Rydych chi’n gallu gweld y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud ym mywydau pobl, bob diwrnod o’r wythnos.
Rydych chi hefyd yn eu gweld nhw’n llwyddo i wneud y pethau bychain, yn enwedig y plant rydym ni’n gweithio gyda nhw.
Trin arian, neu fagu’r hyder i fynd i’r cownter ac archebu diod, neu archebu bwyd, a’u gweld nhw’n hapus hefyd.
Wrth eistedd i lawr i sgwrsio gyda nhw, rydych chi’n gweld bod llawer o broblemau, yn enwedig gyda’r genhedlaeth hŷn.
Trwy fynd i sgwrsio gyda nhw, maen nhw’n gallu rhannu eu problemau gyda fi, fel nad ydyn nhw’n rhannu problemau gyda’r person sy’n gofalu amdanyn nhw drwy’r amser, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Rydych chi’n gwneud cymaint â hynny o wahaniaeth, mewn cyn lleied o amser.
Dyw llawer o bobl ddim yn deall beth rydych chi’n ei wneud fel gofalwr.
Dwi’n credu y dylai pawb sy’n gwneud y swydd hon, pawb sydd wedi gwneud gwaith gofalu, dylen nhw gael eu cydnabod am hynny.