1
00:00:00,166 --> 00:00:02,836
Heddiw yw Diwrnod Cenedlaethol Gweithwyr Cymdeithasol.
2
00:00:03,136 --> 00:00:06,906
Rwy'n gwybod, ar ôl bod yn weithiwr cymdeithasol am 27 mlynedd,
3
00:00:06,906 --> 00:00:08,808
pa mor galed rydych chi i gyd yn gweithio.
4
00:00:08,808 --> 00:00:10,076
Ac rydym yn diolch i chi.
5
00:00:10,276 --> 00:00:13,813
Diolchwn ichi am eich ymroddiad a'ch ymrwymiad i waith cymdeithasol
6
00:00:13,813 --> 00:00:16,016
ble bynnag yr ydych a beth bynnag a wnewch.
7
00:00:16,249 --> 00:00:16,783
Diolch.
8
00:00:17,017 --> 00:00:18,084
Diolch yn fawr iawn.
9
00:00:18,418 --> 00:00:19,019
Diolch o galon
10
00:00:19,019 --> 00:00:20,387
i weithwyr cymdeithasol
11
00:00:20,387 --> 00:00:21,721
ym mhob rhan o Gymru.
12
00:00:21,721 --> 00:00:22,889
'Da ni'n gwybod eich bod chi'n gweithio
13
00:00:22,889 --> 00:00:24,691
mewn amgylchiadau anodd tu hwnt
14
00:00:24,691 --> 00:00:25,558
yn aml iawn.
15
00:00:25,558 --> 00:00:28,895
Er mai heddiw ydy Diwrnod Cenedlaethol y Gweithwyr Cymdeithasol,
16
00:00:28,895 --> 00:00:30,463
wel gadewch i ni drio cofio
17
00:00:30,463 --> 00:00:32,465
am werth eich gwaith chi
18
00:00:32,465 --> 00:00:34,334
bob un diwrnod o'r flwyddyn.
19
00:00:34,334 --> 00:00:35,802
Ac fe wnawn ni beth allwn ni
20
00:00:35,802 --> 00:00:37,570
yn fan hyn yn y Senedd i sicrhau
21
00:00:37,570 --> 00:00:39,005
eich bod yn cael y gefnogaeth
22
00:00:39,005 --> 00:00:40,707
rydych chi ei angen i wneud eich gwaith.
23
00:00:40,707 --> 00:00:41,975
Diolch o galon
24
00:00:42,008 --> 00:00:43,209
i bob un ohonoch chi.
25
00:00:43,309 --> 00:00:46,212
Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Gweithwyr Cymdeithasol.
26
00:00:46,413 --> 00:00:49,883
Ac felly rwyf am ddiolch yn fawr iawn i'r holl weithwyr cymdeithasol sydd allan yna
27
00:00:50,050 --> 00:00:53,453
sy'n gwneud eu gorau glas i roi'r gefnogaeth i bobl i'w harwain
28
00:00:53,453 --> 00:00:56,689
trwy'r systemau sydd gennym ar waith fel y gall pobl gael y cymorth maen nhw
29
00:00:56,689 --> 00:00:58,324
angen pan maen nhw ei angen.
30
00:00:58,391 --> 00:01:00,293
Cefais fy magu gan weithiwr cymdeithasol,
31
00:01:00,427 --> 00:01:03,730
felly rwy'n gwybod am yr effaith aruthrol y gall gael weithiau.
32
00:01:03,863 --> 00:01:07,667
Ond rwyf am ddweud diolch enfawr am ddal ati,
33
00:01:07,667 --> 00:01:11,805
gwneud eich gorau glas a bod yno ar gyfer y bobl yn ein cymuned.
34
00:01:11,938 --> 00:01:12,472
Diolch.
35
00:01:12,972 --> 00:01:13,873
Rwy'n falch o gymryd y
36
00:01:13,873 --> 00:01:17,444
cyfle hwn heddiw i ddiolch i weithwyr cymdeithasol ledled Cymru
37
00:01:18,144 --> 00:01:22,882
sy'n gweithio'n galed i hyrwyddo hawliau ein pobl fwyaf agored i niwed,
38
00:01:23,383 --> 00:01:25,051
yr ydym yn gofalu amdanynt o ddydd i ddydd.
39
00:01:25,051 --> 00:01:28,955
Ac fel cyn-weithiwr gyda'r GIG
40
00:01:28,955 --> 00:01:32,358
a weithiodd yn agos iawn gyda'r gwasanaethau cymdeithasol dros y blynyddoedd,
41
00:01:32,425 --> 00:01:36,162
rwy'n deall yn iawn yr
ymroddiad a'r angerdd
42
00:01:36,162 --> 00:01:37,730
sydd ei angen i wneud
y swydd hon.
43
00:01:37,831 --> 00:01:41,601
Felly hoffwn gymryd y
cyfle hwn i'ch cydnabod
44
00:01:41,734 --> 00:01:44,404
a'ch cefnogi'n llawn
yn eich rôl.