0:00
Mae'r fideo hwn yn disgrifio rhaglen hyfforddi y gellir ei darparu yn ystod un diwrnod neu mewn dwy sesiwn hyfforddi ar wahân.
0:09
Bydd sefydliadau'n gallu ei ddefnyddio mewn nifer o wahanol ffyrdd gyda'r bwriad o roi arweiniad ar ansawdd mewn lleoliadau a reoleiddir,
0:19
felly mae modd ei ddefnyddio gan unigolion cyfrifol sydd wedi'u penodi'n rheolwyr.
0:25
Mae'r rhan gyntaf hefyd yn sesiwn sy'n berthnasol iawn i'w dilyn gan staff.
0:31
Mae'r adnodd hwn yn addas i'w ddefnyddio mewn nifer o wahanol ffyrdd, os byddwch yn dymuno, yn ôl anghenion y sefydliad.
0:39
Mae'n ymdrin ag ansawdd mewn lleoliadau a reoleiddir gan roi pwyslais mawr ar ymgorffori ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau.
0:51
Ond wrth drafod ansawdd, rydym yn edrych ar hynny drwy lygaid yr unigolyn sy'n derbyn cymorth.
0:58
Gair bach yw ansawdd sydd ag ystyr eang iawn am ei fod yn cwmpasu elfennau meintiol yn y rhwystrau, gwrthbwysau,
1:07
prosesau a gweithdrefnau sydd angen eu rhoi ar waith.
1:12
Rhoddir sylw hefyd i'r elfen ansoddol yn y lleoliadau, sy'n ymwneud â phrofiad bywyd pob dydd yr unigolyn
1:21
a sut rydym yn sicrhau, ym mhob gwasanaeth y mae'n ei dderbyn, a beth bynnag yw'r rheswm dros dderbyn y gwasanaeth hwnnw,
1:30
y byddwn yn hyrwyddo profiad bywyd cadarnhaol ar gyfer yr unigolyn i'r graddau mwyaf posibl.
1:40
Mae'r sesiynau wedi'u rhannu'n nifer o wahanol rannau. Mae rhan gyntaf y sesiwn yn ymwneud â'r cyd-destun deddfwriaethol,
1:50
dechrau meddwl am beth sydd ei angen yn nhermau ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn,
1:56
a'r elfen gyffredin wrth drafod pob dim fydd y sylw i ymarfer seiliedig ar gryfderau.
2:04
O ran y cyd-destun deddfwriaethol, byddwn yn canolbwyntio'n bennaf ar y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
2:14
a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), y byddaf yn ei galw'n RISCA o hyn ymlaen.
2:23
Mae'n bwysig nodi, gan eich bod mewn lleoliad a reoleiddir, y byddwch yn gweithio'n unol â gofynion RISCA, ond bydd yn bwysig ac yn gymorth
2:33
i chi ddeall cyd-destun y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
2:39
a'r ffordd y mae'n gosod y sylfaen i'r gofynion yn RISCA. Felly bydd y sesiwn hon yn rhoi mewnwelediad i'r ddwy ddeddf hyn
2:51
a lle mae'r cysylltiadau rhyngddynt a lle maent yn ategu ei gilydd.
2:59
Mae strwythur y sesiwn wedi'i seilio ar yr angen i egluro'r cyd-destun deddfwriaethol
3:06
a deall beth yw ein rolau a'n cyfrifoldebau ond, wrth wneud hynny, canolbwyntio ar ddiffinio ansawdd drwy lygaid yr unigolyn,
3:17
ei gysylltu â'r cyd-destun deddfwriaethol, gan feddwl drwy'r amser am le'r unigolyn yng nghanol y gweithgarwch rydym yn ei gyflawni.
3:28
Byddwn yn rhoi rhywfaint o sylw i'r ffordd y byddwn yn gweithio gyda phobl mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau.
3:39
Os yw'r adnodd yn cael ei ddefnyddio gyda grŵp, yna byddai'r awgrymiadau canlynol ar y sleid
3:46
yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn o ran sicrhau cyfrinachedd yn yr amgylchedd dysgu hwnnw.
3:53
Mwyaf yn y byd y byddwch yn gallu cyfeirio at eich profiadau o weithio gydag unigolion mewn lleoliadau a reoleiddir, mwyaf perthnasol fydd yr hyfforddiant.
4:05
Ond mae'n bwysig iawn, os ydych yn hwyluso'r sesiwn hon mewn grŵp,
4:10
na fyddwch yn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol am yr unigolion rydych yn sôn amdanynt.
4:17
Bydd yn ddefnyddiol iawn i chi dynnu ar y profiadau bywyd go iawn hynny sydd gan staff a rheolwyr ac arweinwyr.
4:28
Y cyd-destun deddfwriaethol...
4:38
O ran y cyd-destun deddfwriaethol, dechrau'r daith oedd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
4:45
a gafodd ei phasio yn 2014 ac a gafodd ei rhoi ar waith yn 2016.
4:53
Roedd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi cael ei gweld yn drobwynt o ran darparu gofal cymdeithasol
5:02
a'r ffordd y mae asiantaethau partneriaid yn dod ynghyd i hyrwyddo llesiant dinasyddion Cymru.
5:10
Mae nifer o elfennau craidd yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant,
5:15
a'r rhai pwysicaf yw'r rheini sydd ar y sgrin nawr sy'n berthnasol iawn o ran rolau a chyfrifoldebau a'r pwyslais ar gyfer darparwyr a reoleiddir.
5:27
Fel y gallwch weld, mae enw'r Ddeddf yn dangos bod pwyslais mawr ar ein rôl wrth wella llesiant
5:35
a byddwn yn sôn am hynny ymhen ychydig. Yn gysylltiedig â beth rydych yn ei weld am hyrwyddo a gwella llesiant
5:44
mae pwyslais mawr ar ymyrryd yn gynnar ac atal a gallwn feddwl am ymyrryd yn gynnar ac atal mewn nifer o ffyrdd.
5:53
Mae'n golygu ein bod am gynorthwyo pobl yn eu cartrefi eu hunain, yn eu cymunedau eu hunain,
6:00
i'r graddau mwyaf posibl ac am y cyfnod hiraf posibl. Rydym am atal y cynnydd mewn anghenion am ofal a chymorth,
6:09
am atal unrhyw risg sy'n gysylltiedig â'r unigolyn hwnnw rhag cynyddu.
6:15
Ond bydd adegau o bosibl pan fydd angen gofal a chymorth dros dro ar yr unigolyn.
6:23
Gallai dreulio cyfnod mewn lleoliad maeth neu mewn lleoliad gofal preswyl.
6:28
Gallai fod ag angen cael rhywfaint o ofal yn ei gartref gan wasanaethau cymorth cartref
6:34
am gyfnod byr wrth adsefydlu, tra bydd yn gwella, tra bydd yn gweithio ar agweddau o'i lesiant a'i anghenion am ofal a chymorth,
6:43
risgiau sydd wedi'u dynodi yn achos yr unigolyn hwnnw.
6:49
Ond os mai'r bwriad yw i hynny fod yn drefniant dros dro, dylem roi sylw drwy'r amser i'r ffordd rydym yn datblygu ei annibyniaeth,
6:58
sut byddwn yn cryfhau'r unigolyn er mwyn iddo ddychwelyd i'w gartref ei hun,
7:04
os mai hynny yw'r canlyniad arfaethedig. Ond ar yr un pryd, bydd gennym unigolion hefyd, oherwydd eu hanghenion,
7:13
oherwydd unrhyw risgiau a nodwyd, oherwydd eu canlyniadau a beth sy'n bwysig iddynt,
7:20
a fydd ag angen gofal a chymorth am gyfnod hirach, os nad am byth.
7:25
Law yn llaw â'r Ddeddf, daeth y gofynion newydd o ran gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy.
