Yng Nghymru, mae’n rhaid i awdurdodau lleol a darparwyr gofal gynnig a darparu gwasanaethau Cymraeg i’r un safon â gwasanaethau Saesneg.
Gwneud y Cynnig Rhagweithiol
Mae’r ‘Cynnig Rhagweithiol’ yn golygu bod staff yn darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb fod rhywun yn gorfod gofyn amdano. Gallai hyn olygu ateb y ffôn yn Gymraeg neu gynnal asesiad gofal llawn yn Gymraeg.
Beth bynnag fo’ch gallu yn y Gymraeg, os ydych yn rhugl neu ddim yn gallu siarad unrhyw Gymraeg, rhan fawr o’r Cynnig Rhagweithiol yw bod yn sensitif i iaith. Mae hyn yn golygu gofyn i ddechrau i’r bobl rydych chi’n eu cefnogi a ydynt yn siarad Cymraeg, ac, os ydynt, ceisio defnyddio ymadroddion Cymraeg wrth siarad gyda nhw. Byddai hyd yn oed dweud ‘bore da’ neu ofyn a hoffen nhw baned yn Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Mae bod yn sensitif i iaith yn bwysig iawn ym maes gofal dementia ac yn effeithio ar bobl sy’n siarad iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg. Mae yn effeithio ar bobl sy’n defnyddio iaith arwyddion Prydain hefyd. Un o nodweddion dementia yw gostyngiad cynyddol yn y gallu i fynegi syniadau neu eiriau, a deall ystyr geiriau llafar ac ysgrifenedig. Os mai Saesneg yw ail iaith y person, efallai y bydd yn cymysgu rhwng Saesneg â’u mamiaith i ddechrau ac yna colli’r gallu i siarad Saesneg yn llwyr, gan ei gwneud yn anodd iddynt gyfathrebu â gweithwyr cymorth a pherthnasau iau nad ydynt yn siarad eu hiaith.
Bod yn sensitif i iaith

Dysgu Cymraeg ar-lein: cwrs am ddim i weithwyr gofal cymdeithasol
Mae’r Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg wedi cynhyrchu cwrs 10 awr am ddim i gael blas ar ddysgu Cymraeg. Mae hwn yn cynnwys adran ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, lle gallwch ddysgu:
- gofyn i bobl sut maen nhw’n teimlo
- rhannau o’r corff
- sut i ofyn a yw person mewn poen neu’n teimlo’n sâl
- gofyn ble mae eu sbectol, ffon gerdded, moddion ac ati.
Dyma sut mae cofrestru ar gyfer y cwrs:
- agor y ddolen uchod. Mae’n gweithio orau gyda Google Chrome neu fersiwn ddiweddaraf Internet Explorer
- clicio ar y botwm ‘Dechrau’ ar y cwrs rydych eisiau ei gychwyn
- clicio ar fotwm ‘Creu Cyfrif’
- nodi eich manylion a’ch cyfeiriad
- creu manylion mewngofnodi a derbyn y termau ac amodau cyn creu cyfrif
- o dan ‘Dechrau’ bydd angen dewis ‘Gofal Cymdeithasol Cymru Cymraeg Gwaith’ fel eich cyflogwr
- mae’n bosibl y bydd angen mewngofnodi eto er mwyn dewis eich cyflogwr
- ar ôl i chi ddewis eich cyflogwyr, byddwch yn gallu cychwyn y cwrs
- byddwch yn derbyn e-bost gyda’r ddolen i gychwyn y cwrs.
Adnoddau defnyddiol
Dysgwch fwy am anghenion ieithyddol pobl gyda dementia.
Cân y Gân - rhestr chwarae a chryno ddisg o gerddoriaeth Gymraeg ar gyfer cartrefi gofal a phobl sy'n rhoi gofal i siaradwyr Cymraeg ond heb wybod pa ganeuon i'w chwarae. Gallwch lawrlwytho'r casgliad o'r ddolen uchod.
Dolenni ymchwil
Gwellwch eich ymarfer drwy ddefnyddio canlyniadau'r ymchwil diweddaraf.
Eisiau eich adborth
Helpwch ni i wella'r adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.