Mae’r dull lleol o ddysgu a datblygu yn cael ei gydgynhyrchu â phobl sydd â dementia, teuluoedd, a staff. Caiff ei gydgysylltu rhwng partneriaid drwy gynlluniau dysgu a datblygu rhanbarthol a strwythurau partneriaeth.
Mae cynlluniau dysgu a datblygu yn ymarferol a chyraeddadwy. Maent
- wedi’u seilio ar wrando ar beth mae staff a phobl leol am ei gael
- yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu a nifer o sianeli i staff ac eraill gael cymryd rhan.
Mae dysgu a datblygu yn ymwneud â gwerthoedd, agweddau meddwl, cyfathrebu ac ymddygiad timau. Mae hyn yn galw am ddull o ddysgu a datblygu drwy brofiad, yn ogystal â bod yn onest ac agored am ein rhagfarnau ein hunain.
Mae ffocws ar ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Dyma’r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i gael yr effaith fwyaf ar lesiant pobl sydd â dementia am ei fod yn gallu newid y profiad o ofal a’r diwylliant gofal. Ond mae’n galw am ddull ‘system gyfan’ lle:
- mae dylanwadwyr yn siapio’r weledigaeth ac yn hyrwyddo partneriaethau ar draws y ‘system gyfan’ o ofal a chymorth
- mae dylanwadwyr yn cael eu hyfforddi, yn cael eu cefnogi ac yn cefnogi eraill
- mae gan ddylanwadwyr yr offer a’r adnoddau sydd eu hangen i gynorthwyo dysgwyr
- mae darparwyr gofal a chymorth lleol yn gwybod bod pobl sydd â dementia a’u teuluoedd yn defnyddio nifer o wasanaethau, ar yr un pryd yn aml, felly maent yn cydweithio
- mae digon o weithgareddau dysgu a datblygu yn digwydd yn y lleoedd iawn a chyda’r bobl iawn er mwyn cyrraedd trobwynt a fydd yn newid y diwylliant a phrofiadau pobl sydd â dementia a’u teuluoedd
- mae staff yn cael yr amser a’r lle sydd eu hangen arnynt i ddatblygu agweddau cadarnhaol at ddementia, ac i ddysgu, tyfu a myfyrio
- mae modelau seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu defnyddio i gynnwys pobl â dementia a’u teuluoedd
- mae pob unigolyn sy’n byw gyda dementia yn cael ei weld yn unigryw, â’i hunaniaeth, ei hanes a’i normau cymdeithasol diwylliannol ei hun, yn hytrach na’i weld o safbwynt dementia
- mae profiadau teuluoedd a gofalwyr yn cael eu cynnwys mewn ffordd gyfannol.
Mae lleoliadau i fyfyrwyr nyrsio mewn cartrefi gofal yn werthfawr. Mae lleoliadau yn ffordd effeithiol i fyfyrwyr ddeall beth yw ystyr byw gyda dementia a gofalu am bobl â dementia mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae’n bwysig bod cynnwys y gweithgareddau ar gyfer dysgu a datblygu mewn gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei seilio ar ddealltwriaeth o lwybr dementia unigryw yr unigolyn. Dylai ganolbwyntio ar y canlynol:
- deall arwyddion cynnar dementia
- darparu cymorth ‘gwrando gweithredol’ mewn ffordd sensitif ac ystyriol
- hyrwyddo urddas, parch ac annibyniaeth
- holi am brofiadau’r unigolyn a’u deall, yn cynnwys pethau sy’n bwysig iddo neu’n achosi pryder iddo
- darparu cyngor a chymorth i gael at wasanaethau ataliol, cymunedol ac arbenigol
- cael digon o amser i wrando a gofalu.
Prif nodweddion rhaglenni dysgu a datblygu effeithiol
Mae ymchwil yn dangos yr effaith o hyfforddiant ac addysg ar sgiliau a hyder staff wrth gynorthwyo pobl sydd â dementia (Surr et al, 2017).
Roedd astudiaeth yn Lloegr a gomisiynwyd ar ran Health Education England yn 2018 dan yr enw What Works? wedi edrych ar beth sy’n gweithio mewn addysg a hyfforddiant dementia. Yr astudiaeth hon:
- yw’r gwerthusiad mwyaf cynhwysfawr a gafwyd hyd yn hyn yn y DU o ddysgu a datblygu mewn gofal dementia
- arweiniodd at nifer o weithiau academaidd, yn cynnwys Surr a Gates, 2017; Surr et al, 2017; Surr et al 2020a; Sass et al, 2019; Smith et al 2019; Surr et al 2019; Surr 2020b
- edrychodd ar nodweddion y sesiynau hyfforddi mwyaf effeithiol ar gyfer gofal dementia.
Dyma’r canfyddiadau:
Cynnwys:
- sydd wedi’i deilwra fel ei fod yn ymarferol ac yn berthnasol i rôl, profiad ac ymarfer y dysgwyr
- sy’n cynnwys offer a dulliau penodol ar gyfer darparu gofal
- sy’n cyfleu’r profiad o fyw gyda dementia drwy fideo, efelychu neu gynnwys pobl sydd â dementia yn yr hyfforddiant.
Hyd:
- o fwy na hanner diwrnod ar gyfer pob testun, os oes modd. Mae rhaglenni hirach a mwy manwl (un neu ddau ddiwrnod) yn fwy tebygol o greu canlyniadau cadarnhaol
- os yw rhaglen yn cynnwys nifer o sesiynau, dylai pob sesiwn fod o leiaf ddwy awr o hyd.
Darparu:
- drwy ddysgu wyneb yn wyneb mewn grŵp bach neu fawr (un ai ar ei ben ei hun neu ochr yn ochr â dull dysgu arall) ac osgoi dulliau addysgu didactig
- drwy gynnwys gweithgareddau a chyfleoedd dysgu rhyngweithiol ar gyfer trafod a rhyngweithio gan ddysgwyr, yn defnyddio achosion enghreifftiol neu senarios seiliedig ar fideo, neu’n tynnu ar enghreifftiau o ymarfer y dysgwyr
- drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu, er mwyn peidio â dibynnu’n ormodol ar un dull, fel llyfrynnau neu e-ddysgu
- gan hwylusydd gwybodus, medrus a phrofiadol sydd hefyd yn glinigydd neu ymarferydd profiadol ac sy’n gallu darparu’r hyfforddiant mewn ffordd hyblyg.
Cyd-destun
Dylech sicrhau:
- cyd-destun sefydliadol a diwylliant dysgu sy’n gefnogol, ynghyd ag arweinyddiaeth gadarn, ymroddedig ar ymarfer a hyfforddiant dementia
- eich bod yn defnyddio man hyfforddi pwrpasol
- bod yr amgylchedd ffisegol yn briodol i ddarparu gofal dementia da.