7:32
Mae hyn wedi'i weld mewn rhai mannau fel gwasanaeth, ac yn cael ei ddangos yn aml mewn pethau fel pwyntiau mynediad sengl neu byrth cyswllt, er enghraifft.
7:44
Mewn ardaloedd eraill, maent yn gweld gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy yn ddull o weithredu
7:51
yn hytrach na gwasanaeth fel y cyfryw. Ond mae hyn yn berthnasol iawn i'r pwyntiau blaenorol am wella llesiant
8:00
a chryfhau mesurau ymyrryd cynnar ac atal. Sut byddwn yn paratoi unigolion i allu cael at adnoddau eu hunain,
8:08
eu rheoli eu hunain, cael mynediad eu hunain at gymorth sydd ar gael yn y gymuned,
8:14
neu i newid eu sefyllfa drostynt eu hunain? A rhaid i ni gofio nad yw'r cynnig o wybodaeth, cyngor a chynhorthwy
8:23
yn rhywbeth sydd ar gael dim ond i'r rheini sydd ag anghenion gofal a chymorth:
8:28
dylai fod ar gael hefyd i ymarferwyr sy'n cynorthwyo unigolion.
8:33
Law yn llaw â'r Ddeddf, daeth dull newydd o asesu, dull newydd o ystyried cymhwystra
8:40
a dull newydd o ystyried sut i gwrdd ag anghenion unigolion am ofal a chymorth.
8:46
Byddwn yn edrych ar y dulliau o asesu a chynllunio gofal a chymorth maes o law.
8:52
Ond dyma lle mae'r ddwy ddeddf yn dod at ei gilydd oherwydd bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn cael atgyfeiriadau gan wasanaethau gofal cymdeithasol
9:02
ac felly byddant yn etifeddu'r cynllun gofal a chymorth sydd wedi'i ddatblygu ar gyfer yr unigolyn.
9:10
Felly o safbwynt y darparwr, mae'r cynllun gofal a chymorth a ddatblygwyd gan wasanaethau gofal cymdeithasol
9:17
yn darparu'r wybodaeth y bydd arnoch ei hangen i allu datblygu'r cynllun personol sy'n ofynnol o dan RISCA
9:25
i bennu sut byddwch wedyn yn cwrdd ag anghenion gofal a chymorth yr unigolyn.
9:31
Ac mae'n bwysig cofio, os yw unigolyn yn cael cymorth gan ddarparwr am ei fod wedi'i gomisiynu gan yr awdurdod lleol i ddarparu hynny,
9:40
fod yr awdurdod lleol yn cadw'r cyfrifoldeb dros sicrhau bod anghenion gofal a chymorth yr unigolyn yn cael eu diwallu'n briodol.
9:51
Mae sylw mawr yn cael ei roi i ddiogelu yn y Ddeddf ac mae gweithdrefnau diogelu Cymru wedi'u dyroddi o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant,
10:03
ac mae'n bwysig iawn bod darparwyr yn sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o gynnwys y gweithdrefnau,
10:09
y rolau a'r cyfrifoldebau a'r dyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r gweithdrefnau hynny.
10:16
Ond yn ogystal â hynny, mae angen deall yr ethos a'r diwylliant sy'n sail i'r dull o gyflawni'r gweithdrefnau diogelu hynny.
10:26
Mae eiriolaeth yn elfen bwysig a chanolog yn y Ddeddf. Mae cyfeiriad ati mewn rhan benodol o'r Ddeddf,
10:34
ond mae cyfeiriadau ati hefyd mewn nifer o rannau eraill o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
10:42
ac mae nifer o wahanol agweddau ar eiriolaeth. Gellir ei darparu mewn nifer o wahanol ffyrdd, drwy hunaneirioli, eirioli gan y teulu a ffrindiau,
10:52
a hefyd drwy wasanaethau eirioli proffesiynol annibynnol. Y peth pwysig i'w gofio yw'r egwyddor dros ystyried darparu cymorth eirioli i unigolion,
11:02
sef sicrhau bod yr unigolyn yn llawn ddeall y broses, yn llawn ddeall y wybodaeth sy'n cael ei rhannu ag ef,
11:10
a'i fod yn gallu cofio'r wybodaeth yn ddigon hir i ddeall beth sy'n gysylltiedig â derbyn y wybodaeth honno,
11:18
y trafodaethau sy'n digwydd, y penderfyniadau a allai gael eu gwneud. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn gallu gweld
11:25
bod yr unigolyn rydym yn ei gynorthwyo yn gallu pwyso a mesur y wybodaeth a gaiff ei darparu
11:31
er mwyn dewis a phenderfynu ar sail gwybodaeth ac, yn olaf, ei fod yn gallu cyfleu barn, dymuniadau a phenderfyniadau.
11:40
Os byddwn yn gweld nad yw'r unigolyn yn gallu goresgyn unrhyw un o'r rhwystrau hynny,
11:45
dyna pryd mae angen i ni ystyried a oes angen darparu cymorth eirioli i'r unigolyn hwnnw.
11:51
Ac yn olaf, mae pwyslais mawr ar gydweithredu a phartneriaeth ar y lefel weithredol a'r lefel strategol.
11:59
Fel darparwyr, mae angen i ni ystyried pwy yw'r gwahanol asiantaethau rydym yn cydweithio â nhw
12:05
er mwyn cwrdd ag anghenion gofal a chymorth yr unigolyn ar lefel strategol a gweithredol.
12:12
Bydd yr awdurdod lleol a'r asiantaethau sy'n bartneriaid iddo yn edrych drwy'r amser ar beth mae llesiant yn ei olygu i unigolion ledled Cymru
12:22
ac o fewn ffiniau'r byrddau iechyd, ac wedyn yn ystyried i ba raddau y mae llesiant unigolion wedi'i wireddu.
12:30
A byddant yn gwneud penderfyniadau ynghylch argaeledd gwasanaethau, y gwasanaethau sydd angen eu comisiynu, eu datblygu a'u datgomisiynu
12:39
ond yn sicrhau drwy'r amser ein bod mewn lle i allu cwrdd ag anghenion unigolion yng Nghymru
12:45
o ran llesiant a gofal a chymorth. Roedd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru
12:52
wedi dod i rym flwyddyn ar ôl y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ac mae'r ddeddf hon hefyd yn rhoi pwys mawr ar wella llesiant unigolion
13:02
drwy'r rheoliadau a'r canllawiau statudol. Byddwch yn gweld cyfeiriad at rôl y darparwr o ran hyrwyddo a gwella llesiant.
13:09
Mae'r diffiniad o lesiant yr unigolyn i'w gael yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant,
13:16
a dyma lle rydym yn dechrau gweld rhai o'r cysylltiadau â RISCA a byddwn yn edrych wedyn ar y diffiniad o lesiant.
13:23
Mae RISCA yn rhoi mwy o bwys ar sicrhau llais cryfach i unigolion yn y trafodaethau sy'n digwydd ar eu sefyllfa,
13:31
penderfyniadau sydd angen eu gwneud, datblygu ac adolygu'r cynlluniau gyda'r unigolyn:
13:38
mae hyn yn golygu mwy na chael sgwrs gyda'r unigolyn, ac mae'r egwyddor cydgynhyrchu yn gadarn iawn mewn perthynas ag asesu unigolion,
13:47
sef bod unrhyw gynlluniau personol i gael eu datblygu gyda'r unigolyn yn hytrach na'u hysgrifennu ar ei ran.
