Jump to content
Newidiadau yn ymddygiad pobl - iechyd meddwl

Efallai fod gan bobl hanes o salwch meddwl neu’n cael profiad ohono am y tro cyntaf, law yn llaw â’u dementia. Yn yr un modd ag y mae angen i ni drin salwch a phoen corfforol, mae’n rhaid i ni drin cyflyrau iechyd meddwl sylfaenol hefyd.

Cyflwyniad i newidiadau mewn iechyd meddwl pobl

Os oes unrhyw bryderon am iechyd meddwl person, gofynnwch am gyngor proffesiynol. Gall cysuro, tynnu sylw at rywbeth arall neu ymgysylltu’n gymdeithasol a meddyliol mewn gweithgareddau helpu hefyd. Gall meddyginiaeth helpu mewn achosion eraill.

Beth yw gorbryder?

Mae gorbryder yn gyffredin ymysg pobl â dementia a gall effeithio ar bobl yn ystod unrhyw gyfnod o’r cyflwr.

  • Tra gall unrhyw un fod yn orbryderus mewn sefyllfaoedd penodol, mae gorbryder yn fater iechyd meddwl pan mae’r person yn teimlo’n orbryderus dros gyfnod maith, mewn sefyllfaoedd lle na fyddai hynny i’w ddisgwyl, a/neu mae’n effeithio ar eu hansawdd bywyd
  • Gorbryder yw ymateb dianc neu frwydro’r corff ac efallai y bydd yn cael ei fynegi drwy newidiadau mewn ymddygiad
  • Gall y person gynhyrfu neu fod yn ofnus, efallai eu bod am gael eu cysuro’n barhaus gennych chi neu eich dilyn chi neu ofalwr teuluol o gwmpas.

Beth yw iselder?

Mae iselder yn anhwylder meddwl cyffredin sy’n effeithio ar deimladau, ymddygiad a meddyliau person.

  • Gall y symptomau fod yn amrywiol, gan gynnwys hwyliau isel, teimlo’n ddagreuol, sensitifedd, diffyg diddordeb a phleser, newidiadau mewn archwaeth, cwsg a lefelau egni
  • Gall y symptomau hyn effeithio ar y ffordd mae person gyda dementia yn ymddwyn, ac yn dod law yn llaw â dementia’n aml
  • Gan fod llawer o’r symptomau iselder yn gorgyffwrdd â symptomau dementia, mae’n aml nid oes neb yn sylwi arno ac felly nid yw pobl yn derbyn y driniaeth ofynnol
  • Gall iselder arwain at syniadau hunanddinistriol. Mae’n rhaid rhoi gwybod am unrhyw bryderon ar unwaith.

Beth yw seicosis?

Mae seicosis yn disgrifio sefyllfa lle nad yw person yn gweld reality fel y mae, sy’n aml yn dod law yn llaw â rhithdybiau a/neu rithweledigaethau.

  • Mae rhithdyb yn gred afresymol ddi-sail er enghraifft bod pobl yn byw yn yr atig, neu fod eu partner yn anffyddlon
  • Mae rhithweledigaethau yn golygu gweld, clywed, arogli, synhwyro pethau na all pobl eraill
  • Mae rhithweledigaethau gweledol nodweddiadol yn cynnwys gweld anifeiliaid bach neu blant
  • Mae’n bwysig sylweddoli bod y profiadau hyn yn real iawn i’r person a gallant beri gofid, felly’n aml mae dadlau gyda nhw neu ddweud nad yw’r hyn y maent yn ei brofi yn bodoli mewn gwirionedd yn gwneud y person yn fwy gofidus.

Deall pam fod rhywun yn drist

Mae'r adran hon yn eich helpu i feddwl am drallod a sut y gall effeithio ar berson â dementia.

Pan rydyn ni’n drist, yn anghyfforddus neu mewn poen mae'n effeithio ar ein hymddygiad. Efallai na fydd bob amser yn bosibl i berson gyda dementia egluro beth sy'n eu cynhyrfu neu'n eu brifo - ein gwaith ni yw ceisio darganfod.

Efallai y byddwch chi'n sylwi fod rhywun yn dechrau ymddwyn yn wahanol a ddim yn gwybod pham. Dyma rai o'r newidiadau y byddwch chi'n eu gweld a'r hyn y gallen nhw ei olygu.

Dyma rhai awgrymiadau ar sut i ddelio gyda sefyllfa efo empathi a dealltwriaeth.

Efallai fydd pobl yn gofyn cwestiynau sy'n anodd gwybod sut i ateb. Dyma rhai awgrymiadau ar pam y gall rhywun ofyn y cwestiynau hynny a sut y gallwch ymateb.

Mae'r rhestrau gwirio hyn wedi'u datblygu i helpu chi feddwl am brofiadau rhywun sy'n byw â dementia a pham y gallent dangos ymddygiadau sydd allan o gymeriad neu’n anarferol. Byddant yn cefnogi chi i feddwl am ystyr (cyfathrebu) yr ymddygiad ac yn galluogi chi i archwilio sut y gallwn gefnogi a chwrdd â’u hanghenion.

Ar ôl i chi arsylwi ac archwilio'r ymddygiad / sefyllfa, edrychwch a'r yr adran berthnasol ar y tudalennau hyn i gael awgrymiadau a chyngor. Rhestr wirio ar gyfer cartrefi gofal a rhestr wirio eu cartref eu hunain.

Mae Bocs Hapusrwydd (Happy Box) hefyd yn ffordd dda o leddfu tristwch. Dyma gyngor ar sut i greu un Bocs Hapusrwydd.

Efallai fod rheswm arall pam fod rhywun yn ymddwyn yn wahanol, a allai fod oherwydd deliriwm? Os yw person yn sâl ac mae ei ymddygiad wedi newid, ystyriwch deliriwm. Gweler canllawiau don't discount delirium a canllaw cyflym gofal cymdeithasol NICE ar adnabod ac atal deliriwm.

Materion alcohol

Yn eu hadroddiad yn 2010, canfu’r Sefydliad Astudiaethau Alcohol bod gan 60 y cant o bobl hŷn sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn sgil dryswch, codymau yn y cartref, haint ar y frest a chlefyd y galon broblemau alcohol anhysbys.

  • Yn aml, mae pobl hŷn yn yfed ar eu pen eu hunain ac mae hyn yn cael eu ‘guddio’ yn aml neu ei anwybyddu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • Mae effeithiau alcohol yn cael sylw cyson, ond bydd y rhain yn dod yn fwy amlwg ymysg pobl hŷn a gall arwain at orbryder, iselder a chysgu’n wael, problemau gyda’r afu a’r iau, hunan-esgeuluso a/neu ddiffyg maeth, problemau gyda’r cof, dryswch, cydbwysedd gwael a chwympo.

Adnoddau defnyddiol

Dysgwch fwy am y rhan mae iechyd meddwl yn ei chwarae mewn gofal dementia.

Ataliwch y risg o ddeliriwm drwy fabwysiadu Deliriwm 10

Y cysylltiad rhwng bod yn gaeth i alcohol a dementia (Saesneg yn unig)

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.

Cyhoeddwyd gyntaf: 10 Hydref 2018
Diweddariad olaf: 23 Rhagfyr 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (37.5 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch