:16,160
Oherwydd dyna sy'n amddiffyn
lles staff...
56
00:03:16,360 --> 00:03:20,000
..ac sydd hefyd yn gysylltiedig
ag arloesedd a'r gallu i addasu.
57
00:03:20,200 --> 00:03:22,880
Yn drydydd, mae'n rhaid sicrhau...
58
00:03:23,080 --> 00:03:27,520
..ein bod yn hybu
teimlad pobl o gymhwysedd...
59
00:03:27,720 --> 00:03:30,400
.drwy sicrhau
nad ydyn nhw'n cael eu llethu...
60
00:03:30,600 --> 00:03:32,720
..gan bwysau gwaith gormodol
di-baid.
61
00:03:33,320 --> 00:03:37,560
Mae arweinyddiaeth dosturiol dda
mewn cyfnod o argyfwng...
62
00:03:37,760 --> 00:03:42,320
..yn fater o ganolbwyntio'n barhaus
ar waith a gorlwytho gwaith...
63
00:03:42,520 --> 00:03:45,240
..i sicrhau ein bod yn cefnogi
ac yn gofalu am...
64
00:03:45,440 --> 00:03:47,040
..y rhai rydyn ni'n eu harwain.
65
00:03:47,240 --> 00:03:50,960
Mae'n fater o fod yn ddigon dewr
i gymryd amser yn rheolaidd...
66
00:03:51,160 --> 00:03:55,000
..fel timau ac arweinwyr, i fyfyrio
ar sut ry'n ni'n ymdopi ac addasu...
67
00:03:55,200 --> 00:03:58,680
..beth rydyn ni'n trio ei gyflawni,
sut rydyn ni'n gwneud hynny...
68
00:03:58,880 --> 00:04:00,480
..a beth sydd angen i ni newid.
69
00:04:00,680 --> 00:04:04,240
Oherwydd mae'r holl dystiolaeth
ymchwil sydd gennym yn dweud...
70
00:04:04,440 --> 00:04:06,960
..mewn lleoliadau
gofal cymdeithasol...
71
00:04:07,160 --> 00:04:10,680
..ei bod yn hollbwysig cael amser
i fyfyrio ac adolygu...
72
00:04:10,880 --> 00:04:14,760
..fel unigolion gyda rheolwyr,
cael goruchwyliaeth fel timau...
73
00:04:14,960 --> 00:04:17,040
..a chael amser
i fyfyrio ac adolygu...
74
00:04:17,240 --> 00:04:20,400
..ac fel sefydliadau
sy'n delio ag argyfwng...
75
00:04:20,600 --> 00:04:23,840
..er mwyn bod yn effeithiol,
arloesol a chynhyrchiol.
76
00:04:24,040 --> 00:04:27,600
Dyna sut y mae modd gweithio'n fwyaf
effeithiol mewn argyfwng...
77
00:04:27,800 --> 00:04:31,320
..dros y bobl a'r cymunedau rydyn
ni'n eu gwasanaethu yng Nghymru.
78
00:04:31,520 --> 00:04:32,720
Diolch yn fawr.