13:54
Mae pwyslais mawr ar gryfhau'r amddiffyniad i unigolion, nid yn unig mewn cysylltiad â gweithdrefnau diogelu,
14:02
ond yr angen sicrhau ein bod yn ystyried pob agwedd ar lesiant yr unigolyn,
14:07
sicrhau ein bod yn ymateb i'r cwmnïau sy'n cael eu dwyn i sylw'r unigolyn ac ar ei gyfer,
14:14
ac ystyried sut rydym yn rheoli unrhyw risgiau a nodwyd. Ond mae'r risgiau hynny i gael eu rheoli mewn ffordd gadarnhaol
14:22
yn hytrach na hyrwyddo diwylliant lle mae tuedd i osgoi risg. Ceir pwyslais mawr hefyd ar gynyddu atebolrwydd, er enghraifft drwy gyflwyno rôl yr unigolyn cyfrifol.
14:34
Yn nhermau cynyddu atebolrwydd, mae hyn yn cynnwys nid yn unig y pwyslais ar rôl yr unigolyn cyfrifol,
14:42
ond hefyd yr angen i ystyried sut bydd darparwyr yn sicrhau bod ansawdd eu darpariaeth yn cyrraedd y safon sy'n ofynnol
14:51
a byddwn yn edrych ar agweddau ar hynny yn ystod y sesiwn. Gyda golwg ar lesiant, mae dau ddiffiniad ohono yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
15:02
sydd, fel y nodwyd yn gynharach, yn cysylltu â RISCA. Mae diffiniad o lesiant ar gyfer oedolion ac mae diffiniad o lesiant ar gyfer plant.
15:12
Ac ar y sgrin ar y funud byddwch yn gweld y diffiniad o lesiant ar gyfer oedolion.
15:18
Mae'r cod ymarfer o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn tynnu sylw at y ddyletswydd i hyrwyddo llesiant
15:26
ac mae'n bwysig nodi nad yw hyrwyddo llesiant bob amser yn golygu bod rhaid i ni ddarparu gwasanaeth neu ymyriad
15:34
neu ddarparu ymarferydd neu weithiwr proffesiynol dynodedig.
15:40
Yn achos rhai pobl, bydd sgwrsio â rhywun am y math o ddiwrnod a gafodd yn ffordd i hyrwyddo ei lesiant.
15:47
Ond mae'r sbectrwm o anghenion a'r sbectrwm o ffyrdd i hyrwyddo llesiant yr unigolyn
15:53
yn gallu amrywio ar y naill law o'r sgwrs am y math o ddiwrnod a gafodd,
15:58
sut mae'n teimlo, a yw'n credu bod arno angen unrhyw gymorth, hyd at gynnal asesiad gan wasanaethau gofal cymdeithasol,
16:06
atgyfeirio i'r darparwr er mwyn darparu cymorth a gwasanaethau, gorfod cwblhau adroddiad risg ar gyfer oedolyn
16:15
oherwydd pryderon bod yr unigolyn yn wynebu neu'n profi risg o gam-drin neu esgeuluso.
16:20
Mae'n bwysig iawn cydnabod bod llesiant yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl ar adegau gwahanol.
16:27
Ac er y dylem sicrhau ein bod yn edrych ar lesiant oedolion mewn ffordd gyfannol,
16:32
ni ddylem fynnu ein bod yn rhoi sylw i bob un o'r cylchoedd a chasglu gwybodaeth ar gyfer pob un ohonynt
16:39
oherwydd ni fyddant i gyd yn berthnasol neu'n ystyrlon neu'n bwysig i'r unigolyn ym mhob achos.
16:45
Weithiau byddwn yn defnyddio term cyffredinol. Ond y cwestiwn pwysig yw, os ydym o ddifrif am weithredu
16:53
mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn perthynas â'r plentyn neu'r oedolyn,
16:59
a oes angen wedyn i ni dreiddio ymhellach er mwyn deall beth yw union ystyr y term cyffredinol hwnnw i'r unigolyn?
17:06
Wrth ymarfer, un o'r cwestiynau allweddol i'w ofyn gan bawb yw 'felly beth...'? Er enghraifft, byddwn yn aml yn clywed mai beth sy'n wirioneddol bwysig i Mrs Jones
17:16
yw bod ei hannibyniaeth yn cael ei hyrwyddo neu ei chynnal. Bydd gan bawb farn wahanol am beth mae annibyniaeth yn ei golygu i Mrs Jones
17:24
a beth sy'n digwydd wrth ddefnyddio term cyffredinol fel hwnnw yw y byddwn ni'n aml yn syrthio i'r fagl o ffurfio rhagdybiaethau
17:33
os ydym yn credu ein bod yn gwybod beth mae hynny'n ei olygu heb ofyn y cwestiwn 'felly beth...'.
17:39
Wrth dreiddio ymhellach byddwn yn gofyn "felly beth…mae annibyniaeth yn ei golygu i Mrs Jones?
17:45
Sut mae hi'n gweld annibyniaeth? Sut bydd hi'n teimlo os bydd yr agweddau ar ei hannibyniaeth y mae'n eu nodi yn cael eu hyrwyddo?"
17:52
Un enghraifft arall o dermau cyffredinol sy'n cael eu defnyddio yw 'Mae Mr Smith ag angen cymorth gyda'i ofal personol'.
18:01
Ond beth yw gofal personol? Mae gofal personol yn gallu golygu rhywbeth gwahanol i bob unigolyn.
18:08
Rhaid i ni ofyn y cwestiwn 'felly beth?' er mwyn cael gwybod beth yw'r anghenion gofal personol sy'n bwysig i'r unigolyn hwnnw.
18:17
Bydd anghenion gofal personol yn cael eu dynodi gan yr ymarferydd ac aelodau o'r teulu,
18:23
ond a ydynt yr un fath â beth fyddai'r unigolyn yn ei ddweud. Po bellaf y byddaf yn treiddio, mwyaf fydd fy ngallu i deilwra'r cymorth ar gyfer yr unigolyn.
18:33
Ar y sgrin nawr, gallwch weld y diffiniad o lesiant ar gyfer plant. Mae'n debyg iawn i'r diffiniad o lesiant ar gyfer oedolion
18:42
gan ei fod yn dechrau gyda llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol ac yn mynd yn glocwedd nes cyrraedd addasrwydd llety byw.
18:51
Y ddwy agwedd olaf yw'r rheini sy'n wahanol i'r diffiniad o lesiant ar gyfer oedolion
18:57
gan fod dyletswydd arnom o hyd i hyrwyddo lles a datblygiad plant o dan Ddeddf Plant 1989.
19:05
Un o'r pethau i'w ystyried yw'r angen i geisio rhoi'r gorau i'r defnydd o dermau cyffredinol wrth siarad am unigolion,
19:13
boed hynny mewn trafodaethau neu asesiadau. Rydym yn tueddu i syrthio i'r fagl o ddefnyddio llawer jargon generig.
19:22
Rhai o'r dywediadau cyffredinol y byddwn yn eu clywed am blant yw "er mwyn i'r unigolyn gael ei gadw'n ddiogel, er mwyn i'r plentyn fod yn hapus."
19:34
Mae'r hyn sy'n gwneud plant yn hapus yn amrywio rhwng y naill blentyn a'r llall.
19:39
Felly gofynnwch y cwestiwn 'felly beth?'. Felly beth sy'n gwneud y plentyn hwn yn hapus?
19:45
Sut bydd y plentyn hwn yn teimlo pan fydd y pethau hynny'n digwydd?
19:52
Un gweithgarwch y gallech ei wneud ar eich pen eich hun neu mewn grŵp yw meddwl beth mae llesiant yn ei olygu i chi fel unigolyn.
20:02
Yn gyntaf oll, meddyliwch am y geiriau y byddech yn eu defnyddio i ddisgrifio llesiant.
