Jump to content
Cefnogi pobl â dementia i fod allan yn y gymuned

Mae’n bwysig bod pobl â dementia yn parhau i fwynhau cymryd rhan weithgar yn eu cymuned.

Cyflwyniad i gefnogi pobl gyda dementia i fynd allan yn y gymdeithas

Fodd bynnag, mae 70 y cant o bobl sy’n byw gyda dementia yn dweud eu bod wedi rhoi’r gorau i wneud y pethau roeddynt yn arfer eu mwynhau oherwydd diffyg hyder.

Mae mwy na thraean yn teimlo’n unig ac mae hyn yn cynyddu i bron i ddau o bob troi sy’n byw ar eu pen eu hunain.

Dementia 2013, Cost cudd unigedd, Cymdeithas Alzheimer, 2013 (Saesneg yn unig)

Mae’n amlwg bod angen gwneud rhywbeth i gefnogi pobl i fod allan yn y gymuned.

Cynllunio ymlaen llaw

Gall newidiadau syml a chynllunio gofalus wneud gwahaniaeth mawr:

  • Cael ffrind aelod o’r teulu i hebrwng y person.
  • Mae gan rai elusennau wasanaethau ymgyfeillio a all helpu gyda’r un rôl.
  • Os yw ystafelloedd newid pyllau nofio yn dod yn dipyn o her oherwydd colli cyswllt â’r amgylchedd, neu os yw’r person yn cael trafferth gwisgo eu hunan, gallai mwynhau’r gweithgarwch gyda ffrind wneud y gwahaniaeth rhwng mynd neu beidio mynd.
  • Efallai y gallai aelod o’u heglwys gasglu’r person er mwyn iddynt barhau i fynychu eu man addoli.
  • Dewiswch amseroedd distawach. Ceisiwch osgoi grwpiau mamau a babanod a allai fod yn ormod iddyn nhw. Bydd yr archfarchnad yn ddistawach ar fore Mawrth na phrynhawn Sadwrn.
  • Gallai siop ar gyrion tref gyda pharcio haws fod yn well na siop stryd fawr y bydd angen ei chyrraedd ar fws.

Gweithgareddau dementia gyfeillgar

Mae llawer o glybiau, siopau a grwpiau yn dod yn ‘dementia gyfeillgar’, sy’n golygu y bydd staff yn ymwybodol o heriau dementia ac yn gallu cynnig cymorth priodol. Gallai’r rhain gynnwys:

  • Sesiynau nofio
  • Corau dementia gyfeillgar, sydd â’r fantais ychwanegol o gyfarfod pobl newydd, cael hwyl gyda’i gilydd a rhannu profiadau a bod yn weithgar yn gymdeithasol.
  • Dangosiadau ffilmiau dementia gyfeillgar, lle mae’r goleuadau’n aros ymlaen a seibiant yn ystod y ffilm.

Glenda Roberts yn siarad am fynd i ddangosiad dementia gyfeillgar o White Christmas

Mae pob amgueddfa ledled Cymru yn ddementia gyfeillgar, ac am ddim! Ac mae sawl caffi dementia gyfeillgar. Oes un yn agos atoch chi?

Dewch o hyd i gaffi dementia sy'n agos i chi (Saesneg yn unig)

Peidiwch â cheisio gwneud gormod

Weithiau mae’n well gwneud un peth a cheisio ei fwynhau, yn hytrach na cheisio gwneud gormod ar unwaith.

Gall mynd i nofio gyda ffrind fod yn llwyddiant ond gallai galw heibio’r dafarn am ginio ac yna ymlaen i’r archfarchnad ar y ffordd gartref fod yn ormod a fyddai’n lladd y mwynhad a gafwyd yn nofio.

Er nad chi fydd yn hebrwng y person i’r clybiau o’u dewis neu ar deithiau o reidrwydd, gall gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal leol wneud gwahaniaeth aruthrol.

O bryd i’w gilydd y cwbl sydd ei angen yw gair o anogaeth a rhoi rhywun ar ben ffordd.

Mae Dewis yn ffynhonnell wybodaeth ragorol ar gyfer adnoddau ledled Cymru.

Cydbwyso risg a lles

Mae risgiau ynghlwm wrth bopeth a wnawn: coginio, garddio, cerdded neu DIY. Mae hyn yn wir gyda neu heb ddementia.

