Mae tystiolaeth gynyddol y gall byw’n iach leihau’r ffactorau risg o ddatblygu dementia yn ogystal â bod o fudd i bobl sydd wedi derbyn diagnosis.
Pam fod byw'n iachus yn bwysig i bobl gyda dementia
Er nad yw deiet, ymarfer corff a gweithgareddau sy’n sbarduno’r ymennydd yn iachâd rhyfeddol, gallant wella ansawdd bywyd pobl gyda dementia ac mewn rhai achosion arafu ei ddatblygiad.
Fodd bynnag, mae’n bwysig sylweddoli nad yw rhai o’r penawdau mawr am ddementia yn seiliedig ar dystiolaeth glinigol gadarn bob tro.
Synnwyr cyffredin yw llawer o’r dystiolaeth, ac fel rheol, os yw rhywbeth yn dda i’r galon, mae’n dda i’r ymennydd.
Archwiliadau iechyd
Dylai pobl sy’n byw â dementia barhau i ddefnyddio gwasanaethau lleol a chael archwiliadau rheolaidd gan eu meddyg teulu.
Mae hybu iechyd yn hollbwysig i leihau’r risgiau o gymhlethdodau a allai effeithio ar iechyd a lles a gwaethygu symptomau dementia.
Gall problemau gyda gweld a chlywed ychwanegu at ddryswch dementia, felly cofiwch sicrhau apwyntiadau rheolaidd.
Hefyd, gall ymweliadau rheolaidd â’r ciropodydd sicrhau traed iach. Mae gofal traed gwael yn achosi codymau ac yn golygu bod y person yn symud llai.
Gall archwiliadau deintyddol amserol i drin neu reoli problemau gyda dannedd, deintgig neu ddannedd gosod helpu i ladd poen neu anghysur, ac anawsterau bwyta neu yfed.
Deiet a dementia
Mae deiet iach yn bwysig i iechyd yn gyffredinol. Bydd rhai pobl â dementia yn bwyta gormod ac yn ennill pwysau, a allai effeithio ar eu gallu i symud.
Mewn achosion eraill efallai bydd pobl yn dioddef o ddiffyg maeth.
Gall hyn achosi lludded, dryswch, sensitifrwydd, rhwymedd, gwendid yn y cyhyrau a mwy o risg o haint.
Mae rhai problemau gyda bwyta ac yfed yn cael eu hachosi gan newidiadau yng ngallu person i reoli’r bwyd yn eu cegau.
Efallai y byddant yn dioddef o broblemau cnoi a llyncu.
Efallai bod eu harchwaeth wedi newid. Yn aml, mae pobl yn cael mwy o flas ar fwydydd mwy melys neu’n profi newidiadau yn eu hawydd i fwyta.
Os ydych chi’n sylwi ar unrhyw newidiadau, mae’n rhaid i chi gyfeirio pobl at gyngor arbenigol gan therapyddion lleferydd ac iaith a/neu ddeietegwyr.
Gallai newidiadau syml wneud gwahaniaeth mawr, fel newid deiet person, cryfhau bwyd, neu roi llai o fwyd yn amlach.
Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni gael cyngor arbenigol.
Bwyta’n dda: canllawiau ymarferol ar gefnogi pobl hŷn a phobl hŷn â dementia (Saesneg yn unig)
Pwysigrwydd ymarfer corff
Mae parhau’n gorfforol egnïol yn bwysig hefyd.
Dylech annog pobl i symud o gwmpas yn eu cartref eu hunain a’r gymuned ehangach.
Gall gweithgarwch corfforol gynnwys dosbarthiadau wedi’u strwythuro neu fynd am dro yn yr ardd.
Dewis gweithgarwch sy’n cymell y person sy’n bwysig, a dylech eu hannog i wneud yr hyn maen nhw wedi’i wneud erioed i gadw’n heini.
Mae llawer o ganolfannau hamdden yn darparu cymorth arbenigol am ddim i bobl hŷn neu bobl ag anabledd, o dan Gynllun Atgyfeirio Ymarfer Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
Gall clybiau lleol gynnal dosbarthiadau cydbwysedd a ffitrwydd, fel Elderfit.
Ymddengys fod gan ‘ymarfer gwyrdd’ fanteision ychwanegol i bobl â dementia.
Mae hyn yn golygu ymarfer yn yr awyr agored, cerdded yn yr ardd, rhedeg yn y parc neu fynd â’r ci am dro efallai.
Gorau oll os ydych chi’n ei fwynhau gyda ffrindiau!
Mae Age Cymru yn darparu hyfforddiant swyddogaeth llai heriol, sef cyfres o weithgareddau a gemau ar gyfer pobl 50 oed a hŷn.
Adnoddau defnyddiol
Porth Twitter lle gall pobl rannu cyngor am fyw â dementia (Saesneg yn unig)
Eisiau eich adborth
Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.