20:08
Gallech wneud nodyn ohonynt neu ofyn i rywun arall wneud hynny. Wedyn cymerwch gam yn ôl a gofyn i chi'ch hun/eich gilydd,
20:17
beth mae'n ei olygu go iawn, heb ddefnyddio jargon generig? Ydych chi wedi defnyddio geiriau y byddwn yn eu defnyddio'n gyffredinol wrth ymarfer,
20:27
neu ydych chi wedi disgrifio beth sy'n bwysig i chi go iawn? Felly os ydych yn gwneud y gweithgarwch hwn mewn grŵp a rhywun,
20:35
er enghraifft, yn dweud beth sy'n bwysig i mi, beth mae llesiant yn ei olygu i mi, yw 'iechyd corfforol da',
20:43
bydd gweddill y grŵp yn cael eu hannog i ofyn y cwestiynau 'felly beth?' -
20:48
'Felly beth mae iechyd corfforol yn ei olygu i chi? Sut rydych chi'n gweld hynny?
20:53
Sut mae'n gwneud i chi deimlo?' Heriwch eich hun neu heriwch eich gilydd drwy ofyn y cwestiwn, 'felly beth?'
21:03
er mwyn gallu treiddio'n ddyfnach a meddwl beth mae hyn yn ei olygu.
21:08
Mae bron yr un peth â gofyn beth sy'n eich gwneud yn unigryw, beth sy'n eich gwneud yn unigolyn,
21:16
sut mae'ch meddwl yn gweithio, beth sy'n gwneud i chi wenu o gymharu â beth sy'n gwneud i bawb arall wenu.
21:24
Mae'n amser am egwyl byr nawr. Felly rydym wedi ystyried pa fath o beth yw llesiant a beth mae'n ei olygu,
21:33
ond mae hefyd yn bwysig i ni ystyried yr egwyddorion sydd yn y ddwy ddeddf hyn
21:39
sydd, yn y bôn, yn sail i'r ymarfer a'r dull o weithredu y dylem eu defnyddio i gynorthwyo unigolion.
21:48
Beth sydd ar y sgrin yw'r egwyddorion craidd, ond byddai'n well gen i eu galw'n sylfeini ar gyfer ymarfer.
21:56
Rhaid i ni gofio bod y rhain weithiau'n gallu troi'n flychau ticio ar ffurflenni.
22:02
Dyma'r termau sy'n cael eu defnyddio drwy'r amser, ond pan fyddwn yn camu'n ôl,
22:08
a fyddwn yn manteisio ar y cyfle i ddisgrifio beth mae hyn yn ei olygu wrth ymarfer?
22:14
A fyddwn yn disgrifio beth mae'n ei olygu drwy lygaid yr unigolyn? A fyddwn yn disgrifio beth mae'n ei olygu drwy lygaid yr aelod staff, er enghraifft?
22:25
Mae'n bwysig iawn ein bod yn gallu cymryd pob un o'r egwyddorion hyn a'u trosi i beth maent yn ei olygu wrth ymarfer.
22:33
Felly os ydych yn gyfrifol am arwain ar ansawdd yn eich sefydliad, er enghraifft,
22:39
gallech fod am ystyried y rhain fel rhyw ffordd i fesur ansawdd,
22:44
nid mewn ystyr biwrocrataidd, ond yn fwy yn nhermau'r ffaith bod y rhain yn agweddau ar ansawdd ein dull o gynorthwyo unigolion.
22:54
Felly cymerwn bob un yn ei dro a gofyn beth mae'n ei olygu. Gadewch i ni gymryd dewis a rheolaeth yn gyntaf.
23:04
Byddaf am glywed beth yw syniadau, barn, dymuniadau a phrofiadau'r unigolyn gymaint â phosibl.
23:11
Rydym am allu hyrwyddo dewis a rheolaeth. Nid yw hyn yn bosibl bob tro,
23:18
ond nid yw hynny'n golygu na ddylem wneud ymdrech i'w gyflawni. Bydd achosion lle nad yw unigolion yn gallu rhannu eu llais mewn geiriau.
23:28
Ac rydw i'n meddwl ei bod yn hanfodol i ni newid y pwyslais wrth feddwl pam mae hyn yn bwysig oherwydd beth rydym am ei wneud wrth hyrwyddo llais,
23:40
dewis a rheolaeth yw cael dealltwriaeth o ba fath o fywyd sydd gan yr unigolyn.
23:47
Sut mae'n teimlo? Sut mae am fyw ei fywyd? Os yw'r unigolyn yn gallu cyfleu hyn yn eiriol, gorau oll.
23:56
Ond gellir cael adegau pan fyddwn yn dibynnu ar bobl eraill er mwyn gallu rhannu'r mewnwelediadau hynny,
24:05
rhai fel brodyr a chwiorydd, rhieni, neiniau a theidiau, gofalwyr, cymdogion, ffrindiau, ac efallai ymarferwyr eraill.
24:15
Ond beth sy'n bwysig, wrth dynnu ar ein harsylwadau o'r unigolyn, wrth dynnu ar y mewnbwn gan unigolion eraill,
24:23
yw ein bod yn sicrhau ein bod yn meddwl am yr unigolyn drwy'r amser
24:28
yn hytrach na beth mae pobl eraill yn ei ddweud am eu teimladau eu hunain.
24:33
Er enghriafft, gallent deimlo'n euog am nad ydynt yn gallu cynorthwyo'r unigolyn fel y byddent yn dymuno;
24:41
gallent ddweud beth maen nhw'n meddwl sydd ei angen ar yr unigolyn. Felly lle rydym yn tynnu ar arsylwadau am ymddygiad, terminoleg, iaith, iaith y corff, er enghraifft,
24:53
mae'r arsylwadau hynny yr un mor bwysig â'r geiriau y mae rhywun yn eu cyfleu i ni
25:00
wrth i ni dynnu ar y mewnbwn gan bobl eraill. A'r mewnwelediad hwnnw i fywyd yr unigolyn:
25:08
rhaid i ni sicrhau eu bod yn siarad am yr unigolyn ei hun.
25:13
Gyda golwg ar gydgynhyrchu, mae hynny'n cael ei ddisgrifio'n aml drwy ddweud, "rydym yn gweithio mewn partneriaeth â phobl"
25:23
ond mae cydgynhyrchu'n ymwneud mewn gwirionedd â cheisio lleihau'r anghydbwysedd grym
25:30
a geir weithiau rhwng ymarferwyr ac unigolion. Ac os ystyriwch beth yw ein rôl ni,
25:37
ein rôl ni yw deall pa fath o fywyd sydd gan yr unigolyn er mwyn nodi a oes ganddo unrhyw anghenion am ofal a chymorth,
25:47
beth yw ei ganlyniadau arfaethedig, beth sy'n bwysig iddo, a pha risgiau sydd wedi'u nodi yn achos yr unigolyn hwnnw.
25:57
Wedyn, o ran y ffordd y mae hynny'n trosi i ymarfer, mae fel pe bawn yn ysgrifennu asesiad:
26:04
dylwn weld tystiolaeth ym mhob dim fod yr asesiad yn fath o sgwrs rhwng dau.
26:10
Dylid datblygu'r cynllun personol gyda'r unigolyn neu ei gynrychiolydd.
26:16
Nid yw'n fater o ddweud ein bod wedi cael sgwrs fach braf â chi ac felly y byddwn yn mynd ati nawr i ysgrifennu'r cynllun.
26:25
Mae'r cynllun yn ymwneud â'r ffordd y bydd yr unigolyn hwnnw'n cael ei gynorthwyo yn ei fywyd pob dydd
26:31
felly dylid galluogi'r unigolyn hwnnw i gyfrannu at ffurfio'r cynllun hwnnw i'r graddau mwyaf posibl.
26:39
Byddwn yn sôn am ddulliau seiliedig ar gryfderau yn ystod gweddill y sesiwn.
26:44
Mae hyn yn fwy na mater o ysgrifennu'r pethau da neu'r pethau neis am yr unigolyn.