Ym maes gofal dementia, mae trafodaeth gyson ynghylch sut mae cefnogi pobl â dementia i gyflawni gweithgareddau ystyrlon a all fod ag elfen o risg.

Yn aml, mae gweithwyr proffesiynol a theuluoedd yn ceisio osgoi risgiau a gall canlyniadau hyn ar lesiant ac ansawdd bywyd person â dementia fod yn sylweddol.

Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yw’r brif gyfraith sy’n cefnogi gwneud penderfyniadau.

Mae’r Ddeddf yn dechrau drwy ragdybio bod gan bobl y gallu i wneud penderfyniadau eu hunain oni phrofir yn wahanol.

Felly, os yw rhywun â dementia am barhau i weithio gyda phren, gallant wneud hynny, yn yr un ffordd ag y gallech chi wneud y penderfyniad hwnnw. Er y gallai’r penderfyniad hwnnw fod yn annoeth.

‘Galluogi risgiau cadarnhaol’ yw’r ffordd ymlaen.

Mae’r dull hwn yn cydnabod ac yn nodi risgiau ac yn rhoi mesurau ar waith i’w lleihau heb ddileu risgiau’n llwyr.

Mae’n cydnabod bod canlyniadau i iechyd corfforol a meddyliol drwy beidio â chymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon ac y bydd pobl yn cymryd risgiau i fyw’n dda gyda dementia.

Mater o gydbwyso yw cymryd risgiau cadarnhaol yn aml. Gall cymryd camau syml a defnyddio technoleg gynorthwyol helpu i sicrhau’r cydbwysedd hwnnw.

Er enghraifft, gall ffôn symudol gyda rhifau cyswllt mewn argyfwng pan fydd yn mynd am dro helpu’r person â dementia i deimlo’n fwy hyderus bod cymorth wrth law os oes ei angen a rhoi hyder i’r gofalwr teuluol i adael iddynt fynd.

Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’n rhaid i bob person sy’n cael diagnosis dementia ddweud wrth y DVLA a fydd yn asesu eu gallu i yrru’n ddiogel.

Bydd llawer yn debygol o golli eu trwydded. Gall hyn fod yn amser anodd i berson sy’n byw gyda dementia a gall arwain at ddibyniaeth ar eraill neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Gall yr effaith fod yn waeth mewn ardaloedd gwledig, gyda thrafnidiaeth gyhoeddus wael yn cyfrannu at fwy o ynysu.

Dementia yn y Gymru wledig: profiad pobl (Saesneg yn unig)

Fodd bynnag, mae gan sawl ardal wasanaethau trafnidiaeth cymunedol ar gyfer pobl sy’n ei chael hi’n anodd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r rhain yn cynnwys trafnidiaeth o ddrws i ddrws a theithiau i ganolfannau siopa.

Chwiliwch am wasanaethau trafnidiaeth cymunedol yn eich ardal (Saesneg yn unig)

Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia (2018) wedi ymrwymo i gefnogi pobl â dementia i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy sicrhau bod:

  • cynllunwyr a gweithredwyr trafnidiaeth yn ystyried eu hanghenion mewn contractau pwysig fel Metro de Cymru a masnachfreintiau rheilffyrdd
  • mae staff trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu hyfforddi am y rhwystrau sy’n wynebu pobl sy’n byw gyda dementia wrth ddefnyddio eu gwasanaethau.

Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia

Astudiaethau achos am gefnogi pobl gyda dementia i fod allan yn y gymuned

Adnoddau defnyddiol

Dolenni ymchwil

Gwellwch eich ymarfer drwy ddefnyddio'r ymchwil diweddaraf.

Mae tudalen gennym hefyd am ymchwil ar unigrwydd, wedi'i ddewis gan Dr Deborah Morgan o Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) ym Mhrifysgol Abertawe.

Beth yw'r berthynas rhwng iechyd, hwyliau ac amhariad meddyliol bach? (2016) (Saesneg yn unig)

Therapi drwy feddyginiaeth gymdeithasol: meithrin cysylltiadau ac ysbrydoli atebion ar gyfer byw'n iach (2017) (Saesneg yn unig)

Cyhoeddwyd gyntaf: 10 Hydref 2018
Diweddariad olaf: 22 Ionawr 2025
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (79.2 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch