Os yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddementia mewn oed gweithio, efallai eu bod wedi gorfod rhoi’r gorau i’w gwaith cyflogedig.
Cymorth ariannol i bobl sy'n byw gyda dementia
Mae cymorth ariannol ar gael i nifer ond gall deall beth sydd ar gael fod yn ddryslyd.
Gall yr elusen Age Cymru ddarparu gwybodaeth a chyngor am faterion ariannol (Saesneg yn unig). Mae llinell gymorth 0800 223 444 ar gael ac mae swyddfeydd lleol y gellir dod o hyd iddyn nhw ar eu gwefan.
Mae Llwybrau trwy Ddementia yn helpu pobl i ddatrys trefn gyfreithiol y siwrnai drwy ddementia, fel talu am ofal, rheoli arian a budd-daliadau lles (Saesneg yn unig).
Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifiannell buddiannau ar-lein y gallwch ei ddefnyddio i weld pa fudd-daliadau y mae gan rywun sy’n byw gyda dementia neu berson sy’n eu cynorthwyo yr hawl i’w cael.
Ffeithiau am gost ariannol dementia
Yn ôl adroddiad y Gymdeithas Alzheimer, Costau Cudd Dementia yng Nghymru, mae dementia’n costio £1.4 billion i Gymru, sy’n cyfateb i gyfartaledd o £31,300 y pen bob blwyddyn (Saesneg yn unig).
- Caiff £196 miliwn ei wario ar gostau gofal iechyd
- Caiff £535 miliwn ei wario ar gostau gofal cymdeithasol (wedi ei ariannu yn gyhoeddus ac yn breifat)
- Caiff £622 miliwn ei gyfrannu gan waith gofalwyr di-dâl o bobl sydd â dementia
- Caiff £6 miliwn ei wario ar gostau eraill, gan gynnwys costau heddlu am ymholiadau pobl goll, gwasanaethau eiriolaeth ac ymchwil
- Mae gofal di-dâl yn cyfrif am 75 y cant o gyfanswm y gost ar gyfer pobl gyda dementia sy’n byw yn y gymuned, a 46 y cant o gyfanswm cost y boblogaeth gyffredinol sydd â dementia yng Nghymru.
Costau anuniongyrchol o fyw gyda dementia
Daeth Dementia yn y Teulu (Saesneg yn unig), adroddiad Ymchwil Alzheimer y DU, i’r casgliad bod gofalwyr teuluol yn fwy tebygol o brofi llai o gyfleoedd gwaith ac incwm, yn ogystal â’r costau ariannol o ddarparu gofal, gan gynnwys:
- biliau ynni uwch
- bwyd arbenigol
- biliau ffôn uwch
- costau trafnidiaeth uwch
- cynnyrch gofal
- offer ac addasiadau.
Eisiau eich adborth
Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.