26:49
Mae gwahaniaeth rhwng dweud bod blwch ar y ffurflen lle gallwn ddisgrifio cryfderau
26:56
a dweud ein bod yn mabwysiadu dull seiliedig ar gryfderau. Wrth nodi cryfderau'r plentyn neu oedolyn hwnnw,
27:05
mae'n bwysig iawn bod y cyswllt hwn yn cyrraedd y pwynt hwnnw, fel bod ystyr a phwrpas iddo.
27:12
Does dim pwynt mewn ysgrifennu mewn blwch rywle ar y ffurflen o dan y pennawd 'cryfderau'
27:18
fod Betty yn dal i allu gyrru car yn 87 oed os byddwch wedyn yn cael sgwrs gyda Betty ac yn gofyn, "Pryd wnaethoch chi yrru car ddiwethaf, Betty?"
27:27
a hithau'n ateb, "Ddim ers blwyddyn neu ddwy gan fy mod i wedi colli pob hyder a go brin y byddaf i'n gyrru car eto."
27:37
Nid enwi'r pethau sy'n gweithio'n dda i'r unigolyn y byddaf i, ond meddwl am y ffordd rydym yn defnyddio'r rheini i ddatblygu'r cynllun ar gyfer yr unigolyn.
27:47
Byddai defnyddio dull seiliedig ar gryfderau yn golygu datblygu cynlluniau personol
27:53
sy'n ategu cryfderau'r unigolyn, y pethau y mae'n gallu eu gwneud drosto'i hun,
27:59
y pethau y mae pobl eraill yn gallu ei helpu i'w gwneud. Ni ddylai'r cynllun gael ei seilio ar y pethau nad yw'r unigolyn yn gallu eu gwneud
28:08
neu'r pethau y mae arno angen help i'w gwneud. Drwy wneud defnydd da o ddull seiliedig ar gryfderau,
28:15
bydd gen i gynllun sy'n ategu ac yn adeiladu ar sail cryfderau'r unigolyn.
28:21
Wrth sôn am ganolbwyntio ar ganlyniadau, rydym yn sôn yn y bôn am beth sy'n bwysig i'r unigolyn.
28:28
Beth sy'n gwneud iddo wenu? Beth sy'n gwneud iddo deimlo'n fodlon? Beth sy'n rhoi pwrpas iddo, yn gwneud iddo deimlo ei fod yn unigryw?
28:38
Mae gwahaniaeth rhwng dweud bod rhywbeth yn bwysig iawn i mi a dweud mai dyma sydd orau gen i o ran y ffordd i ddiwallu fy anghenion.
28:47
Felly pan fydd rhywun yn dweud ei bod yn well ganddo gawod yn hytrach na bath,
28:52
dyna'r flaenoriaeth o ran y ffordd i ddiwallu'r anghenion gofal personol.
28:58
Mae hynny'n wahanol iawn i'w glywed yn dweud "Rydw i am allu eistedd yn yr ardd ac edrych ar y goeden a blannodd fy ngŵr ar ôl i ni briodi,
29:07
gan ei bod yn rhywbeth arbennig iawn i mi": mae hynny'n rhywbeth sy'n unigryw i'r unigolyn.
29:14
Mae cymryd risgiau cadarnhaol yn rhywbeth sy'n digwydd yn amlach nag rydym yn tybio,
29:19
yn ôl pob tebyg. Y cwestiwn yw, a ydym yn dweud yn benodol ein bod o blaid cymryd risgiau cadarnhaol?
29:28
Mae elfen o risg ym mywyd pawb. A beth sydd angen ei ystyried yw cyd-destun yr holl egwyddorion eraill rydych yn eu gweld ar y sgrin,
29:38
oherwydd does dim modd eu hystyried ar wahân i'w gilydd. Ond wrth feddwl am gymryd risgiau cadarnhaol,
29:46
rydym yn ystyried beth mae'r unigolyn yn ei ddweud wrthym am y profiad bywyd y byddai'n dymuno ei gael o ddydd i ddydd.
29:54
Lle roeddem wedi nodi bod cryfderau gan yr unigolyn, a oes pethau y mae'n gallu eu gwneud drosto'i hun
30:02
neu y mae pobl eraill yn gallu ei helpu i'w gwneud. Ydyn ni'n gwneud gormod dros rywun?
30:07
Ydyn ni'n rhoi gormod o wasanaeth neu a ydym yn rheoli agweddau ar ei fywyd pob dydd yn rhy fanwl heb fod angen gwneud hynny?
30:16
Y peth allweddol yw sut byddwn wedyn yn egluro, yn magu hyder ac yn rhannu â'n gilydd mai ein bwriad yw hyrwyddo'r arfer o gymryd risgiau
30:27
er mwyn rhoi'r bywyd mwyaf bodlon posibl i'r plentyn neu oedolyn hwnnw.
30:34
Y peth allweddol wrth gymryd risgiau cadarnhaol yw bod pawb ohonom yn deall y risgiau,
30:39
yn deall tebygolrwydd y risgiau hynny, effaith y risgiau rydym yn eu rhannu,
30:45
y dull o reoli'r risgiau hynny drwy gynllunio, a'n bod yn cydasesu hynny ac yn mesur yr effaith ar brofiad yr unigolyn i weld a yw'n gymesur.
30:56
Dyma lle mae angen i ni feddwl ynghylch faint rydym yn ei wneud ac y byddwn yn ei wneud ar gyfer y plentyn neu oedolyn.
31:05
Gyda golwg ar fod yn gymesur, byddaf yn gweld rhai cynlluniau
31:10
sy'n fanwl dros ben o ran disgrifio bron pob symudiad gan yr unigolyn o ddydd i ddydd.
31:16
Rhaid i ni gofio bod plant ac oedolion yn derbyn gwasanaethau gofal a chymorth
31:21
gan ddarparwyr am fod ganddynt anghenion penodol sydd wedi'u dynodi,
31:27
am fod risgiau wedi'u dynodi mewn perthynas â'r unigolyn, a'r unigolyn wedi dweud wrthym beth sy'n bwysig iddo.
31:35
A dylem gynllunio dull o weithredu sy'n ymateb i'r tri maes hyn.
31:40
Mae angen i ni adael hyblygrwydd i'r unigolyn ddewis, newid ei feddwl,
31:46
gwneud rhywbeth gwahanol o ddydd i ddydd os yw'n bosibl. Felly mae'n ymwneud â faint fyddwn yn ei wneud yn y pen draw ar gyfer yr unigolyn
31:56
yn hytrach na gyda'r unigolyn, neu hyd yn oed gadael i'r unigolyn wneud rhai o'r pethau drosto'i hun.
32:05
Mae'n amser am egwyl byr nawr.
32:13
Byddwn yn rhoi ychydig o sylw nawr i ymarfer drwy weithio gyda phobl mewn ffordd seiliedig ar gryfderau.
32:21
Ond mae'n bwysig sylweddoli bod hyn yn ymwneud â'r dull o weithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
32:27
Mae'n golygu sicrhau ein bod yn deall yr unigolyn sydd ar ganol yr holl weithgarwch.
32:34
Dyma'r pwynt o godwyd o'r blaen yn y gweithgarwch ar lesiant, sef treiddio'n ddyfnach,
32:41
gofyn y cwestiynau 'felly beth?', a deall yn iawn beth mae hyn yn ei olygu i'r unigolyn.
32:49
Wrth ystyried y rheoliadau a'r canllawiau statudol o dan RISCA,
32:55
mae'n ddiddorol iawn mapio'r camau ar daith yr unigolyn o'r pwynt y mae'r darparwr yn cael yr atgyfeiriad
33:03
hyd at derfynu unrhyw ymyriad neu ddarpariaeth. Ac unwaith eto,
33:09
bydd hynny'n amrywio yn ôl amgylchiadau'r unigolyn. Mae'n bosibl y bydd y ddarpariaeth wedi'i rhoi ar waith am gyfnod penodol.
33:19
Mae'n bosibl y bydd anghenion yr unigolyn wedi cynyddu fel bod arno angen math gwahanol o gymorth
33:27
neu mae'n bosibl y bydd yr unigolyn wedi marw ac nad oes angen y gwasanaeth bellach ar gyfer yr unigolyn hwnnw.
33:36
Ond y peth pwysig i'w ystyried yw sut byddwn yn sicrhau bod pawb yn deall pob cam o'r daith,
33:43
yn deall beth yw ansawdd ar bob un o'r camau hyn ac yn deall pam rydym yn hyrwyddo dull o weithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
33:52
ac yn seiliedig ar gryfderau ar bob un o'r camau hynny ar daith yr unigolyn yn y gwasanaeth.
34:01
Gan ddechrau â'r atgyfeiriad (a allai fod yn hunanatgyfeiriad,
34:07
yn un gan wasanaeth iechyd, neu'n un gan wasanaeth gofal cymdeithasol),
34:12
y peth pwysig yw eich bod chi fel darparwr, drwy'r atgyfeiriad hwnnw,
34:18
yn casglu cymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn cael dealltwriaeth o fywyd yr unigolyn.
34:25
Mae'n bwysig cofio, pan ddaw'r atgyfeiriad a phan fydd y darparwr yn dechrau cynnal ei asesiad
34:32
o addasrwydd yn unol â'r rheoliadau, fod rhaid i ni gysylltu hynny â'r datganiad o ddiben.
34:40
Felly gyda'r atgyfeiriad oddi wrth y person sy'n comisiynu'r gwasanaeth,
34:45
dylid cael cynllun gofal a chymorth ac, efallai, asesiad.
34:51
Ond gorau po fwyaf o wybodaeth y gallwch ei chasglu ar y cam hwnnw
34:56
am yr unigolyn er mwyn cynnal yr asesiad o addasrwydd. Bydd hynny'n caniatáu i chi wirio,
35:04
ar sail y datganiad o ddiben, fod yr hyn y gofynnwyd i chi ei wneud yn gyson â beth rydych wedi datgan eich bod yn ei ddarparu fel darparwr.
35:15
Mae hefyd yn gyfle i chi feddwl am baru. Gallai fod yn fater o baru aelod staff i gynorthwyo'r unigolyn.
35:23
Gallai fod yn fater o baru'r unigolyn â'r bobl eraill sydd eisoes yn derbyn y gwasanaeth.
35:30
Os penderfynir eich bod chi fel darparwr yn gallu darparu cymorth i'r unigolyn,
35:36
bydd yn ofynnol i chi ddarparu Llawlyfr Gwybodaeth y Gwasanaeth. Mae'r rheoliadau a'r canllawiau statudol
35:44
yn dweud beth yn union i'w gynnwys yn Llawlyfr Gwybodaeth y Gwasanaeth
35:49
ond mae'n bwysig iawn eich bod chi fel darparwr yn aros ac yn meddwl o ddifrif
35:55
ar gyfer pwy y mae'r llawlyfr hwn. Edrychwch eto ar y llawlyfr hwnnw a chwiliwch am y jargon, y termau generig.
36:04
Ewch yn ôl at y llawlyfr hwnnw a'i ddarllen fel pe baech yn blentyn
36:09
neu'n oedolyn sy'n dod i'r lleoliad neu'n derbyn y gwasanaeth am y tro cyntaf.
36:15
Pa wahaniaeth rydym yn ei wneud ym mywyd yr unigolyn? Ydych chi'n deall beth sydd yn y llawlyfr hwnnw?
36:22
Ydy'r llawlyfr yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch? Rhai o'r llawlyfrau gorau rydw i wedi'u gweld
36:29
yw'r rheini sydd wedi'u datblygu gyda'r unigolion sy'n derbyn y cymorth
36:34
gan y sefydliad mewn cartrefi plant preswyl. Rydw i wedi gweld plant a staff yn cynhyrchu fersiwn o Lawlyfr Gwybodaeth y Gwasanaeth ar ffurf DVD.
36:46
Byddwch yn cael barn y staff am y math o fywyd sydd yn y cartref, ond mae'r plant a phobl ifanc hefyd yn cyfrannu at y math o fywyd sydd yn y cartref hwnnw.
36:57
Rydw i wedi gweld enghreifftiau lle mae darparwyr wedi gofyn i'r staff gerdded allan o'r adeilad
37:03
a sefyll wrth y gât ffrynt, gan edrych yn ôl ar y cartref, a disgrifio beth maent yn ei weld.
37:10
Yn disgrifio sut maent yn teimlo wrth gerdded i lawr y llwybr. Pa fath o deimlad yw hwnnw?
37:17
Pa fath o deimlad yw mynd drwy'r drws ffrynt? Beth fyddwch yn ei weld, yn ei arogleuo, yn ei glywed?
37:25
Felly dyna'r llawlyfrau gwybodaeth. Rhaid iddynt gwrdd â gofynion y ddeddfwriaeth.
37:31
Mae hefyd yn bwysig ystyried a yw'r llawlyfr yn darparu'r wybodaeth y mae'r unigolyn am ei chael.
37:38
Gofynnwch i bobl sy'n derbyn eich gwasanaeth yn barod, a phobl sydd wedi gadael y gwasanaeth,
37:43
a oeddent wedi cael y wybodaeth a oedd yn bwysig iddynt o'r llawlyfr. Wedyn byddwn yn llofnodi'r cytundeb gwasanaeth ac yna datblygu'r cynllun personol ar gyfer yr unigolyn.
37:56
Nawr, mae angen i'r cynllun personol fod ar gael cyn y diwrnod cyntaf y bydd yr unigolyn yn y lleoliad.
38:04
Dylai gael ei seilio'n bennaf ar wybodaeth a ddarparwyd gan wasanaethau gofal cymdeithasol.
38:10
Ond mae'n bwysig iawn i ni ddechrau ystyried egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant,
38:16
nid yn unig yr egwyddorion sy'n sail i RISCA, wrth ddatblygu'r cynlluniau.
38:22
Felly a ydynt yn dangos tystiolaeth o lais, dewis a rheolaeth yr unigolyn?
38:29
Lle mae hynny'n briodol? Lle mae'n bosibl? A yw'r cynllun wedi'i gydgynhyrchu gyda'r unigolyn?
38:36
A yw'n seiliedig ar gryfderau? A yw'n canolbwyntio ar ganlyniadau?
38:41
A yw'n hyrwyddo'r arfer o gymryd risgiau cadarnhaol? Efallai ei bod yn rhy gynnar ar hyn o bryd i edrych yn fanwl ar y maes hwnnw,
38:50
ond dyma pam rydych yn gweld y camau nesaf yn y broses. A yw'n gymesur?
38:55
Dydyn ni ddim yn adnabod yr unigolyn yn dda iawn ar hyn o bryd am nad yw wedi cyrraedd y lleoliad hyd yn oed neu ddechrau derbyn y gwasanaeth.
39:06
Wedyn mae'r unigolyn yn dechrau derbyn y gwasanaeth. Fel darparwr, mae'n ofynnol i chi gynnal asesiad darparwr.
39:13
Unwaith eto, mae'r un set o egwyddorion yn gymwys wrth i'r unigolyn ddechrau derbyn y gwasanaeth
39:20
neu ymgynefino â'r lleoliad newydd lle bydd yn byw.
39:26
Bydd staff yn y lleoliad yn meithrin perthynas â'r unigolion ac yn ennill eu hymddiriedaeth
39:33
wrth iddynt ddod yn fwy cyfforddus â'u sefyllfa a'u trefniadau byw efallai.
39:38
Dyna pam mae'n bwysig iawn bod y cynllun personol hwnnw'n cael ei adolygu wedyn
39:44
ar ôl y saith diwrnod cyntaf ar sail yr egwyddorion rydym newydd eu disgrifio.
39:50
Ond byddwch yn gwneud hynny ochr yn ochr â'r plentyn neu'r oedolyn a fydd bellach wedi cael gwell syniad o'r hyn sy'n digwydd o'i amgylch.
39:58
Bydd cofnodion dyddiol ac wythnosol yn cael eu cadw, a bydd staff yn cael eu goruchwylio.
40:05
Ac unwaith eto, un o'r pethau pwysicaf i'w hystyried wrth ddarparu'r gwasanaeth
40:10
neu wrth adolygu cynlluniau personol yw y gall fod yn hawdd iawn mynd i'r arfer o fonitro a mesur y gweithgarwch sy'n cael ei ddarparu.
40:20
Maent yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, maent yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt,
40:26
maent yn cael cyfleoedd i wneud beth sy'n bwysig iddynt, ond un o'r cwestiynau sy'n cael ei anghofio'n aml
40:33
yw "Pa effaith rydym yn ei chael ar fywyd yr unigolyn o ddydd i ddydd?" Felly yn y cofnodion wythnosol neu ddyddiol hynny, yn y sesiynau goruchwylio,
40:43
wrth adolygu'r cynlluniau sydd ar waith, yn ogystal â sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth,
40:51
dylem sicrhau ein bod yn cyflawni beth rydym wedi'i nodi yn y cynllun
40:56
a'n bod yn ystyried yr effaith a pha wahaniaeth rydym yn ei wneud ym mywyd yr unigolyn.
41:02
Dyma egluro cyd-destun y berthynas rhwng y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a RISCA.
41:11
Roedd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi cyflwyno model asesu y gallwch ei weld ar y sgrin nawr, sef y pum cylch ar yr ochr chwith.
41:23
Mae llawer o'r asesiadau mewn gofal cymdeithasol yn cael eu galw'n sgyrsiau beth sy'n bwysig neu'n asesiadau beth sy'n bwysig.
41:32
Os ydych wedi clywed cyfeirio at 'beth sy'n bwysig', yr hyn mae'n ei olygu yn y bôn yw asesiad o'r unigolyn.
41:39
A'r hyn a ddylai ddigwydd drwy'r broses asesu yw canfod beth yw amgylchiadau personol yr unigolyn,
41:47
beth yw canlyniadau arfaethedig yr unigolyn, hynny yw, beth mae'n ei ddweud sy'n bwysig iddo.
41:55
Ond dydw i ddim am roi gweddill y model mewn blychau ar wahân: rydw i am ddangos y cysylltiadau rhyngddynt.
42:03
Felly pan fydd unigolyn yn dweud mai'r rhain yw'r pethau sy'n wirioneddol bwysig iddo,
42:10
dyma sut rydw i am fod, yn y sgwrs am beth sy'n bwysig, byddwn yn defnyddio'r dull asesu wedyn
42:17
i ystyried beth sy'n rhwystro'r canlyniadau arfaethedig hynny ar hyn o bryd.
42:24
Pam nad ydych yn gallu gwneud y pethau rydych yn eu disgrifio (rhwystrau)?
42:29
Wedyn ystyrir faint o'r pethau hyn y byddwch yn gallu eu gwneud eich hun.
42:34
Pwy arall fydd yn gallu'ch helpu? Beth sydd ar gael i chi yn y gymuned?
42:40
Wedyn byddwn yn ystyried y risgiau a fydd yn codi os nad yw'r unigolyn yn gallu gwneud y pethau sy'n bwysig iddo,
42:47
os nad yw'n gallu teimlo fel y mae am deimlo. Dyna beth fyddaf am edrych arno ac am ei ganfod drwy'r asesiad gofal a chymorth.
42:59
Ac i'r un graddau, mae angen canfod beth yw anghenion gofal a chymorth yr unigolyn.
43:05
Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi cyflwyno meini prawf cymhwystra sydd wedi'u seilio nawr ar anghenion gofal a chymorth yr unigolyn.
43:17
Felly drwy'r asesiad hwnnw, byddaf nid yn unig yn dynodi canlyniadau arfaethedig yr unigolyn
43:24
ond hefyd yn ceisio canfod beth yw anghenion gofal a chymorth yr unigolyn,
43:29
a gallaf ddefnyddio'r model yn yr un ffordd ag ar gyfer canfod y canlyniadau arfaethedig
43:36
– byddaf yn dynodi'r anghenion gofal a chymorth ac yn edrych wedyn gyda'r unigolyn a'r rheini sydd o'i amgylch
43:43
i weld beth sy'n rhwystro'r anghenion hynny rhag cael eu diwallu. I ba raddau mae'n gallu diwallu'r anghenion hynny ei hun?
43:52
Pwy sy'n gallu ei helpu? Beth sydd ar gael iddo yn y gymuned i ddiwallu'r angen?
43:59
Pa risg fydd yn codi os nad yw'r angen yn cael ei ddiwallu? Mae'r holl wybodaeth hon yn sail i'r penderfyniadau ynghylch cymhwystra.
44:09
Os nodir bod angen cymwys am ofal a chymorth gan yr unigolyn, bydd hwnnw'n cael ei droi wedyn yn gynllun gofal a chymorth ar gyfer yr unigolyn.
44:20
Mae'r blwch ar yr ochr dde yn ddisgrifiad lefel uchel o beth mae angen ei gynnwys yn y cynllun gofal a chymorth.
44:26
Dyma beth sy'n cael ei drosglwyddo i'r darparwyr wedyn. Fel rydym newydd weld,
44:33
mae'r dull o weithredu sydd newydd ei ddisgrifio, sef nodi'r canlyniadau arfaethedig,
44:39
nodi'r anghenion gofal a chymorth, edrych ar hyn gyda'r unigolyn a'r rheini sydd o'i amgylch,
44:45
beth sy'n eu rhwystro, pa risg sy'n codi os na fydd canlyniadau'n cael eu cyflawni,
44:52
yn ddull o weithredu y gall darparwyr ei ddefnyddio yr un modd wrth wneud eu hasesiadau ac wrth ffurfio cynlluniau.
45:01
Unwaith y bydd y darparwr yn derbyn y cynllun gofal a chymorth, bydd y dyletswyddau o dan RISCA yn dod i rym
45:10
mewn perthynas â chynnal asesiadau a datblygu'r cynllun personol.
45:16
Mae RISCA yn dweud yn glir fod angen i'r cynllun personol gynnwys canlyniadau personol yr unigolyn,
45:24
dealltwriaeth o'i anghenion gofal a chymorth, beth yw ei ddewisiadau personol o ran diwallu ei anghenion a chyflawni ei ganlyniadau personol,
45:35
beth yw'r risgiau neu heriau a nodwyd ar gyfer yr unigolyn ac a oes angen ystyried asesiadau arbenigol sydd wedi'u cynnal neu sydd angen eu cynnal.
45:48
Meddyliwch amdano fel cynllun gofal a chymorth sy'n disgrifio yn syml beth sydd i ddigwydd a pham,
45:55
ond bod y cynllun personol yn mynd gam ymhellach drwy ddisgrifio'n fanwl sut byddwn yn gallu cyflawni hyn.
46:04
Yn y blwch llwyd mae crynodeb o beth fydd yn cael ei gynnwys wedyn yn y cynllun personol ar gyfer yr unigolyn.
46:12
Rhaid cofio'r egwyddorion a ddisgrifiwyd yn gynharach a'u gwneud yn sail i'r dull o ddatblygu'r cynlluniau.
46:23
Er bod y sleid hon yn ymddangos yn eithaf cymhleth, mae'n dangos yn union beth sydd angen ei gofnodi drwy'r asesiad a'r broses cynllunio.
46:34
Y geiriau a glywn yn aml wrth ymarfer yw 'eisiau' ac 'angen';
46:40
yn cael eu mynegi gan bawb sydd o amgylch yr unigolyn, ac weithiau byddai'r unigolyn yn gallu defnyddio'r geiriau hynny,
46:47
er enghraifft 'Dyma beth rydw i eisiau i chi ei wneud. Beth mae angen i chi ei roi i mi yw...
46:53
Beth mae angen i chi ei wneud ar gyfer fy mam yw... Beth rydyn ni ei eisiau yw i chi alw heibio bedair gwaith y diwrnod i ddarparu gofal.
47:02
Rydyn ni eisiau i chi stopio'r plentyn rhag bod yn agored i berygl. Beth mae angen i chi ei wneud yw rhoi lleoliad sefydlog i'r plentyn'.
47:11
Yn eithaf aml, mae'r geiriau 'eisiau' ac 'angen' wedi'u defnyddio i ddisgrifio gwasanaethau,
47:17
gweithgareddau, ymyriadau, pethau sy'n cael eu gwneud 'ar gyfer' yr unigolyn.
47:23
Ond beth mae angen i ni ei ddeall a'i ddisgrifio yw anghenion gwirioneddol yr unigolyn am ofal a chymorth
47:31
ac nid yr angen am wasanaeth neu ymyriad penodol.
47:36
Dyma lle mae'r jargon am anghenion gofal a chymorth yn codi. Er enghraifft, dywedir bod 'anghenion gan y person mewn perthynas â'i ofal personol'
47:46
neu 'bod angen help ar y person gyda'i feddyginiaeth' neu 'mae angen cymorth ar y person i allu cymdeithasu'
47:53
– byddwn yn mynd i'r arfer o ddisgrifio beth rydym yn credu sydd angen ei ddarparu.
47:59
Yn lle hynny, mae'n fwy defnyddiol o lawer i ni ddisgrifio anghenion gofal a chymorth
48:05
drwy egluro pam mae ar yr unigolyn angen rhywbeth yn y lle cyntaf. Felly, wrth ddisgrifio anghenion gofal a chymorth,
48:13
peidiwch â meddwl am beth sydd ar yr unigolyn ei angen ond yn hytrach pam mae arno angen rhywbeth.
48:19
Er enghraifft, os ydym yn cofnodi bod ar rywun angen help gyda'i ofal personol,
48:26
dylem nodi beth yw'r gofal personol sydd ei angen a pham mae ei angen.
48:31
Ai am fod yr unigolyn wedi cael UTI o'r blaen fel bod angen i ni sicrhau ei fod yn lân ac yn cael ei gadw'n lân.
48:40
Ai am ei fod yn dueddol i gael briwiau pwyso fel bod angen i ni ei gadw'n lân.
48:46
A yw'r angen gofal a chymorth yn ymwneud â rheoli ei anghenion emosiynol, ei helpu i hunanreoli o ganlyniad i drawma y mae wedi'i brofi o'r blaen.
48:58
A yw ei angen am gymorth gyda meddyginiaeth yn ymwneud â'r ffaith nad yw'n gallu symud ei fysedd yn ddigon deheuig i dynnu tabledi o becynnau poteli plastig
49:09
neu am ei fod yn anghofio cymryd y feddyginiaeth oherwydd problemau cof? Felly mae anghenion gofal a chymorth yn disgrifio'r rheswm dros yr angen am y cymorth
49:19
yn hytrach na pha gymorth sydd ei angen. A rhaid i ni gyfuno hynny â beth sy'n bwysig i'r unigolyn,
49:27
beth yw'r canlyniadau y mae'n dweud sy'n bwysig iddo a beth yw'r risgiau a nodwyd mewn perthynas â'r unigolyn.
49:35
Gan gofio'r egwyddor o gymryd risgiau cadarnhaol. Felly yn yr asesiadau a'r cynlluniau, mae angen cynnwys beth sydd o fewn y llinell las hon.
49:46
A mwyaf yn y byd y gallwn ni ddisgrifio hyn drwy'r lens hwn, mwyaf fydd y cyfle i ni hwyluso llesiant pobl
49:53
drwy eu profiadau bywyd yn hytrach na chynnig atebion dros dro.
49:59
Felly unwaith eto, gallwn weld lle mae'r egwyddorion ar gyfer ymarfer yn berthnasol
50:06
a lle mae angen iddynt fod yn sail i'r dulliau gweithredu, yr ymarfer, y camau gweithredu, y rhannau o'r broses y dylem ei dilyn.
50:18
Myfyriwch ar y mewnbwn sydd wedi'i rannu mewn trafodaethau, gennych chi neu yn y grwpiau,
50:25
gan ystyried yr egwyddorion ar gyfer ymarfer sydd ar y sgrin.
50:30
Rhannwch â'ch gilydd y profiadau hynny lle rydych chi wedi gweld yr egwyddorion hynny ar waith.
50:37
Beth fyddwch yn ei glywed wrth ddarparu gwasanaethau a chymorth sy'n rhoi sicrwydd i chi mai dyna'r ymarfer a'r diwylliant sydd yn eich sefydliad chi?
50:46
Efallai fod hynny'n fater o beth rydych yn ei weld yn cael ei gofnodi neu ei ysgrifennu
50:53
yn y gwaith papur sydd angen ei gwblhau. Myfyriwch ynghylch pa mor dda rydych chi wrth gyflawni'r egwyddorion,
51:02
gan geisio defnyddio dull seiliedig ar gryfderau. Dechreuwch y sgwrs/myfyrdod drwy nodi'r pethau rydych yn gwybod eich bod yn eu gwneud yn dda,
51:14
y pethau rydych yn hyderus amdanynt, a sut rydym yn gwybod ein bod yn eu gwneud yn dda.
51:20
Felly treuliwch tua 15-20 munud yn eich grwpiau yn dadansoddi hyn, sut mae'n dod i'r amlwg yn eich sefydliad chi.
51:29
Rhannwch enghreifftiau lle mae hyn yn gweithio'n dda, enghreifftiau lle rydych yn myfyrio ar hyn,
51:35
meysydd lle gellid gwneud ychydig mwy neu wneud rhywbeth yn wahanol.
51:43
Mae hyn yn crynhoi'r elfen ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan ei chysylltu â beth sydd angen i ni ei ddarparu,
51:52
a meddwl eto am y ffordd y byddwn yn edrych ar ansawdd a rhai o'r meysydd allweddol y gallwn ganolbwyntio arnynt
51:59
wrth ystyried a ydym yn sicrhau bod ein hymarfer yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
52:06
Fyddwch chi'n disgrifio hyn yn eich datganiad o ddiben? A yw'r dull gweithredu hwnnw wedi'i ddisgrifio yn y llawlyfrau gwybodaeth
52:15
mewn ffordd sy'n ddealladwy i'r unigolyn? A ydym yn ceisio deall beth fydd ei brofiadau?
52:22
A ydym yn meddwl am yr anghenion gofal a chymorth, y canlyniadau arfaethedig, y risgiau?
52:29
A ydym yn treiddio'n ddyfnach ac yn gofyn y cwestiynau 'beth felly?'
52:34
wrth ystyried ein hasesiadau o addasrwydd? Wrth ddatblygu a chynhyrchu ein hasesiadau a chynlluniau personol a chynnal yr adolygiadau,
52:44
a ydym yn disgrifio ein safonau gofal a chymorth, a ydym yn cydnabod bod y safonau gofal a chymorth hynny
52:52
yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'r diffiniad o lesiant yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
53:01
Ac mewn arolygiadau gan Arolygiaeth Gofal Cymru, byddant yn canolbwyntio ar y canlyniadau llesiant hynny.
53:09
Byddant yn chwilio am dystiolaeth o ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
53:15
ac yn seiliedig ar gryfderau ym mhob agwedd ar beth mae'n ofynnol i ni ei ddarparu.